Myfyrwyr sydd ar fisas eraill

Yn rhan o'r broses derbyn myfyrwyr, bydd rhai ymgeiswyr wedi datgan nad oes angen Cadarnhad Derbyn i Astudio arnynt i wneud cais am fisa Myfyriwr gan fod ganddynt eisoes ganiatâd mewnfudo yn y DU sy'n eu galluogi i astudio yn y DU. Bydd y tîm derbyn myfyrwyr yn sicrhau eu bod yn gwneud cais am y dystiolaeth a bod y dystiolaeth honno’n dod i law cyn cadarnhau eich lle. Bydd y Swyddfa Cydymffurfio ag UKVI yn adolygu'r holl gofnodion i sicrhau bod y dystiolaeth gywir yn cael ei chadw ar ffeil.

Os oes angen unrhyw wiriadau ychwanegol neu gopïau o fisâu cyn cofrestru, bydd y Swyddfa Cydymffurfio ag UKVI yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Mae'r canlynol yn rhai enghreifftiau o fathau o fisa / caniatâd mewnfudo sy'n cael eu derbyn fel prawf dilys o Hawl i Astudio:

  • Fisa Dibynnydd
  • Fisa Plentyn Dibynnol
  • Fisa Cynllun Wcráin
  • Statws Sefydlog yr UE
  • Statws Cyn-Sefydlog yr UE
  • Fisa Mudo Ieuenctid
  • Fisa BNO Hong Kong
  • Caniatâd Amhenodol i Aros
  • Caniatâd Cyfyngedig i Aros

 

Bydd prawf o statws fisa cyfredol fel rheol ar ffurf eFisa. 

Os gofynnir i chi ddarparu cod rhannu, bydd modd i chi gynhyrchu cod rhannu trwy fynd i Gweld a phrofi eich statws mewnfudo: cael cod rhannu - GOV.UK (www.gov.uk)

(Noder ei bod hi’n rhaid i chi ddefnyddio'r ddolen uchod i gynhyrchu cod ac nid defnyddio cod Hawl i Weithio neu Hawl i Rentu y gallech fod wedi'i ddefnyddio yn y gorffennol.)

Os nad ydych wedi gosod cyfrif UKVI eto , gwnewch hynny yma  Cael mynediad i'ch eFisa: Trosolwg - GOV.UK (www.gov.uk)

Bydd angen i fyfyrwyr sydd â chaniatâd amser cyfyngedig ddarparu prawf diweddar o ganiatâd mewnfudo dilys i sicrhau cofrestriad parhaus ar eu cwrs. Cysylltir â’r myfyrwyr i’w hatgoffa i wneud hyn.

Os bydd eich caniatâd mewnfudo yn newid tra byddwch wedi cofrestru, rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Cydymffurfio ag UKVI a darparu cod rhannu fel y gellir diweddaru eich cofnod.

Bydd methu â darparu prawf dilys ar ôl i'ch fisa presennol ddod i ben yn arwain at atal eich cofrestriad.