4.6 Cynlluniau Gradd gyda Modiwlau Lefel 0 (Blwyddyn Un), e.e. BSc Cyfrifiadureg BSc Ffiseg Cynllun Pedair Blynedd, ayyb

1. Os yw myfyrwyr yn dilyn modiwlau Lefel 0 (Blwyddyn Un) fel rhan o’u gradd, byddant yn pasio os ydynt yn boldoni’r amodau isod yn yr asesiadau modiwl Lefel 0 (Blwyddyn Un):

(i) wedi cael marciau 40% neu uwch mewn modiwlau gwerth 100 credyd

a

(ii) wedi cael cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 40% o leiaf.

2 Fel arfer mae myfyrwyr sydd wedi dechrau Rhan Un CYN mis Medi 2018 yn cael hyd at dri chyfle i ailsefyll. Serch hynny, bydd rhaid i iddynt basio o leiaf 60 credyd er mwyn cael caniatâd i gael asesiadau ym mis Awst. Os ydynt wedi cael llai na 60 credyd bydd rhaid ail-wneud eich blwyddyn gyntaf.

3. Fel arfer, caiff myfyrwyr sydd wedi dechrau Rhan Un ERS mis Medi 2018 hyd at dri chyfle i ailsefyll. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle nesaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Caniateir i fyfyrwyr sefyll uchafswm o 80 credyd yng nghyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd wedi methu mwy na 80 credyd i ailsefyll ym mis Awst o gwbl, a bydd yn rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn.

4. Ni chaiff myfyrwyr ddechrau Blwyddyn Dau (Modiwlau Lefel Un) tan iddynt fodloni’r holl amodau uchod (hynny yw, ni chaniateir ailsefyll modiwlau Lefel 0 a fethwyd wrth astudio ym Mlwyddyn Dau).

5. I fynd ymlaen y tu hwnt i Flwyddyn Dau bydd angen ichi fodloni’r un gofynion â’r rhai a osodir Adran 4.2 y Llawlyfr.