12.2.2 Egwyddorion cyffredinol

1. Ni all y Brifysgol weithredu y tu allan i Weithdrefnau’r Brifysgol a’r confensiynau arholi, ac ni fydd apeliadau sy’n ceisio canlyniadau o’r fath yn cael eu hystyried.

2. Yn sgil cyhoeddi canlyniadau academaidd myfyriwr (diwedd Semester 1, 2 a chyfnod y arholiadau atodol), gall myfyriwr gyflwyno apêl yn erbyn eu canlyniad(au).

3. Cyn penderfynu a oes sail i gyflwyno apêl, anogir y myfyriwr i gwrdd â’r staff academaidd perthnasol ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau i gael adborth ac i sefydlu a oes ganddynt sail i apelio ai peidio. Os hoffai’r myfyriwr fynd â’r mater ymhellach, gallant gyflwyno apêl.

4. Fel arfer, y myfyriwr fydd yn cyflwyno’r apêl. Fodd bynnag os nad yw’r myfyriwr yn teimlo y gall gwblhau a chyflwyno’r ffurflen ei hun, yn sgil salwch neu reswm arall sy’n ei atal rhag gwneud, gall y myfyriwr benodi cynrychiolydd i gwblhau a chyflwyno’r apêl ar ei ran. Gall cynrychiolydd fod yn fyfyriwr arall neu’n gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr. Disgwylir fel rheol i’r myfyriwr ddarparu caniatâd ysgrifenedig, drwy lythyr neu gyfrif ebost y Brifysgol, yn awdurdodi rhywun i weithredu ar ei ran (byddai’n rhaid rhoi rheswm dilys, da dros beidio â gwneud hynny).

5. Os oes gan fyfyriwr gynrychiolydd, ni ddylai hyn oedi’r broses. Bydd y Brifysgol yn gwrthod derbyn apeliadau gan drydydd parti oni bai eu bod yn gweithredu fel cynrychiolydd y myfyriwr.

6. Pan fo’r apêl academaidd hefyd yn cynnwys cwyn, mae’n bosib y caiff yr apêl neu’r gŵyn ei hailddosbarthu (ar unrhyw gam o’r broses) a’i phrosesu o dan y rheoliad neu’r weithdrefn fwyaf perthnasol os yw hynny’n debygol o arwain at ganlyniad mwy priodol i’r sawl sy’n apelio neu’n cwyno. Bydd y myfyriwr yn cael gwybod os bydd y sefyllfa hon yn codi.

7. Ni fydd myfyrwyr sy’n gwneud apêl academaidd yn ddidwyll yn dioddef anfantais nac edliw. Ni fydd myfyrwyr yn destun camau disgyblu oni wnânt apêl academaidd yn wamal (h.y. heb ddim diben na gwerth difrifol), yn blagus (h.y. yn peri gofid neu annifyrrwch) neu’n faleisus (h.y. awydd i beri niwed neu ddioddefaint). (Gweler Trefn Ddisgyblu Prifysgol Aberystwyth).

8. Mae cyngor ynglŷn â’r Weithdrefn hon ar gael gan y Dirprwy Gofrestrydd (neu enwebai), Cofrestrfa Academaidd (caostaff@aber.ac.uk) neu gan Gynghorydd Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr (undeb.cyngor@aber.ac.uk).