Polisi Cipio Darlithoedd

Diweddarwyd Mai 2026

Mae’r rhestr ganlynol yn darparu diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yn y polisi hwn:

  • Darlith: Sesiwn addysgu ar yr amserlen sy’n canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth gweler Adran 2 isod.
  • Darlithydd: aelod neu aelodau o staff PA yn cyflwyno darlith a chreu recordiad.
  • Modiwl: term PA ar gyfer cwrs ac iddo werth credydol.
  • Safle modiwlau Blackboard: ardal yn Rhith-amgylchedd Dysgu Blackboard sy’n cyfateb i fodiwl a ddysgir ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Recordiadau: ffeiliau digidol sy’n cynnwys sain o leiaf a deunyddiau gweledol tafluniedig.

1. Cyflwyniad

1.1. Mae Prifysgol Aberystwyth (PA) yn disgwyl bod pob darlith yn cael ei recordio ac ar gael i fyfyrwyr drwy Rith-amgylchedd Dysgu Blackboard. Gweler adran 2 isod ar gyfer y diffiniad o ddarlith.

1.2. Dylid recordio sain y ddarlith o leiaf. Os yw darlithwyr yn defnyddio PowerPoint neu ddeunyddiau tafluniedig eraill, dylid gwneud yn sicr hefyd fod modd gweld y sgrin. Gweler Adran 4.1 am ragor o fanylion am yr hyn y dylid ei recordio.

1.3. Darperir meddalwedd Panopto yn ganolog er mwyn sicrhau recordio hwylus yn y ddarlith ac mae’n gydnaws â Blackboard er mwyn helpu i reoli’r defnydd o recordiadau.

1.4. Mae croeso i ddarlithwyr ddefnyddio Panopto ar eu dyfeisiau eu hunain i recordio darlithoedd y tu allan i'r ystafell ddosbarth neu i recordio crynodebau o ddarlithoedd. Os bydd crynodeb o ddarlith yn cael ei recordio, dylid rhoi amlinelliad o hyn i fyfyrwyr (gweler 2.4 i gael gwybodaeth am recordio crynodebau o ddarlithoedd).

1.5. Mae PA yn ystyried recordiadau cipio darlithoedd yn ‘addasiad rhesymol’.

1.6. Bydd y polisi hwn ar gael ar wefan y Brifysgol a chyfeirir ato yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.

2. Diffinio darlith

2.1. Mae PA yn diffinio darlith fel trosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr. Nid oes rhaid recordio:

  • elfennau rhyngweithiol sesiwn dysgu, megis trafodaethau myfyrwyr neu sesiynau holi ac ateb;
  • seminarau, dosbarthiadau tiwtorial neu weithdai.

2.2. Mae’r Brifysgol yn cydnabod:

  • nad yw pob dull dysgu yn addas i’w gipio, e.e., os ceir llawer iawn o ryngweithio yn y dosbarth;
  • bod staff yn cael eu hannog i ddefnyddio’u hoff ddull dysgu; nid oes disgwyl iddynt newid eu dull dysgu ar gyfer recordio gan y gall gwneud hynny amharu ar brofiad y myfyrwyr;
  • bod materion moesegol, neu ddefnyddio deunyddiau sensitif yn golygu y bydd recordio rhai gweithgareddau dysgu ac addysgu yn amhriodol;
  • bod PA yn ymrwymo i ymchwilio i ffyrdd o gipio pob dull dysgu, a’u rhoi ar waith. Os teimla staff na ellir recordio eu hoff ddull dysgu, gallant gysylltu â’r Grŵp Addysg Ddigidol i drafod eu gofynion penodol.

2.3. Dylai darlithwyr sy’n arwain sesiynau nad oes yn rhaid iddynt gael eu recordio sicrhau bod y myfyrwyr yn cael mynediad at yr holl ddeunyddiau dysgu perthnasol; megis sleidiau PowerPoint, taflenni, a deunydd ategol eraill. Dylai’r rhain fod ar gael i fyfyrwyr yn Blackboard.

