2.14 Canllawiau ar gyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer cynlluniau gradd
1. Mae PA yn hysbysebu canran cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob un o'i chynlluniau gradd lle mae'n bosibl astudio o leiaf un modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r wybodaeth hon yn ymddangos ar y wefan ac yn y prosbectws dwyieithog, felly mae'n bwysig ei bod yn gywir er mwyn cydymffurfio â rheoliadau hysbysebu. Dylid sicrhau bod canran cyfrwng Cymraeg wedi’i nodi ar AStRA ar gyfer pob cynllun gradd sy'n bwydo'r wybodaeth ar y wefan. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn diweddaru AStRA ar sail data a ddarperir gan adrannau academaidd.
2. Cyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer cynlluniau gradd.
(i) Cynlluniau a ddysgir 100% trwy gyfrwng y Gymraeg.
C1) A yw rhai o'r oriau cyswllt ar o leiaf un modiwl craidd ar y cynllun gradd yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Saesneg? (e.e. mae seminarau ar gael yn Gymraeg ond mae'r darlithoedd yn Saesneg).
A1) Os felly, ystyrir bod y cynllun gradd yn gynllun gradd a ddysgir yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd ei ganran cyfrwng Cymraeg yn llai na 100%.
C2) A oes rhaid i fyfyriwr ddewis o leiaf un modiwl dewisol a ddysgir yn gyfan gwbl yn Saesneg neu o leiaf un modiwl dewisol sy'n cynnwys rhai oriau cyswllt cyfrwng Saesneg ar y cynllun gradd? (Hynny yw, nid oes digon o fodiwlau sy'n cael eu haddysgu yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyriwr astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn astudio, felly i gyrraedd 120 credyd, rhaid iddynt ddewis modiwl neu fodiwlau a ddysgir yn rhannol neu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Saesneg).
A2) Os felly, ystyrir bod y cynllun gradd yn gynllun gradd a ddysgir yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd ei ganran cyfrwng Cymraeg yn llai na 100%.
C3) Sut mae cyfrifo canran ar gyfer cynlluniau gradd a ddysgir yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg?
-
- Mae gan bob modiwl ganran cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn ein galluogi i gyfrifo nifer y credydau cyfrwng Cymraeg ar bob modiwl. Er enghraifft, os yw modiwl yn fodiwl 20 credyd a'i ganran cyfrwng Cymraeg yn 90%, mae 18 credyd cyfrwng Cymraeg ar gael ar y modiwl. Mae'r canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau yn cael eu cofnodi ar AStRA.
- Dewiswch y llwybr gyda'r nifer uchaf o gredydau cyfrwng Cymraeg. Mae angen adio nifer y credydau cyfrwng Cymraeg ar bob modiwl ar y llwybr hwnnw a rhannu’r cyfanswm gyda 360 ar gyfer gradd 3 blynedd, 480 ar gyfer gradd 4 blynedd neu 240 ar gyfer gradd 2 flynedd (e.e. gradd sylfaen).
- Ni ddylid cynnwys modiwlau craidd yn unig.
- Ni ddylid cynnwys pob modiwl dewisol cyfrwng Cymraeg os nad oes modd eu dilyn bob un (h.y. rhaid i fyfyriwr ddewis rhyngddynt).
- Os oes modd dewis rhwng modiwlau gyda gwahanol ganrannau cyfrwng Cymraeg, dylid dewis y modiwl gyda’r canran cyfrwng Cymraeg uchaf.
- Yn rhan 2, dylid osgoi cynnwys opsiynau cyfrwng Cymraeg o bynciau eraill er mwyn cynyddu canran cyfrwng Cymraeg y cynllun gradd oni bai eu bod yn yr un maes. Dylai'r llwybr cyfrwng Cymraeg yn rhan 2 fod yn llwybr ym mhwnc y cynllun gradd. Byddai cynnwys dewis agored o hyd at 20 credyd y flwyddyn yn dderbyniol. Yn draddodiadol, mae rhai adrannau yn disgwyl i fyfyrwyr rhan 1 astudio hyd at 60 credyd y tu allan i'w pwnc. Os yw'n bosib astudio'r credydau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, dylid eu cynnwys yng nghanran cyfrwng Cymraeg y cynllun gradd.
- Ni ddylid cynnwys blwyddyn ryng-gyrsiol, blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant, hyd yn oed os yw'r flwyddyn yn cario credydau ac mae'n bosib ei dilyn trwy gyfrwng y Gymraeg.
