4.22.1 Ychwanegiad Covid-19 at Gonfensiynau Arholiadau 2019/20

Dangosyddion modiwlau i'w defnyddio yn semester dau 2020

Dim dangosydd

Marc pasio, asesiad y modiwl wedi'i gwblhau

Y

I'w ddefnyddio pan fo'r marc a roddwyd yn deillio o asesiadau oedd yn cyfateb i o leiaf 50% ond yn llai na 100% o asesiadau'r modiwl, pan na chynhaliwyd asesiadau amgen a phan mai pasio yw'r marc. Ceir cyfle i ailsefyll y modiwlau hyn am y marc llawn, hyd yn oed os pasiwyd y modiwl.

Bydd modiwlau a chanddynt ddangosydd Y yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd. 

Ni ddefnyddir Y ar gyfer marciau modiwlau a fethwyd

Defnyddir y dangosydd ailsefyll canlynol ar gyfer marciau modiwl deilliedig a marciau modiwl o lai na 40% ar gyfer modiwlau israddedig (50% ar gyfer modiwlau lefel M a marciau uwchraddedig):

A

I'w ddefnyddio fel dangosydd dros dro ar gyfer marc coll yn sgil honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol nad yw'r ymchwiliad iddo wedi'i gwblhau eto

F

Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)

H

Ailsefyll am farc llawn (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)

M

Ailsefyll am farc llawn (rhan un)

H/M

I'w ddefnyddio naill ai pan nad yw marc modiwl ar gael adeg y bwrdd arholi, e.e. taith maes, ond y bydd ar gael yn nes ymlaen, neu pan na phasiwyd y modiwl er mwyn dangos y cynigir ailsefyll am farc llawn ym mis Awst

N

Ni chaniateir ailsefyll (ar gyfer achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn unig)

P

Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan un yn unig ar gyfer achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol)

Q

Llai na 50% o'r asesu sydd wedi'i gynnal, neu ddim asesu o gwbl, ac felly ni cheir marc ar gyfer y modiwl.  NI cheir cyfle i ailsefyll unrhyw ran o'r asesiad yn y dyfodol, er y gallai myfyriwr ailadrodd y modiwl yn rhan o flwyddyn sy'n cael ei hailadrodd.

Bernir bod y modiwl wedi'i basio at ddibenion symud ymlaen a dyfarnu gradd, ond ni fydd yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd.

R

Ailsefyll am farc llawn (rhan un yn unig)

S

Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)

T

Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau yn unig - Lefel M yn unig a marciau uwchraddedig)

Amgylchiadau arbennig

1. Nid oes angen i fyfyrwyr lenwi ffurflenni amgylchiadau arbennig yn semester dau, boed hynny oherwydd peidio â chyflwyno gwaith nac oherwydd eu bod o'r farn fod amgylchiadau arbennig wedi cael effaith niweidiol ar eu perfformiad. Bydd myfyrwyr yn y ddau gategori yn cael y cyfle i ofyn am ailsefyll heb gapio'r marc. Ni ddylai adrannau gynghori myfyrwyr i gyflwyno ffurflenni a thystiolaeth ar gyfer Covid-19 nac amgylchiadau eraill.  Bydd myfyrwyr sy'n pasio modiwlau yn semester dau, ond sydd o'r farn bod Amgylchiadau Arbennig wedi amharu ar eu perfformiad, yn cael y cyfle i wneud cais i ailsefyll heb gapio'r marciau.  Bydd pob cais o'r fath yn cael ei ystyried ar sail pob achos yn unigol, a bydd cyngor yn cael ei roi i'r myfyrwyr am oblygiadau cymryd cyfle o'r fath.  Fe'i caniateir ar sail 'dim anfantais', sef mai'r marc uchaf fydd yn sefyll.

Rheolau symud ymlaen

Yr holl fyfyrwyr rhan un

2. Bydd y rheolau arferol yn gymwys o ran symud ymlaen, h.y. er mwyn symud ymlaen o un flwyddyn astudio i'r nesaf, rhaid i fyfyrwyr basio isafswm o 100 credyd, a gall hynny gynnwys modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q ac Y. Pan fydd gofyn i fyfyrwyr ennill marc cyfartalog cyffredinol er mwyn symud ymlaen, ni fydd modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad hwnnw, h.y. marc cyfartalog o 40 er mwyn symud ymlaen yn rhan un.

