12.1.6 Ystyried yr apêl gan Banel Apêl Academaidd

1. Ar ôl derbyn apêl yn seiliedig ar un neu fwy o'r amodau dilys a amlinellir uchod, a’i chyflwyno ar ffurflen apêl wedi'i chwblhau'n llawn, ynghyd â thystiolaeth ategol, bydd y Dirprwy Gofrestrydd (neu un a enwebir) sy'n gyfrifol am apeliadau academaidd yn gofyn i'r adran academaidd berthnasol ddilysu'r ffeithiau y cyfeirir atynt yn yr apêl. Fe wnant yn sicr bod y rhain yn cael eu dilysu mewn pryd i'w cyflwyno i'r Panel Apeliadau Academaidd.

2. Gellir prysuro cynnal achos trwy ei gyfeirio ymlaen ar gyfer cam gweithredol gan Gadeirydd y Panel Apêl Academaidd. Yn yr achos hwn, y penderfyniadau fydd ar gael i’r Cadeirydd fydd cadarnhau’r apêl (neu gadarnhau’n rhannol os nad yw seiliau eraill yn gymwys) neu wrthod yr apêl ar seiliau. Gall y Cadeirydd hefyd gyfeirio achos i gael ei ystyried gan y Panel Apêl Academaidd os nad yw’r achos yn glir a bod angen ei ystyried ymhellach.

3. Bydd pob Panel Apêl yn cynnwys o leiaf bedwar aelod a ddewisir gan Ysgrifennydd y Panel o blith Panel sefydlog.

4. Aelodau'r Panel i ystyried apeliadau israddedig ac uwchraddedig ar gyrsiau a addysgir fydd:

(i) Dirprwy Is-Ganghellor yn Gadeirydd
(ii) Un Pennaeth Adran Academaidd (neu gydradd)
(iii) Pennaeth neu Ddirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd
(iv) Un cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr.

5. Ni fydd unrhyw aelodau o'r panel sefydlog sydd â chyswllt uniongyrchol ag astudiaethau'r myfyriwr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau. Rhaid i aelodau'r Panel ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau. Ni ddylai cynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr fod wedi cynghori’r myfyriwr mewn unrhyw ffordd ynglŷn â’r apêl ymlaen llaw. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn sicrhau nad yw’r cynrychiolydd ar y panel yn un a fu’n rhoi cyngor i’r myfyriwr, er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau.

6. Y Dirprwy Gofrestrydd (neu'r un a enwebwyd) sy'n gyfrifol am Apeliadau Academaidd fydd yn Ysgrifennydd i’r Panel Apêl Academaidd.

7. Bydd gan y Panel Apêl Academaidd y grym i wneud y naill neu'r llall o'r penderfyniadau canlynol:

(i) Cadarnhau’r apêl a phenderfynu ar y camau i'w cymryd

(ii) Gwrthod yr apêl; dim camau pellach i'w cymryd.

8. Os yw apêl yn cydymffurfio â’r meini prawf ar gyfer cael ystyriaeth gan y Panel Apêl Academaidd, mae gan y myfyriwr hawl i ymddangos gerbron y Panel a gall fod yng nghwmni unigolyn o'i ddewis, er enghraifft cyd-fyfyriwr neu gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr, neu aelod o'r staff academaidd.

9. Mater mewnol yw trefn yr apeliadau academaidd ac nid oes iddynt yr un ffurfioldeb â llys barn. Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd yn angenrheidiol nac yn briodol i’r myfyriwr neu'r darparwr gael ei gynrychioli'n gyfreithiol mewn panel neu gyfarfod apêl.

10. Cyn y gwrandawiad, bydd yr holl ddogfennau a gyflwynir yn rhan o'r apêl yn cael eu darparu i aelodau'r Panel a'r myfyriwr, i'w hystyried.