3. Enghreifftiau
(i) Enghraifft 1: L255 Gwleidyddiaeth Ryngwladol (2018/19) [Cynllun gradd dynodedig cyfrwng Cymraeg]
Blwyddyn |
|||||
1 |
2 |
3 |
|||
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
GW12420 Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau |
18 |
GW20120 Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau |
18.6 |
GW30040 Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig |
30 |
GW12620 Y Tu ôl i'r Penawdau |
18 |
||||
GW12520 Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 2: Heriau byd-eang |
17.6 |
||||
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen |
60 |
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen |
20 |
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen |
40 |
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
GW12820 Llunio'r Byd Modern: Rhyfel, Heddwch a Chwyldro ers 1789 |
18.4 |
GQ20920 Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol |
20 |
GQ30920 Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol |
20 |
GW10320 Rhyfel Strategaeth a Chuddwybodaeth |
17.2 |
GQ23720 Amlddiwylliannedd mewn Polisi ac Ymarfer |
20 |
GQ33720 Amlddiwylliannedd mewn Polisi ac Ymarfer |
20 |
GW12920 Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain |
17.6 |
GQ23420 Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed |
20 |
GQ33420 Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed |
20 |
Cyfanswm y credydau dewisol sydd eu hangen |
60 |
Cyfanswm y credydau dewisol sydd eu hangen |
100 |
Cyfanswm y credydau dewisol sydd eu hangen |
80 |
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 1 |
|
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 2 |
|
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 3 |
90 |
Cyfanswm dros 3 blynedd: 275.4 Credydau cyfrwng Cymraeg = 76.5% |
(ii) Enghraifft 2: D4N1 Agriculture with Studies (2018/19) [Cynllun gradd dynodedig cyfrwng Saesneg]
Blwyddyn |
|||||
1 |
2 |
3 |
|||
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
|
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
BG11400/10 Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw |
10 |
BG20400/20 Systemau Cynhyrchu Da Byw
|
20
|
BG34010 Taith Astudio Amaethyddol a'r Amgylchedd Gwaith |
2.5
|
BG12410 Sgiliau Astudio a Chyfathrebu |
10 |
BG25620 Dulliau Ymchwil |
10 |
BG32300/30 Traethawd Estynedig |
30 |
BG11110 Y Diwydiant Amaethyddol - Sgiliau Cynllun-Benodol |
7.5 |
||||
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen |
70 |
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen |
80 |
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd eu hangen |
60 |
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
Modiwlau dewisol ar gael drwy’r Gymraeg |
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau |
MR10500/20 Cyflwyniad i Reolaeth |
20 |
MR30720 Rheolaeth Marchnata |
13.4 |
BG30800/20 Gwyddor Cynhyrchu Da Byw |
20 |
MR10600/20 Cyflwyniad i'r Amgylchedd Busnes |
20 |
MR33120 - Ymddygiad Sefydliadol |
13.4 |
MR34020 Strategaeth Busnes |
13.4 |
MR10120 Egwyddorion Marchnata |
13.4 |
BG21920 Bwyd, Ffermio a'r Amgylchedd |
20 |
||
BG10810 Datblygu a Rheoli Cynefinoedd ym Mhrydain |
10 |
||||
Cyfanswm credydau dewisol sydd eu hangen |
50 |
Cyfanswm credydau dewisol sydd eu hangen |
40 |
Cyfanswm credydau dewisol sydd eu hangen |
60 |
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 1 (llwybr gyda'r % cyfrwng Cymraeg uchaf) |
|
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 2 (llwybr gyda'r % cyfrwng Cymraeg uchaf) |
|
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 3 |
|
Cyfanswm dros 3 blynedd: 206.8 Credydau cyfrwng Cymraeg = 57.4% |
2.14.1 Arweiniad ar gyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau cyfrwng Cymraeg
1. Er mwyn i adrannau gyrraedd eu targedau o ran cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen sicrhau:
- Bod cyfeirnod modiwl cyfrwng Cymraeg ar gyfer unrhyw fodiwl ag iddo elfen o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Bod yr adran yn nodi canran cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob modiwl sydd â chyfeirnod modiwl cyfrwng Cymraeg yn y maes priodol yng nghofnod y modiwl ar AStRA
- Mynd i ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg (oriau cyswllt Cymraeg).
2. Os nad oes cyfeirnod modiwl cyfrwng Cymraeg gan fodiwl a chanran cyfrwng Cymraeg ar gofnod y modiwl, nid oes modd i’r system gyfrifiadurol adnabod y myfyrwyr ar y modiwl fel myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a byddant yn ymddangos fel myfyrwyr cyfrwng Saesneg yn y data y mae’r Cyngor Cyllido (HEFCW) yn ei ddefnyddio i fesur ein cyrhaeddiad targedau ar gyfer cynyddu nifer y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Bydd hyn yn peryglu ein gallu i ddenu buddsoddiad pellach yn y maes. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn diweddaru AStRA ar sail data a ddarperir gan adrannau academaidd.
3. Cyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg
(i) Modiwlau a ddysgir 100% trwy gyfrwng y Gymraeg.
C1) Ai Cymraeg yw cyfrwng yr holl oriau cyswllt; hynny yw, mae pob darlith, seminar, tiwtorial, gweithdy, sesiynau mewn labordy, ac ati, yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg?
A1) Os felly, mae’r modiwl yn cael ei ystyried yn fodiwl 100% drwy’r Gymraeg. D.S. Mae hyn yn wir hyd yn oed os oes disgwyl i’r myfyrwyr ddarllen testunau yn Saesneg neu iaith arall fel rhan o’r modiwl.
C2) A yw'n fodiwl Cymraeg sy'n cyflwyno myfyrwyr i'r Gymraeg ar gyfer dechreuwyr?
A2) Dylid cofnodi'r modiwl yn 100% cyfrwng Cymraeg.
(ii) Modiwlau a ddysgir yn rhannol yn Gymraeg.
C1) A yw rhai o'r oriau cyswllt ar y modiwl, e.e. seminarau, yn Gymraeg, a rhai o'r oriau cyswllt, e.e. darlithoedd, yn Saesneg?
A1) Os felly, mae’r modiwl yn cael ei ystyried yn fodiwl a addysgir yn rhannol yn Gymraeg a bydd ei ganran cyfrwng Cymraeg yn llai na 100%.
Yn yr achos hwn, mae angen edrych ar gyfanswm yr oriau a dreulir ar y modiwl.
Canran cyfrwng Cymraeg y modiwl = Nifer yr oriau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Cyfanswm yr oriau astudio
C2) Beth yw cyfanswm yr oriau astudio?
A2) Mae 1 credyd yn cyfateb i 10 awr o astudio. E.e. cyfanswm yr oriau astudio ar fodiwl 10 credyd yw 100 awr.
C3) Faint o oriau o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg sydd gan fodiwl?
A3) Dylech gynnwys unrhyw oriau a dreulir:
-
- Yn gwneud gweithgareddau eraill hunan-gyfeiriedig cyfrwng Cymraeg (e.e. gwaith cartref ar gyfer seminar)
- Yn gwneud gwaith cwrs asesedig (e.e. ysgrifennu traethawd, ysgrifennu adroddiad, gwneud taflenni gwaith, ac ati); [D.S. Ar fodiwlau sydd â chyfeirnod modiwl cyfrwng Cymraeg, mae disgwyl i fyfyrwyr allu cyflwyno eu gwaith yn Gymraeg a derbyn adborth yn Gymraeg. Ni ddylid cyfieithu gwaith i'w farcio ar fodiwlau cyfrwng Cymraeg]
- Yn gwneud unrhyw ymarferion cyfrwng Cymraeg nad ydynt yn cyfrif tuag at farc terfynol y modiwl
- Adolygu ar gyfer arholiad(au)
- Ymarfer ar gyfer perfformiad cyfrwng Cymraeg (e.e. drama, sioe gerdd).
4. Os nad ydych yn siŵr faint o oriau y mae myfyrwyr i fod i dreulio ar y gwahanol weithgareddau ar fodiwl, mae dadansoddiad ar gael ar ffurflen ddilysu wreiddiol y modiwl. Ar gyfer modiwlau a ddilyswyd rai blynyddoedd yn ôl, bydd copi o'r ffurflen hon ar gael yng nghofnodion cyfarfod y deoniaid / athrofa lle cymeradwywyd y modiwl. Maent ar gael gan y Gofrestrfa.
5. Enghreifftiau
(i) Modiwl 10 credyd:
Oriau o weithgaredd |
Saesneg |
Cymraeg |
Darlithoedd + darllen |
10 + 10 |
0 |
Seminarau + paratoi |
0 |
10 + 20 |
Pecyn dysgu hunan-gyfeiriedig |
0 |
20 |
Arholiad a thraethawd |
5 |
25 |
Cyfanswm |
23 (25%) |
75 (75%) |
Canran cyfrwng Cymraeg a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 75%
Noder mai dim ond 50% o'r oriau cyswllt sydd yn y Gymraeg. Fodd bynnag, ystyrir canran cyfrwng Cymraeg o 50% yn rhy geidwadol oherwydd bod nifer o weithgareddau eraill cyfrwng Cymraeg sy'n rhan o'r modiwl y tu hwnt i'r oriau cyswllt cyfrwng Cymraeg.
