4.2.2 Rhan Dau (Blwyddyn Dau ac uwch) – Myfyrwyr sydd wedi dechrau ar Ran Dau ERS mis Medi 2013 a CHYN mis Medi 2017

1. Ni chaiff myfyrwyr fethu mwy nag 20 credyd sy’n cyfrannu at ddosbarth y dyfarniad terfynol (ac eithrio modiwlau lefel ‘S’, h.y. marciau a gafwyd yn ystod blwyddyn ryng-gwrs).

2. I gamu o’r naill flwyddyn astudio i’r llall, rhaid i’r myfyrwyr basio o leiaf 100 o gredydau.

3. Fel arfer, dim ond un cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd, a hynny i gael marc pasio moel o 40% ar y cyfle cyntaf sydd ar gael.

4. Rhaid cymryd cyfleoedd i ailsefyll ar gyfer marc pasio moel yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen. Fel arfer, dim ond UN cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwl i gael y marc llawn, a hynny YN UNIG pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Brifysgol, ar y cyfle nesaf sydd ar gael (h.y. yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen).

5. Caiff myfyrwyr gael eu hasesu ar hyd at 60 o gredydau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Caniateir i’r myfyrwyr hynny sydd wedi pasio llai na 60 o gredydau gael eu hasesu, ond dim ond hyd at yr uchafswm o 60 credyd.

6. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd fynd ymlaen wedi hynny i gymryd cyfleoedd ailsefyll gydag arwydd ailsefyll F. Gall myfyrwyr sydd ddim eto wedi ymgymhwyso gymryd unrhyw gyfleoedd ailsefyll sy’n weddill er mwyn eu galluogi i gyrraedd y safon sy’n ofynnol.