Isafswm y Cynnwys Gofynnol ar Blackboard

Ffeiliau Canllaw

Isod mae dolenni ar gyfer copïau y gellir eu hargraffu o Ganllaw RMP Blackboard ar gyfer staff:

IPG Blackboard Word

IPG Blackboard PDF

Canllaw IPG

Blackboard yw amgylchedd dysgu ar-lein Prifysgol Aberystwyth (PA). Mae gan bob modiwl PA ei safle cwrs ei hun ar Blackboard. Mae'r Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG) yn rhoi cysondeb er mwyn i fyfyrwyr allu dod o hyd i'r cynnwys y mae arnynt ei angen.  

Nid yw'r IPG yn berthnasol i gyrsiau Aber Ar-lein sydd â'u safonau a'u gofynion eu hunain.I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Aber Ar-lein, cysylltwch ag aberarlein@aber.ac.uk.

I gael cymorth i ddefnyddio Blackboard, gweler ein canllaw staff ar gyfer Blackboard. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Blackboard, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk). 

Hygyrchedd 

Dylai'r holl gynnwys a uwchlwythir ac a gynhyrchir ar Blackboard fod mor hygyrch â phosib i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu ei ddefnyddio. Gweler Cyfarwyddyd PA ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch PA i gael rhagor o wybodaeth. Mae Blackboard Ally ar gael ym mhob cwrs a dylai staff gynnal safle’r cwrs drwy ddefnyddio’r adroddiad cwrs a thrwy ddatrys unrhyw broblemau sy’n codi. 

Sgôr Ally o 70% neu uwch yw’r IPG safonol ym mhob cwrs. 

Templed

Mae pob un o safleoedd cyrsiau PA Blackboard yn defnyddio templed y cytunwyd arno sydd â lle ar gyfer gwybodaeth graidd ynghyd â chynnwys y cytunwyd arno ar gyfer polisïau ar lefel Prifysgol. Cytunir ar y templed ar gyfer cyrsiau bob blwyddyn gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Cydlynwyr y Modiwlau sy’n gyfrifol am drefn y deunyddiau yn eu cyrsiau. Ni ddylai staff ddileu cynnwys templed. 

Ardal Gwybodaeth Modiwl 

Dylai’r ardal gwybodaeth am y modiwl gynnwys y canlynol: 

  • Amlinelliad o'r modiwl, nodau a deilliannau dysgu. Gellir darparu llawlyfr modiwl y gellir ei lawrlwytho ar wahân sy'n cynnwys yr wybodaeth hon.  
  • Deunyddiau cyflwyno i helpu myfyrwyr i ymgyfarwyddo â gofynion y modiwl, wedi'u trefnu mewn un ffolder. Darparwch gyfarwyddiadau clir i fyfyrwyr ar sut i ymgymryd â'r modiwl a'r gweithgareddau dysgu. 
  • Dolen i unrhyw wybodaeth iechyd a diogelwch berthnasol ar gyfer astudio'r modiwl, gan gynnwys asesiadau risg lle bo hynny'n berthnasol. 
  • Gwybodaeth am staff sy'n dysgu'r cwrs gan gynnwys manylion cyswllt ac phryd maent ar gael, sut i drefnu cyfarfod (yn bersonol neu ar-lein) a pha bryd y dylai myfyrwyr ddisgwyl cael ateb i ymholiad. 
  • Manylion am sut y gall myfyrwyr roi adborth ar y modiwl, a gofyn cwestiynau am y modiwl. 
  • Dolen i offer Cwrs Holl Fideos Panopto.  

Lleoliad trefnus ar gyfer Deunyddiau Dysgu 

Dylid creu strwythur ffolder neu Fodiwl Dysgu ar gyfer Deunyddiau Dysgu. Er mwyn i staff gael bod yn gyfrifol am y ffordd y trefnir y cynnwys, nid ydym wedi pennu strwythur penodol.  

Dylai'r staff sicrhau: 