2.4. Anogir staff sy’n arwain sesiynau nad oes angen eu recordio i recordio crynodebau byr o’r cynnwys a drafodwyd a rhoi gwybod i fyfyrwyr am yr hyn fydd ar gael ar eu cyfer.

2.5. Dylai myfyrwyr nodi nad yw PA yn ystyried bod defnyddio recordiadau cipio darlithoedd yn disodli presenoldeb mewn darlithoedd. Darperir recordiadau o’r darlithoedd er mwyn cyfoethogi profiad dysgu’r myfyriwr yn hytrach na disodli’r angen i fod yn bresennol.

3. Defnyddio eich Data

3.1. Mae PA yn defnyddio gosodiad cwmwl o Panopto. Mae hyn yn golygu bod rhywfaint o wybodaeth am staff a myfyrwyr yn cael ei anfon at Panopto. Mae’r data yn cynnwys enw, cyfeiriad e-bost a chofrestriadau ar safle modiwlau Blackboard, yn ogystal â recordiadau, sleidiau a gwybodaeth am weithgarwch y defnyddiwr. Cedwir y wybodaeth yma yng ngogledd Iwerddon. Mae Polisïau Preifatrwydd Panopto yn trafod y wybodaeth sy’n cael ei chasglu, pwy all ei gweld a sut mae Panopto yn ei defnyddio.

3.2. Mae’n bosibl y trosglwyddir data a gynhyrchir wrth ddefnyddio Panopto i systemau eraill ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn monitro ymroddiad myfyrwyr. Mae’n bosibl hefyd y gall data a gynhyrchir drwy ddefnyddio Panopto gael ei ddefnyddio gan staff PA fel rhan o wasanaeth Dadansoddi Dysgu PA. Ceir gwybodaeth am Ddadansoddi Dysgu ar wefan Cydymffurfiaeth Gwybodaeth.

4. Creu a Golygu Recordiadau

4.1. Mae meddalwedd Panopto ar holl beiriannau dysgu PA er mwyn recordio sain, sgrin a fideo mewn ystafell ddysgu. Dylid recordio sain y ddarlith o leiaf a darparu capsiynau. Os yw darlithwyr yn defnyddio PowerPoint neu ddeunyddiau tafluniedig eraill, dylent wneud yn sicr hefyd fod modd gweld y sgrin.

4.2. Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu adolygu deunyddiau mewn llawysgrifen fel cynnwys bwrdd gwyn, dylai staff ddefnyddio’r camerâu dogfen yn yr ystafelloedd addysgu (pan fônt ar gael). Os nad yw hyn yn bosibl, mae canllawiau i staff ar wneud cynnwys llawysgrifen yn hygyrch ar y  Blog Addysg Ddigidol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd myfyrwyr yn cael trafferth gweld cynnwys bwrdd gwyn mewn darlithoedd a bydd taflunio’r camera dogfen yn helpu i wneud y ddarlith yn fwy hygyrch i bawb.  

4.3. Gall darlithwyr ddefnyddio meddalwedd arall ond dylid recordio’r un wybodaeth a restrir uchod yn 4.1. Dylai darlithwyr sy’n defnyddio meddalwedd wahanol i Panopto hefyd sicrhau eu bod yn darparu mynediad at y recordiadau drwy’r safle modiwlau perthnasol ar Blackboard.

4.4. Dylid holi am ganiatâd siaradwyr gwadd a staff nad ydynt yn perthyn i Brifysgol Aberystwyth. Ceir ffurflen awdurdodi data: Dogfen Awdurdodi Data 2026.

4.5. Ni ddisgwylir i ddarlithwyr olygu recordiadau cyn eu cyflwyno i fyfyrwyr (er efallai yr hoffent olygu dechrau neu ddiwedd darlith os oes angen). Yr unig eithriad fyddai pe bai’r recordiad yn cynnwys deunyddiau a fyddai’n torri’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) neu a fyddai’n cael ei ystyried yn sensitif neu’n sarhaus. Dyma rai enghreifftiau o sefyllfa lle byddai’n rhaid golygu:

  • Recordio sgyrsiau â myfyrwyr cyn / ar ôl y ddarlith, trwy ddamwain
  • Recordio cwestiynau gan fyfyrwyr heb iddynt wybod bod recordio yn digwydd
  • Trafodaethau heb eu cynllunio all gynnwys gwybodaeth bersonol

4.6. Dylai staff neu fyfyrwyr sydd o’r farn y dylid golygu recordiad yn sylweddol neu ei ddileu o lwyfan Panopto gysylltu â’r Tîm Addysg Ddigidol a fydd yn ystyried y cais.