Noder mai dim ond 10% o oriau tybiannol y modiwl sy'n cael eu dynodi yn oriau cyfrwng Saesneg, sef y deg awr o ddarlithoedd cyfrwng Saesneg. (Mae'n fodiwl 10 credyd ac felly mae’n tybio 100 awr o astudio). Fodd bynnag, ystyrir canran cyfrwng Cymraeg o 90% yn rhy hael gan fod hanner yr oriau cyswllt yn Saesneg ac felly mae'n rhesymol i ragdybio bydd rhai oriau tybiannol cyfrwng Saesneg yn gysylltiedig â'r oriau cyswllt cyfrwng Saesneg.
Mae'r Coleg yn argymell y byddai cofnodi canran o rhwng 70% ac 80% yn rhesymol, gan ddibynnu ar union gyd-destun y modiwl a'r pwnc, ac ystod y gweithgareddau dysgu a pharatoi ar gyfer y seminarau (Cylchlythyr 16/03).
(ii) Modiwl 10 credyd:
Oriau o weithgaredd |
Saesneg |
Cymraeg |
Darlithoedd + darllen |
10 + 10 |
0 |
Seminarau + paratoi |
5 + 10 |
0 |
Tiwtorialau unigol + paratoi |
0 |
5 + 10 |
Arholiad a thraethawd |
5 |
20 |
Cyfanswm |
40 (53%) |
35 (47%) |
Canran cyfrwng Cymraeg a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 47%
(iii) Model 10 credyd (lle mae'r myfyriwr yn cyflwyno asesiadau yn Saesneg):
Oriau o weithgaredd |
Saesneg |
Cymraeg |
Darlithoedd + darllen |
10 + 10 |
0 |
Seminarau + paratoi |
5 + 10 |
0 |
Tiwtorialau unigol + paratoi |
0 |
5 + 10 |
Arholiad a thraethawd |
20 |
5 |
Cyfanswm |
55 (73%) |
20 (27%) |
Canran cyfrwng Cymraeg a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 20%
Noder mai 25% o'r oriau cyswllt sydd yn y Gymraeg. Fodd bynnag, ystyrir canran cyfrwng Cymraeg o 25% yn rhy hael oherwydd bod y gweithgareddau eraill sy’n rhan o’r modiwl y tu hwnt i'r oriau cyswllt yn rhai Saesneg.
6. Modiwlau sy’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith
C1) A yw'r modiwl yn cael ei ddysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae elfen o leoliad gwaith lle gall y cyswllt Cymraeg amrywio yn dibynnu ar y cyflogwr, hyd yn oed, mewn rhai achosion, o ddydd i ddydd?
A1) Gallwn wneud penderfyniad rhesymol ynglŷn â chanran gyfartalog yr elfen hon o'r modiwl a gynhaliwyd yn Gymraeg, a rhoi un ganran ar gyfer yr holl fyfyrwyr ar y modiwl (er bod rhai myfyrwyr, mewn gwirionedd, wedi astudio canran ychydig yn uwch na'r cyfartaledd ac eraill wedi astudio canran ychydig yn is).
7. Modiwl cyfrwng Saesneg sy'n cyflwyno elfen o ddeunydd cyfrwng Cymraeg mewn darlithoedd
C1) A yw'r modiwl yn cyflwyno elfen o ddeunydd cyfrwng Cymraeg mewn darlithoedd, er bod y darlithoedd, seminarau ac unrhyw ddosbarthiadau eraill sy'n rhan o'r modiwl yn Saesneg? Enghraifft o hyn fyddai modiwl sy'n paratoi myfyrwyr i gyflwyno'r Gymraeg fel rhan o'r cwricwlwm cynradd yng Nghymru.
A1) Os felly, mae'r Coleg yn awgrymu na ellir cofnodi mwy na 10% o'r modiwl yn gyfrwng Cymraeg, yn rhesymol.
8. Enghraifft
Modiwl 10 credyd:
Oriau o weithgaredd |
Saesneg |
Cymraeg |
Darlithoedd + darllen |
15 + 20 |
5* + 10 |
Seminarau + paratoi |
10 + 20 |
0 |
Arholiad a thraethawd |
25 |
0 |
Cyfanswm |
90 (90%) |
10 (10%) |
*Mae’r modiwl yn cynnwys pum darlith cyfrwng Saesneg sy'n cyflwyno elfen o ddeunydd cyfrwng Cymraeg
Canran cyfrwng Cymraeg a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 10%
9. Mae'r Coleg yn barod i ddarparu arweiniad ar fodiwlau penodol. Dylid cysylltu â'r Swyddog Cangen i wneud cais am arweiniad.
Diweddarwyd Adran 2: Mawrth 2025