4.22.2 Atodiad 1 Drws Trugaredd COVID 19: Graddau Israddedig (2019/20)

Pob Amgylchiadau Arbennig i fyfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf sy'n dod o fewn ffin 2% ym misoedd Mehefin neu Fedi 2020

1.Pwysau Marciau

Argymhellir bod rheol y pwysau marciau a weithredir fel arfer i ddrws 1% yn cael ei gweithredu i ddrws 2% er mwyn cydnabod yr amgylchiadau sy'n wynebu ein myfyrwyr i gyd yn y flwyddyn eithriadol hon o ganlyniad i COVID-19, neu o ganlyniad i amgylchiadau arbennig eraill sy'n effeithio ar fyfyrwyr unigol yn ystod semester dau ym mlwyddyn academaidd 2019-20, felly:

Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 2% i unrhyw ffin, RHAID eu codi i’r dosbarth uwch, ar yr amod eu bod yn bodloni un o’r meini prawf hyn:

a) NAILL AI mae o leiaf 50% o gredydau Rhan Dau yn eu crynswth, ac eithrio Blwyddyn Ryng-gwrs neu Flwyddyn Dramor, a hefyd yn eithrio unrhyw fodiwlau â dangosyddion Q, yn y dosbarth uwch neu drosodd

NEU

b) mae dau draean o leiaf o blith 120 credyd olaf Rhan Dau, ac eithrio modiwlau â dangosyddion Q, yn y dosbarth uwch neu drosodd.

Mae i hyn y fantais o allu ymdrin â llawer o achosion Drws Trugaredd mewn modd teg, cyson ac effeithlon.

2. Y Panel Amgylchiadau Arbennig

Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 2% i unrhyw ffin, a hwythau heb eu codi drwy bwysau marciau, CANIATEIR eu codi i’r dosbarth uwch ar argymhelliad Panel Amgylchiadau Arbennig y Brifysgol, os amharwyd ar eu perfformiad yn semester dau 2020.

Rhoddir ffurflen i'r Adrannau ei llenwi ar gyfer pob myfyriwr sy'n dod o fewn drws trugaredd 2% ym misoedd Mehefin neu Fedi 2020 ond nad ydynt yn bodloni meini prawf y pwysau marciau.  Rhaid i'r adrannau roi gwybodaeth eglur i esbonio pam maent yn cefnogi neu'n peidio â chefnogi dyfarnu dosbarth uwch i'r radd, wedi iddynt ystyried a yw'n debygol y byddai'r myfyrwyr dan sylw wedi cael y dosbarth uwch i'r radd pe na bai COVID-19 wedi amharu ar semester dau 2019-20.

Dylai'r adrannau gynnwys y ffactorau isod* yn eu hystyriaethau cyn pennu eu hargymhellion i'r Panel:

*Gweler https://www.qaa.ac.uk/docs/guidance/no-detriment-policies-an-overview.pdf

a) A yw'r ffaith bod yr arholiadau traddodiadol a/neu rai ffurfiau eraill ar asesu (e.e. asesiadau ymarferol) wedi'u disodli gan asesiadau eraill wedi effeithio'n negyddol ar y myfyrwyr ai peidio, neu a oes effaith debyg wedi digwydd oherwydd bod y marciau wedi deillio o asesiadau cydrannol mewn modiwlau penodol, neu a fyddai'r myfyrwyr yn debygol o fod wedi cael marciau uwch mewn modiwlau â dangosyddion Q na chyfartaledd eu cyfanswm

b) Amserlen cyflwyno'r traethawd hir (mae dyddiadau cyflwyno hwyrach yn golygu ei bod hi'n fwy tebygol y byddai COVID-19 wedi effeithio ar gyflawniad modiwl y traethawd hir/prosiect mawr, boed hynny'n ymwneud â newid y fethodoleg, cwmpas y gwaith neu hyd yn oed pwnc y prosiect, neu drwy gyfyngiadau ar y gwaith ymchwil ac ysgrifennu)

c) Proffil cyffredinol marciau'r myfyrwyr ar draws Rhan Dau, ac a yw'r perfformiad wedi gostwng yn semester dau 2019-20; os yw'r perfformiad wedi gostwng, a fyddai'r myfyrwyr wedi cyrraedd y dosbarth uwch pe baent wedi perfformio yn unol â'u lefel flaenorol, neu yn wir wedi dangos cynnydd wrth dynnu at ddiwedd y radd, ac a fyddai hynny wedi bod yn debygol heb effaith COVID-19?

Bydd panel Amgylchiadau Arbennig y Brifysgol yn trafod pob achos sy'n dod o fewn y categori hwn er mwyn sicrhau cysonder a thegwch ar draws y Cyfadrannau i gyd.  Bydd y panel yn ystyried y materion uchod, ar y cyd ag argymhelliad yr adran yn ystod eu trafodaethau.

Os yw'r Panel Amgylchiadau Arbennig o'r farn nad oes digon o wybodaeth wedi'i rhoi gan yr adran, rhaid i'r Panel chwilio am ragor o wybodaeth gan yr adran cyn y cynhelir Bwrdd Arholi'r Senedd.

DS. Yn unol â'r hyn y cytunwyd arno yn y Senedd, caiff y myfyrwyr y cyfle i dderbyn neu wrthod dosbarth gradd dangosol cyn gynted ag y bydd y canlyniadau ar gael. Mae'r myfyrwyr hefyd yn cadw'r hawl i apelio.

3. Amgylchiadau Arbennig nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 sydd wedi codi yn semester dau 2019-20 neu semestrau blaenorol

Rydym wedi cadarnhau nad oes angen i fyfyrwyr lenwi ffurflenni amgylchiadau arbennig yn semester dau, boed hynny oherwydd bod gwaith heb ei gyflwyno neu oherwydd eu bod o'r farn bod amgylchiadau arbennig wedi cael effaith niweidiol ar eu perfformiad.

Os yw ffurflenni amgylchiadau arbennig wedi'u cyflwyno i adrannau yn gynt yn semester dau (neu hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau symud) dylent gael eu cofnodi yn y byrddau arholi ond ni fyddant yn effeithio ar y penderfyniadau ar y modiwlau a'r drws trugaredd yn semester dau.  Dylid ystyried y dystiolaeth am amgylchiadau arbennig a nodwyd gan y byrddau arholi adrannol o semestrau blaenorol yn y modd arferol, ond fe fydd semester dau 2019-20 yn cael ei ystyried ar sail y marciau yn unig, er mwyn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu trin yn gyson, ni waeth p'un a effeithiodd arnynt, COVID-19 neu amgylchiadau eraill.