4.7. Dylai myfyrwyr sydd â phryderon ynghylch cynnwys darlith a recordiwyd fynegi’r pryderon hyn i’w darlithydd yn y lle cyntaf.

5. Defnyddio Recordiadau

5.1. Pwrpas recordiad yw helpu’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl. Yn ddiofyn (ac oni newidir hyn yn benodol gan unigolyn â mynediad hyfforddwr) cyfyngir mynediad at recordiadau modiwl i’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl hwnnw.

5.2. Ni ddylai staff neu fyfyrwyr â mynediad at recordiadau eu rhannu, ar unrhyw gyfrif, heb ganiatâd y darlithydd.

5.3. Os yw’r darlithydd wedi rhoi eu caniatâd, gellir defnyddio recordiadau y tu allan i’r modiwl y maen nhw’n perthyn iddo (er enghraifft i gefnogi modiwlau sy’n cael eu dysgu ar y cyd neu ddysgu mewn sefydliadau partner).

5.4. Y darlithwyr sy’n rhannu eu recordiadau sy’n gyfrifol am sicrhau bod y gosodiadau caniatâd ar gyfer gwylio’r recordiadau hyn wedi’u gosod yn gywir.

5.5. Gellir rhoi caniatâd i staff newydd sy’n dysgu modiwl wylio recordiadau o flynyddoedd blaenorol. Mae hyn at ddibenion paratoi ac ymgyfarwyddo â chynnwys y modiwl.

5.6. Dylai darlithwyr sicrhau bod dolen sy’n cysylltu â recordiad o’r ddarlith i’w gweld yn y cwrs Blackboard o fewn tri diwrnod gwaith i’r ddarlith.

5.7. Dylid cynnwys dolenni sy’n cysylltu â’r recordiadau Panopto â’u rhoi ochr yn ochr â’r deunyddiau/gweithgareddau perthnasol. Yn ogystal, gall darlithwyr hefyd greu dolen sy’n cysylltu â’r ffolder Panopto (fel bo myfyrwyr yn gallu gweld yr holl recordiadau mewn un man).

5.8. Os oes rhesymau pedagogaidd dros oedi cyn rhyddhau darlith (er enghraifft, mae’n rhaid gwneud gwaith golygu sylweddol, neu fod oedi oherwydd mwy nag un sesiwn dysgu), dylai’r darlithydd wneud hyn yn glir i’r myfyrwyr.

5.9. Ni fydd PA yn defnyddio recordiadau i asesu perfformiad staff nac i annog gwrandawiadau disgyblu neu gwynion staff neu fyfyrwyr. Fodd bynnag, yn dilyn ymgynghoriad â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol, gellir eu cyrchu a'u defnyddio fel tystiolaeth mewn gweithdrefn ddisgyblu neu gwyno staff neu fyfyriwr gan swyddog ymchwilio a/neu’r panel pan fo rheswm i gredu y gallai recordiad gynnwys gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i'r honiad(au) dan ystyriaeth.

5.10. Gall staff PA ddefnyddio recordiadau eu darlithoedd fel tystiolaeth o arfer da wrth ddysgu, er enghraifft mewn ceisiadau ar gyfer dyrchafiad, ceisiadau am gymrodoriaeth AU Ymlaen, neu mewn digwyddiadau rhannu arferion da.

6. Mynediad at Recordiadau

6.1. Rheolir mynediad at recordiadau ar gyfer modiwlau a ddysgir ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy gofrestru ar y cwrs Blackboard cyfatebol. Golyga hyn mai dim ond y myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar y modiwl fydd yn gallu gweld y cynnwys.

