Polisi Rhestrau Darllen

1. Cyflwyniad

Mae angen cydnabyddedig i reoli disgwyliadau myfyrwyr o ran argaeledd a hygyrchedd yr adnoddau sy’n cefnogi eu hastudiaethau, yn arbennig o fewn amgylchedd gwybodaeth sy’n cynyddu mewn cymhlethdod. Er bod nifer o ffactorau sy‘n cyfrannu at ddarparu mynediad priodol i adnoddau, rhestrau darllen yn aml yw’r man cychwyn ar gyfer myfyrwyr felly mae’n hanfodol bod y llyfrgell a chyd-weithwyr academaidd yn cydweithio i gael hyn yn iawn.

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi pwrcasu system rheoli rhestr ddarllen Aspire gyda’r nod o:

  • Alluogi academyddion i greu rhestrau darllen ar-lein yn gyflym ac yn hawdd.
  • Sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad parod i ddeunyddiau darllen hanfodol a’u bod yn ymwybodol o ddarllen pellach a all fod yn ofynnol.
  • Sicrhau bod prynu a darparu adnoddau yn gost-effeithiol, bod yr adnoddau ar gael yn y fformat cywir, ar yr adeg iawn ac mewn niferoedd sy’n ddigonol i gyfarfod ag amcanion dysgu ac addysgu y cwrs astudio.
  • Wneud y mwyaf o’r adnoddau electronig a phrint a brynwyd gan y llyfrgell.
  • Wneud y gwaith o archebu a phrosesu adnoddau a brynir gan y llyfrgell yn fwy effeithiol.
  • Sicrhau profiad cadarnhaol i fyfyrwyr, a dadwneud y syniad fod y Brifysgol wedi methu â darparu’r adnoddau angenrheidiol i’w cynorthwyo i gwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus.

Mae rhestrau darllen yn fwyaf defnyddiol i fyfyrwyr os ydynt:

  • Yn realistig: bod yr adnoddau ar gael ar ffurf ddigidol lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol, neu yn achos copïau caled, eu bod mewn stoc, gyda digon o gopïau a chyfnodau benthyca priodol.
  • Yn gywir: bod y myfyrwyr yn dod o hyd i’r adnoddau cywir, yn yr argraffiadau cywir.
  • Yn cynnwys nodiadau gyda lefelau o bwysigrwydd: bod y myfyrwyr yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt, a’r llyfrgell yn deall yr hyn y mae ei angen ei ddarparu.
  • Wedi eu gosod allan yn eglur: bod y myfyrwyr yn gallu gwahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o adnoddau ar y rhestr.
  • Yn cael eu diweddaru’n gyson: bod y myfyrwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
  • Yn cael eu hanfon i’r llyfrgell mewn da bryd: i sicrhau bod y llyfrgell yn gallu archebu’r adnoddau angenrheidiol.

2. Diben y polisi hwn

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu polisi’r Brifysgol ar restrau darllen ar lefel modiwl ac yn mynegi rolau a chyfrifoldebau’r Gwasanaeth Llyfrgell a’r Cynullwyr Modiwl / Crewyr y Rhestrau.

3. Cwmpas

Dylai’r polisi hwn gael ei fabwysiadu gan bob adran gan ei fod yn berthnasol i bob modiwl ar lefel israddedig a chyrsiau Meistr sydd â rhestrau darllen.

Nid yw’r polisi hwn yn berthnasol i safleoedd cangen-gampysau a phartneriaid masnachfraint lle y darperir cyfrifoldeb am ddarpariaeth llyfrgell yn lleol.

4. Pwrcasu adnoddau

4.1 Cyllid ar gyfer Rhestrau Darllen

Er mwyn sicrhau bod y cyswllt rhwng rhestrau darllen ar-lein ac archebu llyfrau yn parhau i fod yn gadarn, cyflwynwyd Polisi Dyrannu diwygiedig ar gyfer Cyllideb Adnoddau Llyfrgell ar gyfer 2014-2015. Mae’r polisi newydd yn sefydlu cyllideb ganolog sydd wedi ei chlustnodi ar gyfer deunyddiau darllen myfyrwyr sydd ar restrau darllen, ac yn benodol llyfrau a deunydd digidol.

