4.12 Confensiynau Pennu Dosbarth Graddau Modiwlar

1. Fel arfer, bydd dosbarth gradd anrhydedd myfyriwr yn cael ei bennu yn unol â’r rheolau a ganlyn.

2. Pennir dosbarth y radd yn ei chrynswth ar sail cyfartaledd y rhaeadr farciau cyfartalog am bob modiwl sy’n cyfrannu tuag at asesiad y radd anrhydedd, gan ddefnyddio’r dosbarthiadau yn Nhabl 1:

Tabl 1 – Dosbarthiadau GraddauColumn 2
I 70% a throsodd
II(1) 60-69%
II(2) 50-59% 
III 40-49% (nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr a ddechreuodd ar Ran Dau Cynllun Meistr Integredig ar ôl mis Medi 2016)
METHU llai na 35% (llai na 40% i fyfyrwyr a ddechreuodd ar Ran Dau Cynllun Meistr Integredig cyn mis Medi 2016 a llai na 50% i fyfyrwyr a ddechreuodd ar Ran Dau Cynllun Meistr Integredig ar ôl mis Medi 2016).

3. Wrth gyfrifo’r marc cyfartalog wedi’i bwysoli, defnyddir y rheolau a ganlyn.

4. Rhoddir pwysoliad i bob marc yn ôl gwerth y credydau sydd i bob modiwl (h.y. bydd modiwlau 20 credyd gwerth ddwywaith y modiwlau 10 credyd, ac ati).

5. Pwysoliad Band S ar gyfer cynlluniau gyda Blwyddyn Ryng-gwrs gyda Blwyddyn Integredig yn Astudio Dramor fydd SERO (0). Ar gyfer cynlluniau gyda Blwyddyn Ryng-gwrs gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant, pennir y pwysoliad o 0/0.25/0/5 ar lefel cynllun.

Cynlluniau tair blynedd

6. Caiff y marciau eu ‘rhaeadru’ yn unol â’r rheolau a ganlyn:

Band 3: Yr 80 credyd gorau ar Lefel Tri, sy’n cael pwysoliad o 3.

Band 2: Yr 80 credyd ail-orau ar Lefel Tri a Lefel Dau, sy’n cael pwysoliad o 2.

Band 1: Gweddill credydau Lefelau Tri a Dau, ac unrhyw gredydau Lefel Un a gymerwyd yn Rhan Dau, sy’n cael pwysoliad o 1.

Cynlluniau 4 blynedd sy’n cynnwys 3 blynedd yn Aberystwyth ar ôl Rhan Un

7.

Band 4: Y 90 credyd gorau ar Lefel M, sy’n cael pwysoliad o 4.

Band 3: Y 90 credyd ail-orau ar Lefel M a Lefel Tri, sy’n cael pwysoliad o 3.

Band 2: Y 90 credyd nesaf ar Lefel Tri a Lefel Dau, sy’n cael pwysoliad o 2.

Band 1: Gweddill credydau Lefel Tri a Dau, ac unrhyw gredydau Lefel Un a gymerwyd yn Rhan Dau, sy’n cael pwysoliad o 1.

4 blynedd gyda 2 flynedd yn Aberystwyth ar ôl Rhan Un yn ogystal â Blwyddyn Ryng-gwrs neu Flwyddyn Dramor, gan gynnwys cynlluniau nad ydynt yn rhai ieithyddol ond sy'n cynnwys blwyddyn yn Astudio Dramor

8.

Band 3: Yr 80 credyd gorau ar Lefel Tri, sy’n cael pwysoliad o 3.

Band 2: Yr 80 credyd ail-orau ar Lefel Tri a Lefel Dau, sy’n cael pwysoliad o 2.

Band 1: Gweddill credydau Lefel Tri a Dau, ac unrhyw gredydau Lefel Un a gymerwyd yn Rhan Dau, sy’n cael pwysoliad o 1.

Band S: (120 credyd) â phwysoliad o 0/0.25/0.5.

Cynlluniau 5 mlynedd yn cynnwys 3 blynedd yn Aberystwyth ar ôl Rhan Un yn ogystal â Blwyddyn Ryng-gwrs (MEng)

9.

Band 4: Y 90 credyd gorau ar Lefel M, sy’n cael pwysoliad o 4.

Band 3: Y 90 credyd ail-orau ar Lefel M a Lefel Tri, sy’n cael pwysoliad o 3.

Band 2: Y 90 credyd nesaf ar Lefel Tri a Lefel Dau, sy’n cael pwysoliad o 2.

Band 1: Gweddill credydau Lefel Tri, Dau, ac unrhyw gredydau Lefel Un a gymerwyd yn Rhan Dau, sy’n cael pwysoliad o 1.

Band S: 120 credyd â phwysoliad o 0/0.25/0.5.

10. Wrth ddyrannu marciau i Fandiau, ni chaniateir i unrhyw farc Lefel Dau ymddangos mewn Band uwch na Band lle mae marc Lefel Tri yn ymddangos ac ni chaniateir i unrhyw farc Lefel Tri ymddangos mewn Band uwch na Band lle mae marc Lefel M yn ymddangos.

11. Os yw credyd wedi’i drosglwyddo o sefydliad arall (gan gynnwys lle bo myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid), caiff y rhaeadr ei chyfrifo ar sail y marciau a ddyfernir gan Brifysgol Aberystwyth yn unig a’i llenwi o’r band uchaf i lawr, lle daw’r 80 credyd gorau ar lefel uchaf y band uchaf yn gyntaf a chan adael y band isaf wedi’i lenwi’n rhannol neu’n wag, yn unol â’r rheolau uchod.