Rhaid ailystyried cynaliadwyedd byd-eang yn llwyr, yn ôl academyddion

Yr Athro Mike Christie
08 Ionawr 2026
Mae gwyddonwyr yn galw am ailystyried yn llwyr sut mae datblygu cynaliadwy yn cael ei ddeall a’i roi ar waith.
Mae’r gwaith ymchwil newydd, a gyd-ysgrifennwyd gan academydd o Brifysgol Aberystwyth, yn galw am newid sylfaenol yn y ffordd mae’r ddynoliaeth yn deall ac yn ceisio sicrhau datblygu cynaliadwy, er mwyn ymdrin â’r argyfyngau amgylcheddol a chymdeithasol presennol yn fwy effeithiol.
Mae'r canfyddiadau yn herio'r model tair-elfen traddodiadol sy'n trin byd natur, yr economi, a chymdeithas fel meysydd ar wahân, gan ddadlau nad yw’r model hwn yn addas i'r diben mewn byd sy'n wynebu problemau cynyddol yn ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth, ac anghydraddoldebau cymdeithasol.
Mae'r awduron yn cynnig model newydd sy'n gweld datblygu cynaliadwy fel un system ddeinamig; lle mae byd natur yn ffurfio'r sylfaen, yr economi’n gweithredu o fewn cymdeithas, a chymdeithas yn llywodraethu trwy werthoedd a rennir.
Mae'r Athro Mike Christie, Athro Economeg Amgylcheddol ac Ecolegol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, yn un o gyd-awduron y papur newydd a gyhoeddwyd yn Nature Communications Sustainability. Dywedodd:
“Er gwaethaf degawdau o waith ar gynaliadwyedd, rydym yn dal i weld mwy a mwy o anghydraddoldeb, colledion bioamrywiaeth yn cyflymu, a hinsawdd sydd mewn argyfwng. Mae trin byd natur, yr economi, a chymdeithas fel materion ar wahân wedi arwain at flaenoriaethau digyswllt sy’n aml yn gwrthdaro â’i gilydd, gan waethygu'r problemau rydyn ni'n ceisio eu datrys.”
Mae'r gwyddonwyr yn awgrymu bod cynaliadwyedd yn dibynnu ar sicrhau cydbwysedd rhwng systemau naturiol, economaidd a chymdeithasol. Pan fydd un yn cael ei orddefnyddio neu ei esgeuluso, mae'r system gyfan yn ansefydlogi. Byddai newid o'r fath yn ein ffordd o feddwl yn ein cynorthwyo i ail-gydbwyso datblygu byd-eang o fewn terfynau’r blaned a sicrhau canlyniadau teg i bawb.

Dywedodd y prif awdur, Dr David Obura, Cyfarwyddwr CORDIO East Africa:
“Mae angen i ni symud y tu hwnt i'r syniad bod byd natur, yr economi a chymdeithas yn feysydd ar wahân. Mae ein model ni yn eu gweld fel haenau rhyng-gysylltiedig o un system integredig. Gyda’r modwl hwn, gall unrhyw gwmni, cymuned neu wlad olrhain llif y buddion sy’n deillio o fyd natur trwy sectorau economaidd i bobl, a'r ffyrdd y mae ein dewisiadau yn effeithio ar fyd natur.”
Mae'r ymchwil yn dod i'r casgliad bod yr argyfyngau cynaliadwyedd byd-eang presennol yn deillio nid yn unig o systemau diffygiol y farchnad, ond o fethiant gwerthoedd ehangach.
Mae byd-olygon economaidd cul, wedi'u gwreiddio mewn echdynnu, preifateiddio ac elw tymor byr, wedi esgeuluso gwerthoedd hanfodol eraill, fel gofal, dwyochredd, a pharch at fyd natur a phobl eraill.
Mae'r awduron yn galw am integreiddio byd-olygon amrywiol, gan gynnwys gwybodaeth frodorol a lleol, i fframweithiau cynaliadwyedd byd-eang a chenedlaethol.
Ychwanegodd yr Athro Mike Christie:
“Mae datblygu cynaliadwy yn gofyn am fwy nag ymdrin â methiannau'r farchnad – mae angen cydnabod ac integreiddio gwerthoedd amrywiol gwahanol grwpiau mewn cymdeithas, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei ystyried wrth ffurfio ein dyfodol ar y cyd.”