Bydd y cyllid ar gyfer deunyddiau rhestrau darllen yn cael ei wario ar sail y cyntaf i’r felin. Ond, noder y dyddiadau cau yn adran 6.

Yn unol â Pholisi Dyrannu Cyllideb Adnoddau’r Llyfrgell, bydd cost cyfnodolion a ychwanegir at y rhestrau darllen, nad ydynt eisoes ar gael yn llyfrgelloedd PA, yn cael eu talu o ddyraniadau cyfnodolyn adrannau unigol.

Bydd cyllidebau yn cael eu monitro yn fisol a bydd gwariant o gronfa Rhestr Ddarllen yn cael ei gofnodi ar lefel adrannol ac yn cael ei adrodd i’r adrannau ar gais.

4.2 Cymarebau prynu llyfrau

4.2.1 Darllen hanfodol

Bydd llyfrau print a argymhellir fel deunydd darllen hanfodol yn cael eu prynu yn y gymhareb o un copi ar gyfer pob 15 o fyfyrwyr hyd at uchafrif o 10 o gopïau, ond yn amodol ar arian sydd ar gael. Os bydd argraffiadau electronig o’r llyfrau ar gael, byddwn yn prynu un copi print hefyd:

Nid yw hon yn rheol haearnaidd gan fod i rai e-lyfrau amodau mwy caeth nag eraill, felly byddwn hefyd yn ystyried: nifer y defnyddwyr cydamserol, nifer y defnyddwyr a ganiateir i’w defnyddio o fewn cyfnod o 12 mis, nifer y myfyrwyr ar y modiwl a’r gost, a byddwn wedyn yn addasu’r gymhareb print i e-gopïau fel bo angen.

Os nad yw nifer y myfyrwyr ar fodiwl yn hysbys, bydd yr eitem yn cael ei dosbarthu’n Ddarllen Pellach.

4.2.2 Darllen pellach

Bydd un copi o lyfrau a argymhellir fel darllen pellach yn cael eu prynu beth bynnag fydd nifer y myfyrwyr ar y modiwl, oni bai fod Cynullydd y Modiwl/Crëwr y Rhestr yn cynnwys nodyn yn ei restr Aspire yn gofyn i’r llyfrgell archebu mwy o gopïau.

4.2.3 Addasiadau i gymarebau prynu

Ar rai achlysuron efallai y bydd angen addasu cymarebau prynu, er enghraifft, pan fydd gan fodiwl lawer o fyfyrwyr dysgu o bell. Mewn achosion o’r fath dylai’r adrannau ymgynghori â’u Llyfrgellydd Cysylltiadau Academaidd i drafod cynlluniau prynu penodol adrannol.

4.3 Argraffiadau

Bydd Gwasanaethau’r Llyfrgell yn prynu’r argraffiad diweddaraf sydd ar gael adeg ei gyhoeddi/ailgyhoeddi oni bai fod Cynullydd y Modiwl/Crëwr y Rhestr yn cynnwys nodyn yn ei restr Aspire yn gofyn am argraffiad penodol.

4.4 Digido erthyglau a phenodau

Mae angen i staff sy’n Cynnull Modiwl/creu rhestrau wneud cais i ddigideiddio’u rhestrau Aspire ar gyfer erthyglau neu benodau mewn llyfrau er mwyn eu cynnwys yn eu modiwl Blackboard.

