4.10.1 Blwyddyn Un - Gofynion i drosglwyddo i’r Flwyddyn Olaf a i wneud Profiad Gwaith (FDSc yn unig)

Blwyddyn Un – Gofynion i drosglwyddo i’r Flwyddyn Olaf

1. Bydd myfyrwyr yn pasio Blwyddyn Un os ydynt yn bodloni’r ddau amod a ganlyn yn yr asesiadau ar gyfer modiwlau Blwyddyn Un:

(i) ennill marc o 40% neu ragor mewn modiwlau sy’n werth 100 o gredydau

a

(ii) cael cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 40% o leiaf.

2. Fel arfer, caiff myfyrwyr Rhan Un hyd at dri chyfle i ailsefyll. Dim ond hyd at 40% o’r marciau y gellir eu cael wrth ailsefyll. Serch hynny, bydd rhaid iddynt fod wedi pasio o leiaf 60 credyd i gael caniatâd i gael eu hasesu ym mis Awst. Os ydynt wedi pasio llai na 60 o gredydau, bydd rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn gyntaf.

Blwyddyn Un – Gofynion i wneud Profiad Gwaith (FDSc yn unig)

3. Graddau FDSc Dwy Flynedd: Caniateir i fyfyrwyr gamu ymlaen i’r cyfnod profiad gwaith chwe wythnos (lle mae hyn yn berthnasol) ond ni chaniateir iddynt fynd i’r flwyddyn derfynol hyd nes iddynt fodloni’r holl amodau uchod (h.y. caniateir ail-wneud uchafswm o 20 credyd yn unig o fodiwlau Blwyddyn Un a fethwyd, tra eu bod yn astudio yn y Flwyddyn Olaf, yn amodol ar y cyfyngiad ar y cyfleoedd ailsefyll).

4. Graddau Tair Blynedd: Caniateir i fyfyrwyr gamu ymlaen i’r flwyddyn Ryng-gwrs ar yr amod eu bod wedi pasio o leiaf 60 credyd yn y flwyddyn gyntaf, ond ni chaniateir iddynt gamu ymlaen i’r Flwyddyn Olaf hyd nes iddynt fodloni’r holl amodau uchod (h.y. caniateir ail-wneud uchafswm o 20 credyd yn unig o fodiwlau Blwyddyn Un a fethwyd, tra eu bod yn astudio yn y Flwyddyn Olaf, yn amodol ar y cyfyngiad ar y cyfleoedd ailsefyll).