11. Cynhelir y gwrandawiad apêl yn unol â’r drefn hon:

(i) Os yw myfyriwr wedi nodi y bydd yn dod i'r gwrandawiad, ni fydd aelodau'r panel yn trafod yr achos ymhlith ei gilydd cyn i'r apelydd gyrraedd. Bydd Cadeirydd y Panel yn gofyn i'r myfyriwr ac unrhyw unigolion eraill sy'n bresennol eu cyflwyno eu hunain a bydd yn penderfynu a yw’r sawl sy'n gwmni i’r myfyriwr yn bodloni'r amodau yn y Gweithdrefnau Apêl Academaidd perthnasol. Os nad yw unigolyn sy'n gwmni i'r apelydd yn bodloni'r amodau hyn, gofynnir iddo/iddi adael.

(ii) Yna, bydd Cadeirydd y Panel yn:

1. Cyflwyno aelodau’r Panel ac unrhyw un arall sy’n bresennol

2. Esbonio'r seiliau cymwys ac anghymwys ar gyfer yr apêl academaidd

3. Nodi'r penderfyniadau posibl sy’n agored i'r Panel

4. Esbonio trefn y digwyddiadau pe bai'r apêl academaidd yn cael ei chadarnhau

5. Esbonio'r hawl dilynol i ofyn am Adolygiad Terfynol os yw'r myfyriwr yn dal i fod yn anhapus â phenderfyniad y Panel Apêl Academaidd.

(iii) Bydd y Cadeirydd yn gwahodd y myfyriwr i gyflwyno'i achos, gan grynhoi'r prif bwyntiau fel bod gan bawb sy'n bresennol yr un ddealltwriaeth ynglŷn a sail yr achos

(iv) Ar ôl i’r myfyriwr orffen ei gyflwyniad, gall aelodau'r Panel ofyn cwestiynau ac archwilio meysydd o ddiddordeb neu bryder ynglŷn â'r apêl. Pan fydd holl aelodau'r Panel wedi'u bodloni, gwahoddir y myfyriwr i ychwanegu unrhyw bwyntiau pellach y gall ddymuno’u dwyn i sylw'r Panel, a gwahoddir yr unigolyn sy'n gwmni i'r myfyriwr i siarad i gefnogi'r achos. Yna, bydd y Panel yn cyfweld ag unrhyw barti arall sy'n bresennol yn y gwrandawiad. Bydd y myfyriwr yn parhau i fod yn bresennol a chaiff ei wahodd i ymateb i'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan unrhyw barti arall ac i ychwanegu unrhyw bwyntiau pellach.

12. Rhaid i'r myfyriwr fod wedi cyflwyno'r holl dystiolaeth ategol berthnasol gyda'r ffurflen apêl cyn gwrandawiad y Panel. Mae gan y Cadeirydd hawl i wrthod derbyn unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth nad yw wedi'i chyflwyno a'i hadolygu gan yr holl bartïon perthnasol cyn y gwrandawiad. I sicrhau tegwch, mae'n bwysig i bob parti sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chyflwyno cyn y gwrandawiad, er mwyn i bawb gael cyfle i adolygu'r dystiolaeth ac ymateb yn briodol. Dim ond mewn achosion eithriadol lle mae'r Cadeirydd yn fodlon, a phob parti arall yn rhoi caniatâd, y bydd tystiolaeth newydd a gyflwynir i'r gwrandawiad yn cael ei hystyried.

13. Pan fydd y gwrandawiad wedi dod i ben, rhoddir gwybod i’r myfyriwr pryd a sut y caiff wybod beth yw penderfyniad y Panel. Yna, bydd pob parti, ac eithrio aelodau'r Panel a'r Ysgrifennydd, yn gadael yr ystafell. Bydd y Panel yn ystyried y dystiolaeth sydd gerbron ac yn dod i benderfyniad. Bydd Ysgrifennydd y Panel yn cynghori'r aelodau am yr dewisiadau sydd ganddynt, os oes angen.

14. Bydd yr Ysgrifennydd yn rhoi gwybod i’r myfyriwr yn ysgrifenedig am benderfyniad yr apêl, o fewn pum niwrnod gwaith.

15. Dylid datrys pob apêl academaidd o fewn 6 wythnos waith. Os yw'n ymddangos y bydd oedi cyn ymateb, bydd myfyrwyr yn cael gwybod beth yw’r rhesymau am hyn, ac yn cael eu hysbysu am unrhyw ddatblygiadau.