5. Awdurdodau Cyfrifol

5.1 Bydd Cynullwyr Modiwlau/Crewyr Rhestrau yn:

  • Mynychu hyfforddiant ar Aspire ac yn cyfeirio at ddeunydd hyfforddiant ac arweiniol.
  • Cyflwyno a diweddaru rhestrau darllen erbyn y dyddiadau cau a nodir yn adran 6.
  • Adolygu ac adnewyddu y rhestrau darllen yn aml.
  • Ychwanegu rhestrau at hierarchaeth y modiwl i sicrhau bod y rhestr ar gael i fyfyrwyr.
  • Dewis y semester cywir ar gyfer y rhestr, er mwyn sicrhau bod y rhestr yn symud drosodd i’r flwyddyn academaidd nesaf.
  • Nodi nifer y myfyrwyr ar y modiwl, fel bod staff y llyfrgell yn prynu copïau yn ôl y gymhareb y cytunwyd arni.  Cofiwch sicrhau bod rhif cynllunio ar gael er mwyn osgoi i bob eitem gael ei dosbarthu’n Ddarllen Pellach (gweler 4.2).
  • Neilltuo pwysigrwydd i bob eitem ar y rhestrau ddarllen h.y. Hanfodol neu Darllen Pellach fel bod staff y llyfrgell yn prynu copïau yn ôl y gymhareb y cytunwyd arni.
  • Cynnwys unrhyw nodiadau perthnasol i’r llyfrgell
  • Cyhoeddi eu rhestr ddarllen fel bod staff y llyfrgell yn gwybod bod y rhestr yn barod i’w gwirio/archebu llyfrau.
  • Ailgyhoeddi rhestrau sydd wedi cael eu golygu, i hysbysu staff y llyfrgell eich bod wedi ychwanegu mwy o eitemau at y rhestr ddarllen ar gyfer gwirio/archebu.
  • Ymgynghori â’r Llyfrgellwyr Cysylltiadau Academaidd os bydd cynllun prynu penodol adrannol yn fwy priodol

5.2 Bydd Gwasanaethau’r Llyfrgell yn:

  • Darparu hyfforddiant, arweiniad a chymorth parhaus ar sut i ddefnyddio Aspire.
  • Gwirio a chael adnoddau ar restrau darllen a gyhoeddwyd yn unol ag adran 4.2 a’r canllawiau yn Atodiad 1.
  • Ymdrechu i gael caniatâd i ddigido deunydd hawlfraint, ac os na ellir ei gael, hysbysu crëwr y rhestr o hynny.
  • Monitro a chofnodi ar wariant o’r gronfa Rhestr Ddarllen fesul adran.
  • Monitro, cofnodi ac adrodd ar y defnydd o'r polisi hwn yn unol ag adran 1.7 a’r canllawiau yn Atodiad 2.
  • Trin eitemau sydd heb lefel pwysigrwydd wedi ei osod arnynt gan grëwr y rhestr fel llyfrau Darllen Pellach.
  • Sicrhau bod rhestrau darllen ar gael yn y lle priodol yn Blackboard.
  • Mabwysiadu unrhyw gynlluniau prynu penodol adrannol eraill

6 Dyddiad cau

Gall rhestrau darllen yn Aspire gael eu diweddaru drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i gynullwyr y modiwlau adolygu a chyhoeddi’r holl restrau erbyn y dyddiadau cau canlynol i sicrhau bod y deunyddiau ar gael i’r myfyrwyr mewn pryd ar gyfer y cyfnod addysgu.

Cyfnod

Dyddiad Cau

Dysgu o Bell (semester ‘wag’)

30 Mehefin

Semester 1

31 Gorffennaf

Semester 1 a 2 (addysgir dros y ddau semester)

31 Gorffennaf

Semester 2

30 Tachwedd

7. Safonau iaith Gymraeg

Rhaid darparu rhestr ddarllen Gymraeg ar gyfer modiwlau cyfrwng Cymraeg. Gweler y canllawiau yma:  https://faqs.aber.ac.uk/2112

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn argymell y dylid rhestru fersiynau Cymraeg o ddeunydd ar gyfer modiwlau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg lle bynnag y bo modd.

8. Monitro ac adolygu

8.1. Monitro

Un o’r dulliau a ddefnyddir i fonitro cyflawniad effeithiol ac ymrwymiad â’r polisi hwn yw trwy gyfri nifer y modiwlau sydd â rhestrau darllen. Er mwyn cael ffigyrau mwy cywir mae’n angenrheidiol bod rhestrau pob modiwl yn gysylltiedig â’r hierarchiaeth ac, oherwydd bod y data hierarchiaeth yn deillio o AStRA, bod yr adrannau’n diweddaru AStRA i roi adlewyrchiad cywir o statws y modiwl. Gweler y canllaw yn Atodiad 2.  