6.2. Fel anghenraid, rhaid cael enw defnyddiwr PA a chyfrinair i gael mynediad at y recordiadau a gwylio’r cynnwys.

6.3. Bydd darlithwyr yn dewis y modiwl y bydd y recordiad yn ymddangos ynddo ar ddechrau’r ddarlith. Trwy ddewis y modiwl, gall yr holl fyfyrwyr a staff sydd wedi’u cofrestru ar y modiwl wylio’r cynnwys ar ôl ei brosesu.

6.4. Gall myfyrwyr wylio recordiadau’r modiwlau y’u cofrestrwyd arnynt am gyfnod o 5 mlynedd neu tan y daw eu cyfrif i ben (pa un bynnag ddaw yn gyntaf).

6.5. Gall Gweinyddwyr Panopto (y Tîm Addysg Ddigidol, a’r Tîm Cymwysiadau ac Integreiddio yn y Gwasanaethau Gwybodaeth) gael mynediad at, gwylio, a golygu’r holl recordiadau a wneir drwy Panopto.

6.6. Mae’n bosibl y bydd cyflogeion Panopto yn gorfod gwylio recordiadau er mwyn cynnig cymorth i Brifysgol Aberystwyth; gall fod ar gyfer trwsio diffygion neu adfer recordiadau sydd wedi’u dileu. Mae polisïau preifatrwydd Panopto yn trafod mynediad staff Panopto at ddata PA.

7. Hawlfraint

7.1. Mae’r holl ddeunydd sy’n cael ei recordio mewn darlith yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth hawlfraint. Ni ddylid cynnwys deunydd trydydd parti oni bai ei fod yn golygu ‘delio teg’ (ceir rhagor o wybodaeth yng nghanllawiau llyfrgell PA ar Hawlfraint).

7.2. Ceir rhestr lawn o’r hyn y gellir ei gynnwys mewn darlith sy’n cael ei recordio yng nghanllawiau llyfrgell PA ar Hawlfraint.

7.3. Dylai holl ddefnyddwyr recordiadau Panopto gofio na ddylid eu rhannu heb ganiatâd y darlithydd (gweler 5.2 uchod).

7.4. Dylid anfon cwestiynau ynglŷn â materion hawlfraint cipio darlithoedd at y Tîm Rheoli Gwybodaeth (llywodraethugwyb@aber.ac.uk).

8. Cyfnod Cadw

8.1. Cedwir recordiadau darlithoedd am bum mlynedd. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gwylio recordiadau o’r holl fodiwlau y maen nhw wedi’u dilyn yn ystod eu cwrs.

8.2. Os hoffai’r staff gael cyfnod cadw gwahanol, yn arbennig ar gyfer recordiadau nad ydynt yn ymwneud â modiwlau (e.e. cynadleddau ac ati) dylent drafod hyn Grŵp Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk). Sylwer bod cost yn gysylltiedig â chadw recordiadau dros dymor hir. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi tâl ar brosiectau sydd angen defnyddio recordiadau dros gyfnod estynedig.

8.3. Gellir copïo neu symud recordiadau i’r fersiwn ddiweddaraf o fodiwl a addysgir hefyd.

8.4. Ceir rhagor o fanylion am archifo a chadw yn y Blog E-ddysgu.

9. Asesiadau llafar

9.1. Gellir recordio asesiadau llafar drwy ddefnyddio Panopto. Os caiff asesiadau eu recordio, dylai staff greu pob recordiad mewn ffolder asesu Panopto fydd yn sicrhau mai staff ac arholwyr allanol yn unig all wylio’r recordiadau.

9.2. Dylid rhoi gwybod i’r myfyrwyr y bydd eu cyflwyniadau yn cael eu recordio a darparu gwybodaeth iddynt ynglŷn â phwy fydd yn gallu gwylio’r recordiad a sut bydd yn cael ei ddefnyddio.

9.3. Oni bydd yn bosibl i ddau farciwr mewnol fod yn bresennol yn ystod asesiad llafar, rhaid recordio’r asesiad.

9.4. Dylid cofnodi defnydd helaeth o recordiadau ar gyfer asesiadau llafar gyda’r Tîm Addysg Ddigidol er mwyn sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael.

10. Cyflwyniadau a Recordiwyd a Panopto ar gyfer Aseiniadau

10.1. Mae’n bosibl y gofynnir i fyfyrwyr ddefnyddio Panopto i gyflwyno cyflwyniadau a recordiwyd neu recordiadau at ddibenion asesu drwy’r cwrs yn Blackboard.

10.2. Dylai darlithwyr greu Aseiniad Panopto yn ffolder Asesu ac Adborth y cwrs Blackboard.

10.3. Bydd modd i unrhyw recordiadau a gyflwynir i’r Aseiniad Panopto gael eu gweld gan Ddarlithwyr ac Arholwyr Allanol ar y cwrs.

10.4. Dim ond y recordiadau y maent wedi’u huwchlwytho y bydd myfyrwyr yn gallu eu gweld.

10.5. Caiff y recordiadau eu cadw am bum mlynedd a’u dileu yn ôl y Cyfnod Cadw (gweler adran 8).

11. Dewis peidio

11.1. Dylai darlithwyr y dylai eu darlithoedd gael eu recordio, ond sy’n dymuno peidio â chipio darlithoedd drafod eu pryderon â Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r adran yn y lle cyntaf.

11.2. Os yw’r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu o’r farn fod ganddynt reswm dilys dros beidio, dylent gytuno ar strategaethau ar gyfer hysbysu’r myfyrwyr ar y modiwl o’r penderfyniad hwn. Dylid hefyd drefnu addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr ag anghenion ychwanegol yn ogystal â chamau gweithredu lliniarol.

11.3. Dylid cofnodi’r penderfyniad a’r camau gweithredu lliniarol gyda’r Gyfadran. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i drafod pryderon myfyrwyr a godir drwy systemau fel yr Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr.

12. Capsiynau

12.1. Mae capsiynau adnabod lleferydd awtomatig (ASR) ar gyfer recordiadau Cymraeg a Saesneg yn cael eu hychwanegu'n awtomatig at bob recordiad a wneir ar ôl 1 Medi 2025. Sylwer fod ansawdd a natur ddibynadwy’r capsiynau awtomatig yn amrywio yn ôl iaith a phwnc y recordiad.

12.2. Nid yw'n ofynnol i staff olygu capsiynau a gynhyrchir yn awtomatig er y gellir eu golygu (mae canllawiau ar gael yn y Cwestiynau Cyffredin Sut mae ychwanegu a golygu capsiynau).

12.3. Mae iaith y capsiynau awtomatig ym mhob ffolder Panopto wedi'i gosod. Dynodir iaith pob ffolder Panopto yn ôl cofnodion y system AStRA. Bydd pob modiwl sy'n cael eu nodi yn AStRA fel rhai sy'n cael eu haddysgu 100% yn Gymraeg yn cael eu gosod i ddefnyddio capsiynau Cymraeg.  Bydd pob ffolder arall yn cael ei osod i ddefnyddio’r Saesneg.  Mae canllawiau ar osodiadau iaith, gan gynnwys sut i reoli modiwlau sydd â recordiadau mewn sawl iaith, ar gael ar y Blog Addysg Ddigidol.

12.4. Bydd rhaid ychwanegu’r capsiynau â llaw os yw’r iaith yn wahanol i’r iaith a geir yn y gosodiadau ffolder gan ddilyn y canllawiau yn y cwestiynau cyffredin Sut mae ychwanegu a golygu capsiynau. Sylwer mai argymhelliad yw hwn ac ni ddisgwylir i staff wneud hyn.

12.5. Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol nad yw capsiynau adnabod lleferydd awtomatig yn gywir 100%. I gael eglurhad ar gapsiynau, dylai myfyrwyr siarad â'u darlithydd.

12.6. Gellir lawrlwytho trawsgrifiadau o gapsiynau adnabod lleferydd awtomatig. Bydd staff a myfyrwyr sydd â mynediad gwyliwr neu grëwr yn gallu gwneud hyn. (Cwestiwn Cyffredin i’w greu).

12.7. Efallai y rhoddir meddalwedd capsiynau ychwanegol i rai myfyrwyr fel rhan o'u Hasesiad Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Dylai myfyrwyr sydd wedi cael meddalwedd capsiynau fynd i siarad â'u darparwr Hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol, fel y nodwyd yn eu llythyr DSA2, i gael help i osod hwn; ar gyfer (a) Capita – Ffôn: 01823 273060 neu e-bostiwch: DSA@capita.com neu (b) Study Tech – Ffôn: 0204 532 2084 neu e-bostiwch: att@study.tech).  Fel arall, gall myfyrwyr gysylltu â'r Ddesg Ymholiadau, Llawr D, Llyfrgell Hugh Owen.

13. Recordiadau Myfyrwyr

13.1. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i rai myfyrwyr recordio sesiynau dysgu eu hunain. Dylai’r myfyrwyr hyn hysbysu Cynghorwyr Hygyrchedd y Brifysgol o’u hanghenion penodol. Bydd hyn o help i’r Brifysgol wneud addasiadau priodol a helpu’r sefydliad i hwyluso recordio darlithoedd.

13.2. Gall darlithwyr wirio a yw dyfeisiau recordio personol yn rhan o addasiadau rhesymol myfyriwr yn y tab Addasiadau Rhesymol a Darpariaeth Arholiadau yn Aladdin.

13.3. Anogir myfyrwyr i roi gwybod i’r darlithydd y byddant yn recordio’r ddarlith gan ddefnyddio eu dyfais eu hunain os taw hwn yw eu gofyniad.

13.4. Ni ddylai myfyrwyr recordio cyfraniadau a wnaed gan fyfyrwyr eraill yn ystod gweithgareddau holi ac ateb neu weithgareddau rhyngweithiol mewn darlithoedd.

13.5. Mae’r Brifysgol yn pennu Eiddo Deallusol cynnwys darlithoedd i’r darlithwyr (er mai’r brifysgol sy’n cadw’r hawl anghyfyngedig, derfynol, ddiamod a gwastadol i ddefnyddio a chopïo’r deunyddiau hyn ar gyfer dibenion academaidd, ymchwil a gweinyddol). Mae hyn yn ffurfio rhan o’r cytundeb dysgu rhwng y myfyriwr a Phrifysgol Aberystwyth. Yn unol â 5.2 y polisi hwn, ni ddylai myfyrwyr rannu’r recordiad â neb.

Cefnogaeth

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i bob aelod o staff ar gipio darlithoedd. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar y wefan Cipio Darlithoedd.  

Cyfeiriadau

Elliott, Caroline a Neal, David (2015) Evaluating the use of lecture capture using a revealed preference approach. Active Learning in Higher Education, http://eprints.hud.ac.uk/24540/

Feir et al (2013), Use of Echo360 generated materials and its impact on class attendance, 30th Ascilite Conference Proceedings, http://www.ascilite.org/conferences/sydney13/about/proceedings.pdf

Jisc (2022), Recording lectures: legal considerations, https://www.jisc.ac.uk/guides/recording-lectures-legal-considerations

King’s College London (2018), Lecture Capture and Recording Other Educational Activities Policy, https://www.kcl.ac.uk/governancezone/assets/teaching/lecture-capture-policy.pdf

University of Glasgow (2018), Lecture Recording Policy, https://www.gla.ac.uk/media/media_359179_en.pdf

University of Huddersfield (2023), Audio and Video Capture Policy, https://www.hud.ac.uk/media/policydocuments/Audio-and-Video-Capture-Policy.pdf

University of Manchester (2021), Policy on the Recording of Lectures and other Teaching and Learning Activities, http://documents.manchester.ac.uk/display.aspx?DocID=16559

University of St Andrews (2024), Use of Captured Content,  https://www.st-andrews.ac.uk/policy/academic-policies-learning-and-teaching-lecture-capture-policy/lecture-capture.pdf

 

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Chwefror 2026 gan Bwyllgor Gwella Academaidd a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Chwefror 2027.