Newyddion
Gwahardd yr wrthblaid, mynd ar daith wrando: Mae Putin yn poeni am yr etholiad sydd i ddod
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers yn esbonio sut mae'n ymddangos bod y gostyngiad mewn cefnogaeth gyhoeddus i'r rhyfel ac i Putin ei hun wedi gadael arweinydd Rwsia yn fwyfwy anesmwyth.
Darllen erthygl
Cynnydd ‘calonogol’ mewn gorchudd mangrof byd-eang er gwaethaf colledion mewn rhanbarthau allweddol, yn ôl data
Mae gorchudd mangrof byd-eang - llystyfiant sy'n hanfodol i fynd i'r afael â newid hinsawdd - wedi cynyddu dros y 40 mlynedd diwethaf, er gwaethaf colledion sylweddol mewn rhai rhanbarthau allweddol, yn ôl dadansoddiad newydd.
Darllen erthygl
Beth pe bai ein dinasoedd wedi'u cynllunio ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â phobl?
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Saman Sobhani o'n Hysgol Fusnes yn trafod ei ymchwil sy’n awgrymu y dylai cynllunio trefol gydnabod anifeiliaid, planhigion ac ecosystemau fel rhan o gymunedau ein dinasoedd.
Darllen erthygl
Cyn i fythau Groegaidd gyrraedd y sgrin fawr, roedden nhw'n arfau dychan gwleidyddol
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Callum Smith yn esbonio sut roedd gwawdlunwyr y 18fed ganrif yn gwybod yr hyn y mae gwneuthurwyr ffilmiau modern yn ei ddeall: gellir addasu mythau hynafol yn ddiddiwedd ar gyfer cynulleidfaoedd newydd.
Darllen erthygl
Mewn DU fwy datganoledig, a ddylai Llundain fod yn gyfrifol am ddarlledu o hyd?
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Jamie Medhurst yn egluro bod Cymru yn pwyso am fwy o lais dros ddarlledu wrth i gydbwysedd cyfansoddiadol y DU barhau i newid.
Darllen erthygl
Ben Lake AS yn gweld gwaith arloesol Prifysgol Aberystwyth wrth frwydro yn erbyn malaria
Mae’r AS dros Geredigion Preseli, Ben Lake, wedi ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i ddysgu am eu hymchwil sy'n cyfrannu at y frwydr yn erbyn malaria.
Darllen erthygl
Gwersi o Ganada ar farwolaeth â chymorth
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Bethany Simmonds yn esbonio sut mae cyfraith marw â chymorth Canada wedi ehangu ers 2016. Beth all Cymru a Lloegr ei ddysgu am ddiogelwch, cymhwysedd a phwysau cymdeithasol?
Darllen erthygl
Amrywiaeth buchesi gwartheg traddodiadol yn cael ei heffeithio gan fridio dethol – ymchwil
Mae degawdau o fridio dethol ac arferion amaethyddol dwys wedi ail-lunio geneteg gwartheg - yn aml ar draul amrywiaeth werthfawr a gedwir mewn buchesi traddodiadol - yn ôl ymchwil newydd gan ein gwyddonwyr.
Darllen erthygl
Gwyddonwyr y Brifysgol yn dod â sioe fawr eclips yr haul i lan môr Aberystwyth
Yr wythnos nesaf mae's Brifysgol yn cynnal digwyddiad arbennig ar y Prom i ddangos eclips yr haul, lle gall y cyhoedd ddysgu gan arbenigwyr ac edrych yn ddiogel ar sioe ysblennydd yr wybren.
Darllen erthygl
Prosiect cadwraeth newydd yn gwarchod bywyd gwyllt prin mewn perllannau
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn helpu i ddiogelu rhai o rywogaethau prinnaf y wlad a geir mewn perllannau, yn rhan o fenter gadwraeth bwysig.
Darllen erthygl
Ymchwilio i gŵn fferm a’u cysylltiad â lledaeniad clefyd llyngyr sy'n peryglu bywyd
Mae astudiaeth arloesol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut y gallai’r rhyngweithio dyddiol rhwng pobl a chŵn yng nghefn gwlad Cymru fod yn helpu llyngyr niweidiol i ledaenu rhwng rhywogaethau.
Darllen erthygl
Academydd o Aberystwyth yn ennill gwobr ryngwladol am lyfr ar gudd-wybodaeth y Rhyfel Oer
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr ryngwladol fawreddog am ei llyfr ar hanes cydweithrediad cudd-wybodaeth yn ystod y Rhyfel Oer.
Darllen erthygl
A oes gan siaradwyr Cymraeg synnwyr digrifwch gwahanol? Astudiaeth newydd
Mae hiwmor yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd, ond a yw’n bosib bod siarad Cymraeg yn dylanwadu ar yr hyn a gawn yn ddoniol? Dyna'r cwestiwn y mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio iddo.
Darllen erthygl
Deg ffordd syml a phrofedig o leihau eich amlygiad i lygryddion yn eich cartref
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Becky Underwood o'n Hadran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn trafod cyngor arbenigol ar leihau amlygiad i lygryddion niweidiol a chemegau gwenwynig a geir mewn bywyd modern.
Darllen erthygl