  • Bod y cynnwys wedi’i drefnu'n glir gyda ffolderi /Modiwlau Dysgu yn ôl wythnosau neu bynciau (gweler y canllawiau ar greu cynnwys i gael rhagor o wybodaeth). 
  • Bod yr holl gynnwys, gan gynnwys ffolderi / Modiwlau Dysgu, yn cael eu henwi'n glir ac yn gyson. 
  • Bod yr holl ddeunyddiau dysgu perthnasol yn cael eu huwchlwytho i safle'r cwrs ar Blackboard – mae hyn yn cynnwys sleidiau PowerPoint, taflenni, nodiadau neu ddeunyddiau ategol eraill. 
  • Bod yr holl ddeunyddiau perthnasol i sesiwn ddysgu yn cael eu huwchlwytho 1 diwrnod gwaith cyn i’r sesiwn ddigwydd. Noder y bydd gan rai myfyrwyr gofnod o ddarpariaeth cymorth sy'n gofyn am uwchlwytho deunyddiau yn gynharach – bydd yr amserlen a nodir gan y cofnod bob amser yn cael blaenoriaeth. 
  • Bod y deunydd yn parhau i fod ar gael ar ôl i fyfyrwyr eu gweld.Dylid cuddio deunyddiau i sicrhau uniondeb asesu’n unig a dylid eu gwneud ar gael eto ar ôl i'r broses asesu gael ei gwblhau. 
  • Bod y gweithgareddau dysgu'n cael eu hychwanegu ochr yn ochr â'r deunyddiau ategol perthnasol (adnoddau dysgu). 
  • Cyfarwyddiadau clir i fyfyrwyr ar beth i'w wneud gyda phob adnodd. 
  • Rhaid i'r holl ddeunyddiau dysgu fod mor hygyrch â phosib. Os na ellir gwneud rhai eitemau yn gwbl hygyrch, eglurwch pam a chyfeiriwch at y canllaw ar ddefnyddio Blackboard Ally. Gweler y Cyfarwyddyd ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch i gael mwy o wybodaeth. 
  • Bod yr holl gynnwys a ddefnyddir yn cydymffurfio â deddfwriaeth hawlfraint. 

Ardal Asesu ac Adborth 

Dylai'r ffolder asesu ac adborth gynnwys: 

  • Cyfarwyddiadau am yr aseiniad cyn dechrau'r addysgu.Dylai'r rhain gynnwys disgrifiad o'r aseiniad, meini prawf marcio, a dyddiadau cau. 
  • Datganiad ar lefel y defnydd derbyniol ar gyfer DA Cynhyrchiol ym mhob aseiniad.Gellir copïo'r rhain o'r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu neu eu creu gan gydweithwyr. 
  • Mannau cyflwyno aseiniadau gyda gwybodaeth lawn gan gynnwys y dyddiad a’r amser hwyraf y ceir cyflwyno’r aseiniad. 
  • Pwy y dylid cysylltu â hwy os yw myfyrwyr yn cael trafferth yn cyflwyno aseiniadau. Cyfeiriwch y myfyrwyr at y Tîm Addysg Ddigidol i gael cymorth technegol ( eddysgu@aber.ac.uk).  

Ardal (gudd) Arholwyr Allanol 

Dylai'r ffolder hon gynnwys: 

  • Eitemau yr hoffech i'r Arholwr Allanol eu gweld. 
  • Aseiniadau wedi'u marcio a lawrlwythwyd ar gyfer eu safoni. 
  • Tystiolaeth o brosesau safoni. 
  • Ni ddylai'r ffolder hon fyth fod yn weladwy i fyfyrwyr. 
  • Copi o ganllawiau Turnitin (ar gyfer staff y Gofrestrfa sy’n gosod mannau cyflwyno estyniad). 

Rhestr Ddarllen Aspire 

Dylid ychwanegu’r rhestr ddarllen Aspire fel eitem ar wahân (yn hytrach nag mewn ffolder) a’i gosod ar y tab Cynnwys fel un o'r chwe eitem uchaf (gweler Polisi Rhestr Ddarllen). 

Cyrsiau wedi’u Cyfuno 

Pan fo cyrsiau Saesneg a Chymraeg wedi'u cyfuno gyda’r cwrs Saesneg yn brif gwrs, dylid uwchlwytho'r canlynol yn Gymraeg: 

  • Llawlyfr modiwl (os defnyddir llawlyfr modiwlau Saesneg). 
  • Cyfarwyddiadau am yr aseiniad, gan gynnwys disgrifiad o’r aseiniad, meini prawf marcio, dyddiadau cyflwyno a datganiad ar lefel y defnydd derbyniol o DA Cynhyrchiol. 
  • Dolen i'r rhestr ddarllen ar gyfer y cwrs Cymraeg (neu defnyddiwch y rhestr Saesneg ar gyfer adnoddau Cymraeg gweler y Cwestiwn Cyffredin am arweiniad). Gweler canllawiau'r Coleg Cymraeg ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i gael gwybodaeth am ofynion ar gyfer Cyrsiau cyfrwng Cymraeg. 

Dylid uwchlwytho unrhyw adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg a gynhyrchir ar gyfer y cwrs. Anogir staff i ddefnyddio'r templed Cymraeg dwyieithog ar gyfer cyrsiau Cymraeg / Saesneg wedi’u cyfuno.

