Cyfarwyddyd Hygyrchedd Digidol i Staff

Rydym eisiau i bawb sy'n defnyddio ein gwefannau, ein systemau ar y we a’n hapiau symudol i allu darganfod, darllen a deall ein cynnwys.

I gyflawni hyn, mae angen i bawb gyfrannu tuag at sicrhau bod ein cynnwys yn hygyrch i bawb.

Rydym wedi paratoi cyfarwyddyd i staff i roi’r offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i greu cynnwys hygyrch.

Strategaeth a Pholisi Hygyrchedd Digidol

Cyfarwyddyd i Ddefnyddwyr CMS

Chi sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y cynnwys yr ydych yn ei greu gan ddefnyddio’r CMS yn hygyrch. Mae yna nifer o awduron CMS a nifer o weddalennau ar ein safleoedd, felly mae angen i chi fod yn gyfrifol am eich cynnwys eich hun. Efallai eich bod eisoes yn creu cynnwys hygyrch, ond edrychwch ar y ddogfen isod i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau hyn.

I'ch helpu i asesu a gwella hygyrchedd eich cynnwys, defnyddiwch y dogfennau isod:

Hyfforddiant:

Hyfforddiant Hygyrchedd Digidol i Ddefnyddwyr CMS

Cyfarwyddyd i Reolwyr

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cynnwys yr ydych yn ei ddarparu ar gyfer Golygwyr y CMS yn hygyrch. Er nad chi sy’n rhoi’r cynnwys ar y wefan, mae angen i chi ddeall sut i ddarparu eich cynnwys yn y fformat gorau, gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol (megis testun amgen). Efallai eich bod eisoes yn creu cynnwys hygyrch, ond edrychwch ar y ddogfen isod i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau hyn.

Archebwch le ar sesiwn Hyfforddiant Hygyrchedd Digidol i Reolwyr cyn gynted â phosibl.

Offer Hygyrchedd Digidol

  • Alt Text Tester  
    (Profi Testun Amgen)
    Estyniad i Chrome sy’n caniatáu ichi weld a osodwyd testun amgen ar ddelweddau ar eich tudalen.
  • axe
    Estyniad i Chrome sy’n cynnal profion wedi’u hawtomeiddio i adael i chi weld pa broblemau hygyrchedd sydd gennych ar eich tudalen. Mae hefyd ar gael ar gyfer Firefox - axe Firefox add-on.
  • Offeryn archwilio porwr
    Offeryn porwr wedi'i ymgorffori sy'n eich galluogi i wirio'r cod HTML ar gyfer rhan benodol o dudalen. Gall hyn eich galluogi i wneud pethau fel gwirio a oes gan ddelwedd destun amgen. Cliciwch fotwm de eich llygoden a dewis 'Inspect' neu 'Inspect element'.
  • headingsMap
    Estyniad i Chrome sy’n eich galluogi i wirio strwythur eich tudalen i wneud yn siŵr eich bod wedi defnyddio penawdau’n gywir. Mae hefyd ar gael ar gyfer Firefox - headingsMap Firefox add-on.
  • Hemingway Editor 
    Gall y teclyn hwn ar y we eich helpu i asesu'r testun yr ydych wedi'i ysgrifennu i sicrhau ei fod yn glir ac yn ddealladwy.
  • NVDA
    Darllenydd sgrin lawn yw hwn y gellir ei ddefnyddio i wirio sut mae'ch tudalennau'n gweithio ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin. Gellir ei osod trwy'r Ganolfan Feddalwedd (Software Centre).
  • SilkTide – Efelychwr Anabledd
    Estyniad i Chrome sy’n eich galluogi i weld sut fyddai eich tudalen yn ymddangos i rywun sy’n defnyddio darllenydd sgrin, yn ogystal â sut y byddai eich tudalen yn ymddangos i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg.
  • Site Spell 
    Estyniad ar gyfer Chrome sy'n tynnu sylw at eiriau sydd wedi’u camsillafu ar dudalennau ar y we.
  • WCAG Color contrast checker
    (Gwiriwr cyferbynnedd lliwiau WCAG)
    Estyniad i Chrome sy’n caniatáu ichi wirio a oes digon o gyferbynnedd rhwng y testun a’r cefndir. Mae ar gael hefyd i Firefox – WCAG Color contrast checker i Firefox.
  • WAVE Evaluation Tool 
    (Offer Gwerthuso WAVE)
    Estyniad i Chrome sy’n cynnal profion wedi’u hawtomeiddio i adael i chi weld pa broblemau hygyrchedd sydd gennych ar eich tudalen. Mae hefyd ar gael ar gyfer Firefox - WAVE Firefox add-on.

Cyfarwyddyd ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch

Gall y dewisiadau yr ydych yn eu gwneud wrth greu deunyddiau dysgu wneud gwahaniaeth mawr i’ch myfyrwyr. Mae’n hawdd gwneud dogfennau’n fwy hygyrch i’w defnyddio gan fyfyrwyr ac eraill sydd ag anabledd neu wahaniaeth dysgu penodol. Mae dogfennau hygyrch yn helpu’r holl fyfyrwyr i ddysgu’n haws.

Mae’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu ar y cyd â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn cynnig Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch, sesiwn hyfforddi i’r holl staff sy’n creu dogfennau Word, PowerPoint, ffeiliau PDF, neu fideos i fyfyrwyr. Mae’r sesiwn yn helpu staff i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau digidol y maent yn eu rhoi mewn cyrsiau Blackboard yn hygyrch. Mae’r sesiwn yn seiliedig ar ddwy daflen, y gallwch eu lawrlwytho isod: