4.19.1 Myfyrwyr sydd wedi dechrau Gradd Meistr ERS Mis Medi 2018

1. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs, rhaid i’r myfyriwr gael:

(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 50% o leiaf

(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r cyfanswm o 180 credyd a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.

2. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs gyda Theilyngdod, rhaid i’r myfyriwr gael:

(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 60% o leiaf

(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r modiwlau a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.

3. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs gyda Rhagoriaeth, rhaid i’r myfyriwr gael:

(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 70% o leiaf

(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.

4. I fod yn gymwys i gael Diploma Uwchraddedig, rhaid i fyfyriwr:

(i) gwblhau lleiafswm o 120 credyd

(ii) gael marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 100 credyd

(iii) gael cyfartaledd wedi’i bwysoli o 50% o leiaf dros 120 credyd.

Os oes mwy na 120 o gredydau wedi eu cwblhau, defnyddir y 120 credyd o farciau uchaf er mwyn cyfrifo’r marc cyffredinol, a hynny er mwyn penderfynu a yw’r diploma wedi ei basio a dosbarth y dyfarniad.

Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 70% neu fwy yn gymwys i gael Rhagoriaeth.

Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 60-69% yn gymwys i gael Teilyngdod.

5. I fod yn gymwys i gael dyfarniad Tystysgrif Uwchraddedig rhaid i fyfyriwr basio lleiafswm o 60 credyd. Os yw myfyriwr wedi cwblhau mwy na 60 credyd, defnyddir y 60 credyd o farciau uchaf er mwyn cyfrifo’r marc cyffredinol a phennu dosbarth y dyfarniad.

Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 70% neu fwy yn gymwys i gael Rhagoriaeth.

Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 60-69% yn gymwys i gael Teilyngdod.

Cywiro Methiant

6. Caiff myfyrwyr sy’n ailsefyll modiwlau a fethwyd wneud hynny ddwywaith i gael marc uchaf o 50% (ac eithrio pan fydd amgylchiadau arbennig wedi’u derbyn). Dyfernir bod gwaith sydd heb ei gyflwyno, yn cynnwys y traethawd hir, wedi ei fethu, a chaniateir ailsefyll hwn hefyd am farc o 50% ar gyfer y modiwl, wedi ei gapio. Fodd bynnag, nid oes modd i fyfyrwyr ailsefyll er mwyn gwella dosbarth y dyfarniad, wedi iddynt gymhwyso.

7. Bydd myfyrwyr Meistr amser-llawn yn cofrestru am gyfnod o 12 mis. Bydd ganddynt derfyn amser o dair blynedd ar y mwyaf o’r dyddiad dechrau er mwyn cwblhau’r radd. Yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf yn y flwyddyn gyntaf, mae modd iddynt ailsefyll uchafswm o 60 credyd o fodiwlau trwy gwrs a fethwyd, ond mae modd iddynt ohirio ailsefyll y modiwlau trwy gwrs. Fodd bynnag, mae’n rhaid ailsefyll y modiwlau hyn yn y flwyddyn ddilynol, un ai yn ystod y semester neu/ac yng nghyfnod ailsefyll yr haf. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i fyfyrwyr gyda’u trefniadau ailsefyll a’r traethawd hir yn y flwyddyn gyntaf.

8. Mae modd i fyfyrwyr Meistr amser-llawn sydd heb basio’r traethawd hir, neu heb ei gyflwyno o fewn y cyfnod cofrestru 12 mis, ei gyflwyno neu ei ailgyflwyno unrhyw bryd hyd at ddiwedd yr ail flwyddyn. Byddai ganddynt gyfle olaf i ailgyflwyno yn ystod y drydedd flwyddyn.

9. Caniateir ailsefyll am farciau llawn pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu cymeradwyo, a gall myfyrwyr dynnu’n ôl am gyfnod, ond disgwylir y byddant yn cwblhau o fewn 3 blynedd ar y mwyaf. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor gymeradwyo cyfnod pellach o 12 mis.

10. Bydd gan fyfyrwyr Meistr amser-llawn ar radd Meistr dwy flynedd uchafswm o bedair blynedd er mwyn cwblhau’r radd. Yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf yn y flwyddyn gyntaf, mae modd iddynt ailsefyll uchafswm o 60 credyd o fodiwlau trwy gwrs a fethwyd, ond mae modd iddynt ohirio ailsefyll y modiwlau trwy gwrs. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt gwblhau’r rhain erbyn diwedd y drydedd flwyddyn. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i reoli asesiadau ailsefyll, ac yn cydnabod y gallai fod yn anodd i fyfyrwyr ailsefyll tra’n cwblhau lleoliadau mewn diwydiant neu’n mynychu prifysgol bartnerol. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor gymeradwyo cyfnod pellach o 12 mis.

11. Bydd gan fyfyrwyr ar gyrsiau Diploma a Thystysgrif gyfnod ychwanegol o 12 mis ar ôl diwedd cyfnod y cwrs er mwyn cwblhau unrhyw asesiadau ailsefyll.

12. Mae cyfnod cyrsiau ymgeiswyr Meistr rhan-amser a Dysgu o Bell yn hwy, ac mae ganddynt hyblygrwydd er mwyn ailsefyll modiwlau yn ystod y cyfnodau hynny. Dylent fod wedi cwblhau asesiadau ailsefyll unrhyw fodiwlau trwy gwrs cyn dechrau blwyddyn olaf eu terfyn amser hwyaf.

Trothwy

13. Pan fydd myfyrwyr wedi cwblhau 180 credyd, ac wedi cyflwyno amgylchiadau arbennig, gall y Byrddau Arholi ddyfarnu gradd Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth i’r rheini y mae eu cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli hyd at 2% islaw’r ffin, a phan fydd gofynion eraill wedi’u bodloni, sef:

Gellir ystyried rhoi gradd LLWYDDO i rai â chyfartaledd o 47.5% - 49.4%
Gellir ystyried rhoi gradd TEILYNGDOD i rai â chyfartaledd o 57.5-59.4%
Gellir ystyried rhoi gradd RHAGORIAETH i rai â chyfartaledd o 67.5% - 69.4

Pan fydd yn gwneud argymhellion o’r fath o fewn y trothwy o 2%, rhaid i’r Bwrdd Arholi fod yn fodlon y byddai’r myfyriwr wedi cyrraedd y safon ofynnol pe na bai’r amgylchiadau arbennig wedi effeithio’n andwyol ar ei berfformiad.