3. Ni fydd yr ailsefyll ym mis Awst, gan gynnwys ailsefyll semester un, yn orfodol. Ni cheir cap ar nifer yr asesiadau ailsefyll ym mis Awst 2020 yn unig. Pan fydd myfyriwr yn dewis ailsefyll Semester 2 modiwl a basiwyd, y marc uchaf fydd yn sefyll.

Yr holl fyfyrwyr rhan dau

4. Bydd y rheolau arferol yn gymwys o ran symud ymlaen, h.y. er mwyn symud ymlaen o un flwyddyn astudio i'r nesaf, rhaid i fyfyrwyr basio isafswm o 100 credyd, a gall hynny gynnwys modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q ac Y*. Pan fydd gofyn i fyfyrwyr ennill marc cyfartalog cyffredinol er mwyn symud ymlaen, ni fydd modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad hwnnw, e.e. marc cyfartalog o 55 er mwyn symud ymlaen ar raddau meistr integredig. *Dylid cofnodi modiwl ADGD/Gwaith maes y mae'n rhaid ei asesu er mwyn cyflawni canlyniadau dysgu'r cynllun â dangosydd H, a chaniateir i fyfyrwyr gario'r modiwl hwn ymlaen i'r flwyddyn nesaf.

5. Ni fydd yr ailsefyll ym mis Awst, gan gynnwys ailsefyll semester un, yn orfodol. Ni cheir cap ar nifer yr asesiadau ailsefyll ym mis Awst 2020 yn unig.

6. Ar gyfer modiwlau semester dau:

(i) Caniateir i'r HOLL fyfyrwyr ailsefyll heb gapio'r marc ar gyfer UNRHYW fodiwl a aseswyd yn semester dau, boed hwy wedi'i fethu (dangosydd H awtomatig, h.y. ailsefyll am farc llawn) neu ei basio, ac eithrio pan roddwyd cosb am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

(ii) Pan fydd myfyriwr yn dewis ailsefyll modiwl a basiwyd, y marc uchaf fydd yn sefyll.

7. Bydd dangosyddion ailsefyll semester un sydd eisoes wedi'u cadarnhau gan Fyrddau Arholi semester un yn sefyll; bydd myfyrwyr sy'n ailsefyll modiwl semester un am farc wedi'i gapio ym mis Awst yn gymwys i gael cyfle arall i ailsefyll am farc wedi'i gapio (dangosydd S).

8. Gall myfyrwyr ail flwyddyn a chanddynt ddangosyddion Y, Q a H ddewis tynnu'n ôl ar ddiwedd semester dau a dychwelyd ym mis Medi 2021 neu 2022. Os oes ganddynt fwy nag 20 credyd o H byddant yn ailadrodd y flwyddyn. Gall dangosyddion Y a Q barhau i ymddangos mewn dyfarniadau a wneir yn y dyfodol hyd at fis Medi 2025.

Myfyrwyr uwchraddedig a ddysgir drwy gwrs

9. Mae'r dangosyddion ailsefyll fel y nodir uchod.

10. Ni fydd yr ailsefyll ym mis Awst, gan gynnwys ailsefyll semester un, yn orfodol. Ni cheir cap ar nifer yr asesiadau ailsefyll ym mis Awst 2020 yn unig. Pan fydd myfyriwr yn dewis ailsefyll modiwl Semester 2 a basiwyd, y marc uchaf fydd yn sefyll.

Myfyrwyr ar gynlluniau cyfnewid

11. Bernir bod myfyrwyr sy'n dychwelyd o gynllun cyfnewid, ac na fu modd iddynt gwblhau rhywfaint neu'r oll o'u hasesiad gyda darparwr y cyfnod cyfnewid, wedi pasio at ddibenion symud ymlaen a bydd modd iddynt hefyd ailadrodd credydau yn ystod y flwyddyn ganlynol os mynnant. Defnyddio dangosyddion H, Q ac Y.

