4.22.3 Atodiad 2 Drws Trugaredd COVID-19: Graddau Meistr (2019/20)

Pob Amgylchiadau Arbennig i ôl-raddedigion graddau Meistr a ddysgir drwy gwrs yn eu blwyddyn olaf sy'n dod o fewn ffin 2% ym misoedd Mehefin, Medi a Rhagfyr 2020

1. Pwysau Marciau

Argymhellir bod rheol y pwysau marciau a weithredir i ddrws 1% yn y confensiynau israddedig, ac sy'n cael ei hestyn i ddrws 2% eleni, hefyd yn cael ei gweithredu i gonfensiynau'r graddau Meistr a ddysgir er mwyn cydnabod yr amgylchiadau sy'n wynebu ein myfyrwyr i gyd yn y flwyddyn eithriadol hon o ganlyniad i COVID-19, neu o ganlyniad i amgylchiadau arbennig eraill sy'n effeithio ar fyfyrwyr unigol yn ystod semestrau dau a thri ym mlwyddyn academaidd 2019-20, felly:

Pan fydd cyfartaledd myfyrwyr o fewn 2% i unrhyw ffin, RHAID eu codi i'r dosbarth uwch ar yr amod bod o leiaf 50% o gredydau'r radd Meistr yn eu crynswth, ac eithrio Blwyddyn Ryng-gwrs, a hefyd yn eithrio unrhyw fodiwlau â dangosyddion Q, yn y dosbarth uwch neu drosodd.

Mae i hyn y fantais o allu ymdrin â llawer o achosion Drws Trugaredd mewn modd teg, cyson ac effeithlon.

2. Y Panel Amgylchiadau Arbennig

Pan fydd cyfartaledd myfyrwyr Meistr o fewn 2% i unrhyw ffin, a hwythau heb eu codi drwy bwysau marciau, CANIATEIR eu codi i’r dosbarth uwch ar argymhelliad Panel Amgylchiadau Arbennig y Brifysgol, os amharwyd ar eu perfformiad yn semester dau a/neu dri 2020.

Rhoddir ffurflen i'r Adrannau ei llenwi ar gyfer pob myfyriwr sy'n dod o fewn drws trugaredd 2% ym misoedd Mehefin, Medi neu Ragfyr 2020 ond nad ydynt yn bodloni meini prawf y pwysau marciau.  Rhaid i'r adrannau roi gwybodaeth eglur i esbonio pam maent yn cefnogi neu'n peidio â chefnogi dyfarnu dosbarth uwch i'r radd, wedi iddynt ystyried a yw'n debygol y byddai'r myfyrwyr dan sylw wedi cael y dosbarth uwch i'r radd pe na bai COVID-19 wedi amharu ar semester dau a/neu dri 2019-20.

Dylai'r adrannau gynnwys y ffactorau isod* yn eu hystyriaethau cyn pennu eu hargymhellion i'r Panel:

*Gweler https://www.quaa.ac.uk/docs/qaa/guidance/no-detriment-policies-an-overview.pdf

a) A yw'r ffaith bod yr arholiadau traddodiadol a/neu ffurfiau eraill ar asesu (e.e. asesiadau ymarferol) wedi'u disodli gan asesiadau eraill wedi effeithio'n negyddol ar y myfyrwyr ai peidio, neu a oes effaith debyg wedi digwydd oherwydd bod y marciau wedi deillio o asesiadau cydrannol mewn modiwlau penodol, neu a fyddai'r myfyrwyr yn debygol o fod wedi cael marciau uwch mewn modiwlau â dangosyddion Q na chyfartaledd eu cyfanswm.

b) A fyddai'r cyfyngiadau symud oherwydd COVID-19 wedi effeithio ar gyflawniad modiwl y traethawd hir/prosiect mawr, boed hynny'n ymwneud â newid y fethodoleg, cwmpas y gwaith neu hyd yn oed pwnc y prosiect, neu drwy gyfyngiadau ar y gwaith ymchwil ac ysgrifennu. Rhoddir ffurflen i'r myfyrwyr er mwyn iddynt gofnodi'r effaith ar eu traethawd hir/prosiect mawr. Bydd eu hadran yn gwirio hyn.

c) Proffil cyffredinol marciau'r myfyrwyr ac a yw'r perfformiad wedi gostwng yn y modiwlau ar ôl semester un; os yw'r perfformiad wedi gostwng, a fyddai'r myfyrwyr wedi cyrraedd y dosbarth uwch pe baent wedi perfformio yn unol â'u lefel flaenorol, neu yn wir wedi dangos cynnydd wrth dynnu at ddiwedd y radd, ac a fyddai hynny wedi bod yn debygol heb effaith COVID-19?

Bydd panel Amgylchiadau Arbennig y Brifysgol yn trafod pob achos sy'n dod o fewn y categori hwn er mwyn sicrhau cysonder a thegwch ar draws y Cyfadrannau i gyd.  Bydd y panel yn ystyried y materion uchod, ar y cyd ag argymhelliad yr adran yn ystod eu trafodaethau.

Os yw'r Panel Amgylchiadau Arbennig o'r farn nad oes digon o wybodaeth wedi'i rhoi gan yr adran, rhaid i'r Panel chwilio am ragor o wybodaeth gan yr adran cyn y cynhelir Bwrdd Arholi'r Senedd.

DS: Yn unol â'r hyn y cytunwyd arno yn y Senedd, caiff y myfyrwyr y cyfle i dderbyn neu wrthod dosbarth gradd dangosol cyn gynted ag y bydd y canlyniadau ar gael. Mae'r myfyrwyr hefyd yn cadw'r hawl i apelio.

3. Amgylchiadau Arbennig nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 sydd wedi codi yn semester dau a/neu dri 2019-20 neu semestrau blaenorol

Rydym wedi cadarnhau nad oes angen i fyfyrwyr lenwi ffurflenni amgylchiadau arbennig yn semester dau neu dri, boed hynny oherwydd bod gwaith heb ei gyflwyno neu oherwydd eu bod o'r farn bod amgylchiadau arbennig wedi cael effaith niweidiol ar eu perfformiad.

Os yw ffurflenni amgylchiadau arbennig wedi'u cyflwyno i adrannau yn gynt yn semester dau (neu hyd yn oed yn ystod neu ar ôl y cyfyngiadau symud) dylent gael eu cofnodi yn y byrddau arholi ond ni fydd yn effeithio ar y penderfyniadau ar y modiwlau a'r drws trugaredd yn semestrau dau a thri.  Dylid ystyried y dystiolaeth am amgylchiadau arbennig a nodwyd gan y byrddau arholi adrannol o semestrau blaenorol yn y modd arferol, ond fe fydd semester dau a thri 2019-20 yn cael eu hystyried ar sail y marciau yn unig, er mwyn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu trin yn gyson, ni waeth p'un a effeithiodd arnynt, COVID-19 neu amgylchiadau eraill.