4.2.4 Rhan Dau (Blwyddyn Dau ac uwch) - Myfyrwyr sydd wedi dechrau ar Ran Dau ERS mis Medi 2019

1. Ni chaiff myfyrwyr fethu mwy nag 20 credyd sy’n cyfrannu at ddosbarth y dyfarniad terfynol (ac eithrio modiwlau lefel ‘S’, h.y. marciau a gafwyd yn ystod blwyddyn ryng-gwrs).

2. I gamu o’r naill flwyddyn astudio i’r llall, rhaid i’r myfyrwyr basio o leiaf 100 o gredydau.

3. Fel arfer, dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd (gydag arwydd ailsefyll F), a hynny i gael marc pasio moel o 40%.

4. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle nesaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Rhaid cymryd yr ail gyfle i ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd yn ystod y flwyddyn ddilynol, yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen. Ni fydd myfyrwyr sydd ar leoliad rhyng-gwrs neu dramor yn colli cyfle i ailsefyll os oes ganddynt ymrwymiadau yn ymwneud â’u lleoliad sy'n eu hatal rhag manteisio ar eu cyfle cyntaf i ailsefyll yn ystod cyfnod yr arholiadau ailsefyll ym mis Awst yr ail flwyddyn, ac ni fyddant ychwaith yn colli cyfle i ailsefyll os na allant ailsefyll yn ystod y flwyddyn ar leoliad. Bydd myfyrwyr na allant ailsefyll oherwydd ymrwymiadau eu lleoliad yn cael cynnig ailsefyll yn ystod eu blwyddyn olaf.

5. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ail-wneud y flwyddyn os ydynt wedi methu mwy na 80 credyd.

6. Fel arfer, dim ond UN cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwl i gael y marc llawn (gydag arwydd ailsefyll H), a hynny YN UNIG pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Brifysgol. Bydd hyn yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst os ydynt wedi methu 80 credyd neu lai, neu trwy ail-wneud y flwyddyn.

7. Caiff myfyrwyr gael eu hasesu ar hyd at 80 o gredydau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd wedi methu mwy na 80 credyd i ailsefyll ym mis Awst o gwbl, a bydd yn rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn.

8. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd fynd ymlaen wedi hynny i gymryd cyfleoedd ailsefyll gydag arwydd ailsefyll F. Gall myfyrwyr sydd ddim eto wedi ymgymhwyso gymryd unrhyw gyfleoedd ailsefyll sy’n weddill er mwyn eu galluogi i gyrraedd y safon sy’n ofynnol.