Fe wnes i benderfynu astudio yn Aberystwyth oherwydd bod cyfle i fi deilwra’r cwrs i’m diddordebau penodol  i, diolch i’r amrywiaeth helaeth o fodiwlau a oedd ar gael. Roeddwn i hefyd eisiau cymryd rhan yn yr ymweliadau addysgol diddorol niferus a oedd yn gysylltiedig â’r cwrs dan sylw. Fe wnes i hefyd ddewis Aber am fod y dref mor hyfryd a thwt, ar lan y môr ac mewn ardal wledig mor brydferth. A diolch i’r awyrgylch hamddenol a natur gyfeillgar a chroesawgar y bobl, roeddwn i’n teimlo’n gartrefol iawn yno.

Fe wnes i wir fwynhau bod yn rhan o’r Ysgol Rheolaeth a Busnes. Roedd pawb mor gymwynasgar, y darlithwyr a’r tiwtoriaid yn rhagorol am gynnig gwybodaeth ac roedden nhw’n awyddus bob amser i gefnogi eu myfyrwyr. Roedd yn hawdd i ni fel myfyrwyr droi at unrhyw aelod o’r staff. Fe wnes i fanteisio ar y cyfle i fod yn aelod o ‘The Biz’, prif gymdeithas yr adran. Yno, fe wnes i ffrindiau oes ac roedd hefyd yn gyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau yn ymwneud â menter a busnes.

Roeddwn i wrth fy modd yn Aber. Ar ôl cwblhau fy ngradd, fues i’n ddigon ffodus i gael cynnig swydd barhaol ar y cynllun rheoli cyffredinol i raddedigion gyda Network Rail, lle rwy’n bwriadu datblygu fy ngyrfa. Yn y dyfodol, rydw i hefyd yn ystyried parhau â’m hastudiaethau, drwy gwblhau gradd Meistr mewn Busnes a Rheolaeth.