12. Bydd myfyrwyr a fu ar gyfnod cyfnewid yma yn cael marciau ar gyfer modiwlau ar y telerau uchod.

Dyfarnu graddau a'u dosbarthiadau

Graddau israddedig

13. Nid yw nifer y credydau a fethwyd a ganiateir er mwyn ennill gradd wedi newid. Er enghraifft, er mwyn cael gradd Baglor dim ond 20 o'r 240 o gredydau a gymerir yn rhan dau y gall myfyriwr eu methu.

14. Dyfernir dosbarthiad i radd Baglor a gradd Meistr Integredig pan fydd o leiaf ddwy ran o dair o'r credydau gofynnol wedi'u pasio, gan gynnwys y rheini sydd â dangosydd Y.

15. Ni fydd modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q yn cyfrif tuag at y dosbarthiad.

16. Enghreifftiau ymarferol.

Gradd Baglor - 240 credyd yn rhan dau, ac o leiaf 220 ohonynt yn gorfod bod yn gredydau a basiwyd (ac eithrio modiwlau Lefel S).

160 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y)

80 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

Dim credydau a fethwyd

160 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y)

60 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

20 credyd a fethwyd

200 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y)

40 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

Dim credydau a fethwyd

Gradd Meistr Integredig (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016 - ni chaniateir methu mwy nag 20 credyd; mynediad ar ôl Medi 2016 - ni chaniateir methu mwy nag 20 credyd ar lefel 2 a 3, ac 20 credyd ar lefel M) - 360 credyd yn rhan dau, gydag o leiaf 320 ohonynt yn gorfod bod yn gredydau a basiwyd (ac eithrio modiwlau Lefel S).

240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016)

120 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

Dim credydau a fethwyd

240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016)

100 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

20 credyd a fethwyd yn Rhan 2

240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)

120 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

Dim credydau a fethwyd

240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)

100 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

20 credyd a fethwyd ar lefel M NEU ar lefel 2 neu 3

240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)

80 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

20 credyd a fethwyd ar lefel M ac 20 credyd a fethwyd ar lefel 2 NEU 3 (nid y ddau)

 

Gradd Meistr Integredig (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016 - ni chaniateir methu mwy nag 20 credyd; mynediad ar ôl Medi 2016 - ni chaniateir methu mwy nag 20 credyd ar lefel 2 a 3, ac 20 credyd ar lefel M) - 360 credyd yn rhan dau, gydag o leiaf 320 ohonynt yn gorfod bod yn gredydau a basiwyd (ac eithrio modiwlau Lefel S).

240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016)

120 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

Dim credydau a fethwyd

240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016)

100 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

20 credyd a fethwyd yn Rhan 2

240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)

120 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

Dim credydau a fethwyd

240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)

100 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

20 credyd a fethwyd ar lefel M NEU ar lefel 2 neu 3

240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)

80 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

20 credyd a fethwyd ar lefel M ac 20 credyd a fethwyd ar lefel 2 NEU 3 (nid y ddau)

 

Gradd gyffredin - gydag isafswm o 60 credyd ar Lefel 3 neu'n uwch ac wedi pasio o leiaf 160 credyd dros ran dau yn ei chrynswth (ac eithrio modiwlau Lefel S).

110 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y)

50 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q

80 credyd a fethwyd

17. Bydd canlyniadau sy'n seiliedig ar asesu anghyflawn yn cael eu cyflwyno fel dosbarthiadau gradd dangosol a bydd myfyrwyr yn gall:

(i) eu derbyn a graddio, ac yna bydd y canlyniadau'n rhai terfynol

(ii) aros i'r marciau fod ar gael

neu

(iii) ailsefyll y modiwlau hynny yr effeithiwyd arnynt cyn cael y radd.

Y drws trugaredd

18. Gweler:

Atodiad 1 Drws Trugaredd COVID-19: Graddau Israddedig

Atodiad 2 Drws Trugaredd COVID-19:  Graddau Meistr

Atodiad 3 Templed o agenda i fyrddau arholi

Dyfarniadau uwchraddedig drwy gwrs

19. Defnyddir yr un dangosyddion modiwlau â’r rhai ar gyfer myfyrwyr israddedig ac eithrio T (dangosydd ailsefyll am farc wedi'i gapio).

