4.10.2 I fod yn gymwys i gael Gradd Sylfaen

1. Cael cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 40% gan basio 200 credyd o 240 credyd yn ystod Blwyddyn Un a’r Flwyddyn Olaf, ac eithrio unrhyw gredydau a geir yn ystod lleoliad blwyddyn ryng-gwrs.

2. Peidio â methu mwy nag 20 credyd yn eu Blwyddyn Olaf.

3. Pasio’r flwyddyn Ryng-gwrs yn y cynllun Gradd Sylfaen tair blynedd.

4. Fel arfer, dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau (gydag arwydd ailsefyll f), a hynny i gael marc pasio moel o 40%. Dylid cymryd y cyfleoedd ailsefyll hyn ar y cyfle nesaf sydd ar gael (h.y. yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen).

5. Fel arfer, dim ond UN cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwl i gael y marc llawn (gydag arwydd ailsefyll h), a hynny YN UNIG pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Brifysgol, ar y cyfle nesaf sydd ar gael (h.y. yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen).

6. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd fynd ymlaen wedi hynny i gymryd cyfleoedd ailsefyll gydag arwydd ailsefyll f. Gall myfyrwyr sydd ddim eto wedi ymgymhwyso gymryd unrhyw gyfleoedd ailsefyll sy’n weddill er mwyn eu galluogi i gyrraedd y safon sy’n ofynnol.

7. Ni chaiff myfyrwyr ailsefyll y Flwyddyn Olaf â llechen lân ond ni fydd cyfyngu ar nifer y credydau y gellir eu hailsefyll fis Awst.