10.1.8 Monitro Apeliadau Academaidd
Mae'n bwysig bod nifer, lefel ac ystod yr apeliadau academaidd yn cael eu monitro. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn monitro'r holl apeliadau academaidd a gyflwynir a byddant yn adrodd yn flynyddol i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Bydd unrhyw fanylion personol yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Cyfrifoldeb y Pwyllgor Ansawdd a Safonau fydd monitro'r data a gwneud argymhellion addas i gyrff neu bersonél perthnasol. Cyfrifoldeb y Pwyllgor Ansawdd a Safonau hefyd fydd adolygu'r Weithdrefn Apeliadau Academaidd a'i heffeithiolrwydd, a gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau, lle bo hynny'n briodol.
Diweddarwyd: Mis Medi 2021
