Mrs Lucy Dolloway-Dumbrill

Cynorthwyydd Personol y Weithrediaeth
Manylion Cyswllt
- Ebost: lad14@aber.ac.uk
- Swyddfa: Canolfan Ddelweddu
- Ffôn: +44 (0) 1970 622011
Proffil
Cyfrifoldebau
Mae tîm Swyddfa'r Is-Ganghellor yn gweithio ar y cyd i ddarparu cymorth ar lefel uchel i Weithrediaeth y Brifysgol yn gyffredinol. Mae Lucy yn rhoi cymorth gweinyddol uwch penodol ar gyfer yr Athro Tim Woods. Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys: rheoli a chydlynu ffrydiau gwaith; trefnu a mynychu cyfarfodydd a chymryd cofnodion; sicrhau bod camau digonol, effeithiol a phriodol yn cael eu cymryd i ymdrin â gwaith sy'n dod i mewn; paratoi llythyrau, memos, papurau a deunydd ysgrifenedig arall; darllen proflenni a gwirio dogfennau i sicrhau cywirdeb; cydgysylltu â chynrychiolwyr ledled y Brifysgol ac aelodau o sefydliadau allanol; cyfrannu at y gwaith o rhedeg digwyddiadau (e.e. Graddio, Derbyniadau, digwyddiadau mewnol o Swyddfa'r Is-Ganghellor, Seremonïau Gwobrwyo a.y.b.) a chyflawni tasgau penodol eraill a gwaith prosiect.
Bywgraffiad
Ymunodd Lucy â Swyddfa'r Is-Ganghellor yn Nhachwedd 2014 fel Cynorthwy-ydd Gweithredol Personol. Cyn hynny roedd hi'n gweithio i'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes am bron i bedair blynedd. Bu Lucy yn gweithio hefyd mewn amryfal swyddi i Gyngor Sir Ceredigion, Heddlu Dyfed-Powys ac Ysgol Penglais. Bu Lucy yn dysgu Cymraeg am amryw o flynyddoedd ac mae hi'n un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.