4.21 Credydau o sefydliadau eraill

Myfyrwyr a ddechreuodd Ran Un ac Ddyfarniadau Uwchraddedig RHAG Medi 2018 ac Ran Dwy RHAG Medi 2019

1. Dim ond fel rhan o gytundeb cydweithredol llawn sy’n cynnwys mapio ffurfiol o’r graddfeydd marcio y bydd marciau o sefydliadau eraill yn cael eu trosi a’u cynnwys wrth bennu dosbarth dyfarniadau israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs. Ceir canllawiau pellach ynglŷn â’r trefniadau hyn yn adran 9 y Llawlyfr.

Dyfarniadau israddedig

2. Yn achos credyd lefel 3 a lefel M o fewn graddau israddedig, mae’n rhaid cynnwys marciau ar gyfer yr holl 120 o gredydau ar bob lefel, heb ddarpariaeth ar gyfer ‘credyd yn unig’ ar y lefelau hyn wrth bennu dosbarth terfynol y radd.

3. Ar lefel dau o fewn graddau israddedig, caniateir trosglwyddo credydau yn unig yn absenoldeb mapio ffurfiol o’r graddfeydd marcio, a hynny heb gofnodi marciau wrth bennu dosbarth y radd. O dan yr amgylchiadau hyn, pennir dosbarth graddau yn unol â’r rheolau ‘rhaeadru’ arferol a amlinellir yn adran 4.8. Bydd marciau’n cael eu hepgor os mai credyd yn unig sydd i’w gynnwys, gan symud y marciau sy’n weddill i’r bandiau uwch.

Dyfarniadau uwchraddedig trwy gwrs

4. Pan drosglwyddir credydau o sefydliadau eraill ar gyfer dyfarniadau uwchraddedig trwy gwrs, heb drosi’r marciau, pennir dosbarth y dyfarniad ar sail y marciau a ddyfarnwyd yn Aberystwyth, ac yn unol â’r cyfyngiadau ar drosglwyddo credydau.

 

Adolygwyd: Medi 2020