8.2 Adolygu

Adolygir y polisi hwn yn flynyddol cyn dechrau’r flwyddyn academaidd ganlynol. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyfathrebu trwy sianelau amrywiol.

Atodiad 1: Gwirio ac Archebu

Mewn rhai amgylchiadau (eitemau drud, oedi mewn cyflenwi adnoddau, hawliau/caniatâd), efallai bydd yn rhaid i’r llyfrgell  wneud eithriad i’r wybodaeth a nodir yn y tablau isod. Yn yr achosion hynny, bydd y llyfrgell yn ymdrechu i gysylltu â Chynullydd y Modiwl/Crëwr y Rhestr  

Eitemau ar y Rhestrau Darllen

Os nad yw gennym eisoes, bydd y Llyfrgell yn cael:

Llyfrau Hanfodol

Nifer digonol o gopïau print yn ôl y gymhareb y cytunwyd arni: 1 copi i bob 10 myfyriwr hyd at uchafrif o 15 copi yn amodol ar arian sydd ar gael. Os oes copïau electronig ar gael, byddwn yn prynu un copi print hefyd.

Darllen Pellach

Un copi os nad oes copïau gennym yn amodol ar arian sydd ar gael.

Cyfnodolion Hanfodol a Darllen Pellach

Gweler paragraff olaf ond un 4.1

Erthyglau Hanfodol a Darllen Pellach

Ar gais (trwy gynnwys nodyn i’r llyfrgell) darperir copi gyda chaniatâd hawlfraint neu sgan o’r erthygl o’n copi ni a’i roi yn y lle priodol ar Blackboard yn amodol ar ganiatâd hawlfraint, cyfyngiadau trwydded a’r arian sydd ar gael.

 

Penodau Hanfodol a Darllen Pellach

Ar gais (trwy gynnwys nodyn i’r llyfrgell) darperir copi gyda chaniatâd hawlfraint neu sgan o'r bennod o'n copi ni a'i roi yn y lle priodol ar Blackboard yn amodol ar ganiatâd hawlfraint, cyfyngiadau trwydded a'r arian sydd ar gael.

DVDs

Un copi. Os oes angen mwy, a fyddech mor garedig ag anfon nodyn i'r llyfrgell

Cynlluniau prynu penodol Adrannol Eraill

Adrannol

Eitemau ar y rhestrau darllen

Os nad yw gennym eisoes bydd y llyfrgell yn cael:

Hanes

Llyfrau hanfodol

2 gopi waeth beth fo nifer y myfyrwyr ar y modiwl

DGO

Llyfrau hanfodol

1 copi waeth beth fo nifer y myfyrwyr ar y modiwl

Astudiaethau Gwybodaeth

Llyfrau hanfodol

Cyfanswm y myfyrwyr

Cyfanswm y copïau

5

2

10

3

15

4

20

6

25

7

30

9

35+

9

Astudiaethau Gwybodaeth

Llyfrau Darllen Pellach

2 gopi

Atodiad 2. Canllawiau ar gyfer diweddaru AStRA

Gall adrannau wella’u ffigurau cyfartaledd drwy sicrhau bod y data yn AStRA yn adlewyrchu statws y modiwl yn gywir.

Dynodir modiwlau sy’n cael eu diddymu neu eu gohirio yn sgil y gweithdrefnau a amlinellir yn Adran 2.1 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd gyda’r rhagddodiaid N neu X  yn AStRA, ac ni fydd modiwlau sy’n cynnwys y naill neu’r llall yn cael eu mewnforio i Aspire

Mae’r ffurflen modiwlau SMF010 yn AStRA bellach yn cynnwys blwch i ddynodi nad oes angen rhestr ddarllen ar fodiwlau penodol e.e. modiwlau ffug ar gyfer Blwyddyn Dramor neu fodiwlau sy’n cynnwys gwaith maes neu waith ymarferol yn unig. Trwy roi ‘N’ ym mlwch y rhestr ddarllen ni fydd y modiwl yn cael ei fewnforio i Aspire.

 

Diweddarir y Rheoliadau hyn gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’u hadolygwyd ddiwethaf ym mis Hydref 2022 a byddant yn cael eu hadolygu eto ym mis Hydref 2023.