Myfyrwyr newydd sydd â fisa myfyriwr

Cyn eu bod nhw’n gallu gorffen cofrestru, rhaid i bob myfyriwr ar fisa myfyriwr:
- Uwchlwytho’r fisa a’r dogfennau cyrraedd drwy ddefnyddio'r dolenni a fydd yn cael eu hanfon atynt mewn negeseuon ebost awtomatig
- Trefnu cwrdd â thîm cydymffurfio’r UKVI yn bersonol
Bydd myfyrwyr sy'n ymuno â ni ym mis Medi yn cael eu gwahodd i drefnu apwyntiad i ddod i wirio’r dogfennau. Bydd myfyrwyr sy'n ymuno â ni ar adegau eraill o'r flwyddyn yn cael eu hysbysu am sut i drefnu cyfarfod.
Yn y cyfarfod byddwn yn gwirio’r dogfennau ac yn gwirio eich bod yn byw yn Aberystwyth neu gerllaw.
Bydd angen ichi ddod â'r canlynol:
- Pasbort
- Copi o'r cymhwyster Saesneg sydd wedi’i enwi ar eich CAS
- Copi o'r cymwysterau academaidd sydd wedi’u henwi ar eich CAS
- Copi o'ch tystysgrif ATAS (lle bo’n gymwys)
- Mae angen i fyfyrwyr NAD ydyn nhw mewn llety prifysgol ddod â phrawf o’u cyfeiriad ar ffurf contract gyda darparwr preifat wedi'i lofnodi.
Sylwch: Efallai y bydd eich cofrestriad yn cael ei ohirio os na fyddwch chi’n gallu darparu prawf eich bod yn byw yn Aberystwyth neu o fewn awr o daith i Aberystwyth
