Myfyrwyr sydd yn ymweld am llai na 6 mis

Os ydych chi'n ymweld â Phrifysgol Aberystwyth am 6 mis neu lai, bydd angen ichi ddarparu dogfennau i Dîm Cydymffurfio’r UKVI cyn cael cofrestru ar gyfer eich cwrs. Fe gewch chi arweiniad oddi wrth gyfrif ebost o'r enw dccstaff@aber.ac.uk yn esbonio pa ddogfennau y mae angen ichi eu darparu.
Bydd negeseuon ebost awtomatig sy'n cynnwys dolen uwchlwytho yn cael eu hanfon atoch yn rheolaidd. Does dim angen ichi uwchlwytho unrhyw ddogfennau nes eich bod wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, does dim angen i fyfyrwyr sy'n ymweld gwrdd â'r Tîm Cydymffurfio oni bai bod ganddyn nhw gwestiynau neu bryderon penodol. Pan fydd y dogfennau rydych chi wedi’u huwchlwytho wedi dod i law ac wedi’u hadolygu, bydd yr ataliad ar gofrestru yn cael ei godi.
Isod mae'r prif gategorïau o fisas ymweld sy’n cael eu defnyddio i ddod i'r Deyrnas Unedig. Eich cenedligrwydd sydd fel arfer yn pennu pa fath o fisa ymweld a all gael ei roi ichi.
I gael cyngor ar hyn gweler Visitor visa: Student Services, Aberystwyth University
