Aros Aber

Gyda dros 2,000 o ystafelloedd ar gael ledled ein hystad breswyl yn ystod yr haf, mae ein llety yn ddiguro yng Ngorllewin Cymru.
Rydym yn cynnig llety sy’n addas ar gyfer pob cyllideb, o ystafelloedd gwely sylfaenol i’n datblygiad newydd sbon, Fferm Penglais. Mae pob gwestai preswyl yn cael mynediad am ddim i’n Canolfan Chwaraeon, sydd â champfa newydd sbon a phwll nofio.
Ceir Wi-Fi am ddim ledled y campws. Fodd bynnag, noder bod yn rhaid i westeion gofrestru i greu cyfrif a chytuno i’r telerau ac amodau er mwyn cael defnyddio cyfleusterau’r rhwydwaith.
Mae llety safonol ar gael trwy gydol y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni trwy anfon neges e-bost i conferences@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621960.
Accommodation Prices & Availability 2019/20
|
Prisiau Grwpiau yn dechrau o |
Nifer yr ystafelloedd sydd ar gael |
Argaeledd |
---|---|---|---|
Cwrt Mawr |
£20.00 |
650 |
1af Gorffennaf – 8fed Medi 2019 |
Rosser |
£24.75 |
250 |
1af Gorffennaf – 8fed Medi 2019 |
Fferm Penglais |
£29.75 |
800 |
8fed Gorffennaf – 9fed Medi 2019 |
Byncws |
£19.75 |
90 |
Trwy gydol y flwyddyn |
*Noder os gweler yn dda nad yw’r prisiau uchod yn cynnwys TAW
Gwybodaeth i ymwelwyr
Amser cyrraedd – o 3yp ymlaen
Amser gadael - erbyn 9 yb (10 yb i’r Byncws)
Nid oes angen amser penodol i gyrraedd, mae’r Prif Derbynfa ar agor 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos
Cyfraddau Arlwyo
Gall ein llety gael eu archebu ar ffurf hunan-gynhaliaeth neu arlwyo.
Gweler y telerau ar gyfer y opsiynnau arlwyo.
Brecwast | £6.00 |
Cinio | £6.75 |
Swper | £6.75 |