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe'i adolygwyd ddiwethaf ym mis Chwefror 2026 gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Chwefror 2027. / This Policy is maintained by Information Services, was last reviewed by Quality and Standards Committee in February 2026 and is due for review in February 2027. 

Rhestr wirio’r Cynnwys Gofynnol ar Blackboard

Eitem i'w hystyried

Ticiwch ar ôl cwblhau

Mynediad

Mae gennych awdurdod hyfforddwr ar gyfer cwrs/cyrsiau rydych yn eu dysgu neu'n eu marcio

 

Gwybodaeth Modiwlau

 

Amlinelliad o'r modiwl, nodau a chanlyniadau dysgu. Gellir cynnwys y rhain mewn llawlyfr modiwl ar wahân.

 

Deunyddiau ymgynefino ar gael

 

Gwybodaeth ynghylch pa pryd y bydd cynnwys yn cael ei ryddhau i fyfyrwyr.

 

Asesiadau risg, a gwybodaeth iechyd a diogelwch os yw'n berthnasol

 

Manylion cyswllt y staff sy'n dysgu'r modiwl

 

Dolen i’r offer Holl Fideos Panopto

 

Lleoliad trefnus ar gyfer Deunyddiau Dysgu

 

Cynnwys wedi'i drefnu'n glir yn y strwythur ffolder /  Modiwl Dysgu.

 

Dolenni i recordiadau Panopto ar gael

 

Taflenni sleidiau PowerPoint, nodiadau neu ddeunyddiau ategol eraill

 

Holl ddeunyddiau dysgu ar gael 1 diwrnod cyn y digwyddiad ac yn parhau ar gael wedyn (oni bai bod gofynion uniondeb asesu)

 

Gweithgareddau dysgu wedi'u trefnu gydag adnoddau dysgu perthnasol a chyfarwyddiadau ar beth i'w wneud gyda'r adnoddau

 

Cynnwys yn cydymffurfio â deddfwriaeth hawlfraint

 

Asesu ac Adborth

 

Gwybodaeth asesu gan gynnwys meini prawf marcio.

 

Mannau cyflwyno aseiniadau gyda dyddiadau ac amseroedd cyflwyno'r aseiniad wedi'u nodi'n glir 

 

Cyfarwyddiadau am yr aseiniad (gan gynnwys Datganiad DA Cynhyrchiol) i’w uwchlwytho cyn dechrau'r addysgu.

 

Gwybodaeth am bwy i gysylltu â nhw os ceir unrhyw anawsterau wrth gyflwyno

 

Rhestr Ddarllen Aspire

 

 

Dolen i Restr Ddarllen Aspire a grëwyd ar dudalen gynnwys y modiwl

 

Ffolder (gudd) Arholwyr Allanol

 

Eitemau i'w safoni a'u hadolygu gan Arholwr Allanol

 

Copi o’r canllawiau Turnitin a ddefnyddiwyd

 

Pethau i'w gwirio

 

Mae enwau'r ffeiliau yn ystyrlon    

 

Mae'r dolenni i ffeiliau a gwefannau yn gweithio

 

Mae'r wybodaeth yn gyfredol (a deunyddiau sydd wedi dyddio wedi'u tynnu neu’u cuddio)

 

Mae deunyddiau a dogfennau'r cwrs mewn fformatau hygyrch           

(gweler Cyfarwyddyd ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch i gael rhagor o wybodaeth)

 

Sgôr Blackboard Ally o 70% neu uwch

 

Cyrsiau Cymraeg-Saesneg wedi’u cyfuno yn cynnwys deunyddiau Cymraeg perthnasol

 



Gwybodaeth Ychwanegol

Mae mwy o wybodaeth a chefnogaeth ar gael:

 Defnyddio eich Data

  • Mae Blackboard (a Canvas ar gyfer Aber Ar-lein) yn wasanaeth cwmwl. Golyga hyn fod y cwmnïau’n dal gwybodaeth am staff a myfyrwyr.
  • Mae'r wybodaeth yn cynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, y rhai a gofrestrwyd ar fodiwlau a'u swyddogaeth yng nghyswllt y modiwl.Bydd copi o waith a gyflwynwyd, sylwadau adborth a graddau, yn ogystal â chyfraniadau at fforymau trafod ac adnoddau eraill hefyd yn cael eu storio.
  • Hefyd, gallai staff PA ddefnyddio data a gynhyrchwyd o'r ddau wasanaeth yn rhan o wasanaeth Dadansoddi Dysgu PA.Ceir gwybodaeth am Ddadansoddeg Dysgu yn https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp/learning-analytics/.