20. Nid yw nifer y credydau a fethwyd a ganiateir er mwyn ennill gradd wedi newid. Er enghraifft, er mwyn cael gradd Meistr dim ond 20 o'r 180 o gredydau y gall myfyriwr eu methu. Dyfernir dosbarthiad i radd pan fydd o leiaf ddwy ran o dair o'r credydau gofynnol wedi'u pasio, gan gynnwys y rheini sydd â dangosydd Y. Ni fydd modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q yn cyfrif tuag at y dosbarthiad.

21. TUAAU: Mae'r cymhwyster TUAAU yn arwain at gymrodoriaeth AdvanceHE a bydd angen bodloni gofynion achrediad allanol.

22. Rhaid cyflawni'r gofynion TAR, gyda neu heb SAC, yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, sy'n gwneud darpariaethau ar gyfer dod â lleoliadau mewn ysgolion i ben yn gynnar.

Dyfarniadau ymadael (wrth gefn) israddedig ac uwchraddedig drwy gwrs

23. Dyfarniadau ymadael â dosbarthiad (PGCert, PGDip, BSc/BA lle mae'n bwynt ymadael ar gynllun Meistr integredig):

(i) Bydd modiwlau Q yn cyfrif tuag at nifer y credydau a basiwyd sy'n ofynnol ar gyfer y dyfarniad ond nid ar gyfer y credydau a ddefnyddir yn y dosbarthiad.

(ii) Rhaid i o leiaf ddwy ran o dair o'r credydau gofynnol ar gyfer dosbarthiad fod yn seiliedig ar farciau gwirioneddol neu fodiwlau Y; ni ellir cyfrif modiwlau Q.

24. Dyfarniadau ymadael heb ddosbarthiad: CertHE, DipHE, gradd Gyffredin: Ni all dangosyddion Q gyfrannu tuag at fwy nag un rhan o dair o unrhyw ddyfarniad ymadael.

Dyfarniadau eraill ar lefel israddedig

25. Tystysgrif Addysg Broffesiynol (PCE) a Thystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion (PRGCE) – Mae'r holl asesiadau ar gyfer modiwlau wedi'u gosod yn ôl yr arfer, ac felly nid oes angen dangosyddion Q nac Y. Mae'r gofynion addysgu ymarferol wedi cael eu newid ar gyfer semester dau yn unig, a bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r rhain wrth fodd yr arholwyr yn gohirio'r dyfarniad terfynol hyd y gallant gwblhau'r gofynion ymarferol sy'n weddill.

Enghreifftiau o sefyllfaoedd a chanlyniadau posibl:

 

Sefyllfa

Canlyniad

1

Asesiad amgen wedi'i osod ar gyfer myfyriwr, a'r myfyriwr wedi'i sefyll ac wedi pasio'r modiwl

Y myfyriwr yn cael marc pasio

2

Asesiad amgen wedi'i osod ar gyfer myfyriwr, a'r myfyriwr wedi'i sefyll ond wedi methu'r modiwl

Y myfyriwr yn cael marc methu a dangosydd H

3

Asesiad amgen wedi'i osod ar gyfer myfyriwr, a'r myfyriwr wedi penderfynu peidio â'i sefyll.  Fodd bynnag, mae wedi cwblhau'r asesiadau eraill

0 fel cosb yn berthnasol i bob achos o beidio â chyflwyno gwaith. Dangosydd H os na phasiwyd yn sgil marciau o gydrannau eraill

4

Asesiad amgen wedi'i osod ar gyfer myfyriwr, a'r myfyriwr wedi penderfynu peidio â'i sefyll.  Nid oes gan y myfyriwr unrhyw farciau eraill ar gyfer y modiwl

Y myfyriwr yn cael marc o 0 am beidio â chyflwyno a dangosydd H

5

NI osodwyd asesiad amgen ar gyfer y myfyriwr.  Mae wedi cwblhau rhai asesiadau ond nid ydynt yn werth 50% neu fwy ond mae ganddynt farc cydrannol

