Angen trawsnewidiad economaidd i ymdrin ag argyfyngau byd-eang

Mae Jasper Kenter yn Gymrawd Ymchwil Athrawol mewn Economeg Ecolegol Gydgynghorol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Mae Jasper Kenter yn Gymrawd Ymchwil Athrawol mewn Economeg Ecolegol Gydgynghorol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth.

22 Mai 2025

Mae angen chwyldroi’r systemau economaidd confensiynol i ymdrin â'r heriau enbyd sy'n wynebu'r byd sydd ohoni, yn ôl astudiaeth fyd-eang newydd.

Mae'r adroddiad gan dîm o ymchwilwyr rhyngwladol yn dweud bod y byd wedi cyrraedd trobwynt ac yn wynebu llu o argyfyngau rhyng-gysylltiedig – o’r newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth i anghydraddoldeb economaidd, ansefydlogrwydd geowleidyddol a sgil-effeithiau parhaus pandemig COVID-19.

Mae'n cyflwyno deg egwyddor arweiniol i ymdrin â'r argyfyngau hyn ac ail-lunio systemau economaidd byd-eang, gan symud y pwyslais oddi ar rymoedd y farchnad i les pobl a'r blaned yn ehangach.

Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn uchel ei barch, Nature Sustainability,yn beirniadumodelau economaidd confensiynol sy'n blaenoriaethu twf ac effeithlonrwydd ar draul tegwch cymdeithasol ac ystyriaethau ecolegol.

Mae'n galw am newid trawsnewidiol tuag at fframwaith economaidd newydd wedi'i adeiladu ar gynhwysiant, cynaliadwyedd a ffyniant gyffredin.

Dywedodd y prif awdur, yr Athro Jasper Kenter, Cymrawd Ymchwil mewn Economeg Ecolegol Gydgynghorol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth:

"Mae’r ffaith bod ein hargyfyngau byd-eang mor enbyd yn gofyn am drawsnewidiad economaidd sy'n herio confensiynau hir-sefydledig ac sy’n cofleidio rhyng-gysylltiadau a thegwch. Mae angen syniadau beiddgar arnom i ail-ddychmygu’r hyn y gall systemau economaidd ei gyflawni. Gall ein hymchwil ddarparu'r sylfeini ar gyfer fframwaith economaidd prif ffrwd newydd a chydlynol."

Deg Egwyddor ar gyfer Trawsnewid Economaidd

Trwy arolwg o arbenigwyr byd-eang ar ddulliau economeg newydd a dadansoddiad manwl o 237 o ffynonellau o feysydd gwyddoniaeth ac ymarfer, mae'r astudiaeth yn nodi deg egwyddor sylfaenol sy'n rhychwantu’r dimensiynau ecolegol, cymdeithasol a gwleidyddol, ac egwyddorion cyfannol sy'n torri ar draws 38 o ddulliau economaidd.

  1. Ymwreiddio cymdeithasol-ecolegol a lles cyfannol: Cydnabod bod economïau wedi'u hymwreiddio o fewn cymdeithasau ac ecosystemau, gan flaenoriaethu lles i bawb.
  2. Meddwl yn rhyngddisgyblaethol ac ystyried cymhlethdodau: Ymdrin â heriau economaidd trwy ystyried safbwyntiau rhyngddisgyblaethol ac amrywiol, gan gynnwys systemau gwybodaeth brodorol a lleol.
  3. Cyfyngiadau i dwf: Cydnabod ffiniau bioffisegol a biocemegol gweithgarwch economaidd, gan symud i ffwrdd o fodelau a yrrir gan dwf.
  4. Mae natur amnewidiadwy cyfalaf naturiol yn gyfyngedig: Pwysleisio’r rhan anhepgor y mae adnoddau naturiol yn ei chwarae wrth gynnal systemau dynol a systemau economaidd.
  5. Cynllunio adfywiol: Meithrin systemau cylchol, adferol sy'n cynyddu gwytnwch ac effeithlonrwydd adnoddau.
  6. Safbwyntiau cyfannol am bobl a gwerthoedd: Ailddiffinio cymhellion a gwerthoedd pobl o fewn modelau economaidd, gan symud y tu hwnt i naratifau sydd wedi dyddio ynglŷn â hunan-ddiddordeb.
  7. Tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder: Rhoi lle canolog i degwch mewn ymchwil economaidd, gan ymdrin ag anghydraddoldebau byd-eang a hyrwyddo cymunedau ymylol.
  8. Meithrin cysylltiadau ac annog cyfranogiad cymdeithasol: Hyrwyddo grymuso cymunedol, cynhwysiant a lles torfol.
  9. Cyfranogiad, trafod a chydweithredu: Ymwreiddio llywodraethu cyfranogol yn elfen greiddiol wrth lunio polisïau economaidd.
  10. Ôl-gyfalafiaeth a dad-drefedigaethu: Ystyried fframweithiau amgen y tu hwnt i gyfalafiaeth a systemau trefedigaethol, gan ganolbwyntio ar degwch byd-eang.

"Trwy gofleidio'r egwyddorion hyn, gallwn ailddiffinio systemau economaidd i gwrdd â heriau ein hoes a grymuso cymdeithasau i adeiladu dyfodol cynaliadwy," ychwanegodd yr Athro Kenter.

"Mae'r ymchwil hon yn alwad i weithredu ac mae’n cynnig fframwaith sy'n herio'r ddeuoliaeth gonfensiynol rhwng modelau economaidd technegol a llunio polisïau moesegol, gan sicrhau bod gwytnwch, tegwch a therfynau amgylcheddol yn ganolog i benderfyniadau economaidd. Mae dwsinau o ddulliau economaidd newydd yn bodoli, ond maent yn parhau i fod yn wasgaredig. Gall yr egwyddorion hyn helpu i gefnogi cynghreiriau newydd i herio a goresgyn syniadau economaidd sydd wedi dyddio."

Yn ôl yr adroddiad, er bod ymchwil drawsnewidiol yn dod yn fwyfwy dylanwadol, mae wedi'i dangynrychioli o hyd mewn llawer o gyfnodolion economaidd blaenllaw a deunyddiau addysgol. Mae angen rhagor o ymchwil i fynd i'r afael â'r bwlch hwn ac i ystyried strategaethau i sicrhau newid economaidd trawsnewidiol, gan gynnwys trwy nodi lle mae dulliau economaidd newydd eisoes yn cael eu cymhwyso'n llwyddiannus.

Roedd tîm yr awduron yn cynnwys ymchwilwyr o Awstralia, Canada, Estonia, India, Kenya, Mecsico, y Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America, gyda mewnbwn gan arbenigwyr o amrywiaeth eang o felinau trafod, sefydliadau gwyddonol a sefydliadau polisi byd-eang, megis Club of Rome, Flourishing Enterprise Institute, Future Earth, International Society for Ecological Economics, a Network for Business Sustainability.

Mae'r astudiaeth wedi’i chyhoeddi yn ei chyfanrwydd gan Nature Sustainability:https://doi.org/10.1038/s41893-025-01562-4