Dim marc rhannol, gwag a dangosydd Q

6

NI osodwyd asesiad amgen ar gyfer y myfyriwr.  Mae wedi cwblhau asesiadau gwerth 50% neu fwy o'r modiwl

Yn cael marc deilliannol gyda dangosydd Y os pasiwyd y modiwl.
Os na phasiwyd y modiwl, defnyddir y dangosydd methu priodol, sef naill ai H neu M ac eithrio mewn achosion o YAA sydd wedi'i gadarnhau

7

Bydd y myfyriwr yn cael cynnig yr asesiad yn nes ymlaen (megis gwaith maes)

Marc gwag a dangosydd H

8

Myfyriwr yn ailsefyll o'r sesiwn ddiwethaf am farc wedi'i gapio, ond yn methu neu ddim yn cyflwyno asesiad

0 am beidio â chyflwyno
Dangosydd S (israddedig) neu ddangosydd ailsefyll T ar gyfer modiwlau lefel M

9

Y myfyriwr eisiau gadael ei gwrs a chael dyfarniad ymadael â dosbarthiad, os yw hyn ar gael, e.e. 
PGCert, PGDip, BSc/BA lle mae'n bwynt ymadael ar gynllun Meistr integredig

Bydd modiwlau Q yn cyfrif tuag at nifer y credydau a basiwyd sy'n ofynnol ar gyfer y dyfarniad ond nid ar gyfer y credydau a ddefnyddir yn y dosbarthiad.
Rhaid i o leiaf ddwy ran o dair o'r credydau gofynnol ar gyfer dosbarthiad fod yn seiliedig ar farciau gwirioneddol neu fodiwlau Y, ni cheir cyfrif modiwlau Q.

10

Y myfyriwr eisiau gadael ei gwrs a chael dyfarniad ymadael (heb ddosbarthiad), e.e. CertHE, DipHE, gradd Gyffredin

Ni chaniateir i ddangosyddion Q gyfrannu tuag at fwy nag un rhan o dair o unrhyw ddyfarniad ymadael

11

Myfyrwyr y gosodwyd asesiadau amgen ar eu cyfer, a'u bod wedi eu sefyll ym mis Mai ond wedi eu methu.  Wedi eu hailsefyll yn y cyfnod ailsefyll a'u methu eto, a'u bod felly mewn sefyllfa lle mae ganddynt fwy nag 20 credyd o H

Bydd angen i'r myfyriwr ailadrodd y credydau a fethwyd y sesiwn nesaf

12

Myfyrwyr sydd ag ailsefyll H ar gyfer marciau a ddisgwylir yn nes ymlaen (megis gwaith maes) a bod ganddynt hefyd hyd at 20 credyd H mewn modiwlau eraill.

Caniateir iddynt symud ymlaen.
Rhaid i'r modiwlau gwaith maes hyn fod wedi'u nodi ymlaen llaw a'u cofnodi yng nghofnodion y bwrdd arholi

13

Myfyrwyr blwyddyn olaf nad ydynt yn fodlon ar ddosbarthiad dangosol eu gradd

Gall myfyrwyr blwyddyn olaf ddewis gwrthod dosbarthiad dangosol y radd ac ailsefyll unrhyw fodiwl semester dau, ac eithrio dangosyddion F neu N. 
(Yn semester dau, dim ond mewn achosion YAA y defnyddir dangosyddion F)

14

Myfyriwr rhan dau nad ydyw ar ei flwyddyn olaf ac sydd wedi bodloni'r gofynion symud ymlaen ond sydd eisiau ailadrodd y flwyddyn

Mae'n bosibl y gall y myfyriwr ailadrodd modiwlau a fethwyd (o semester un) a gofyn am gael ailadrodd modiwlau a aseswyd yn semester dau

15

Gall myfyrwyr a chanddynt ormod o gredydau a fethwyd ac sy'n gorfod ailadrodd y flwyddyn ddadlau bod arnynt eisiau ailadrodd modiwlau a chanddynt ddangosydd Q er mwyn cael statws llawn-amser i gael cymorth ariannol gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Caniateir i fyfyrwyr ailadrodd modiwlau Q os mynnant.

21/05/20 Confensyniau Arholidau Addendum Mai 2020

Adolygwyd: Mai 2020