4.22.2 Cyfnod Asesu Ailsefyll yr Haf, Awst 2021 - Amgylchiadau Arbennig

1. Yn achos modiwlau a fethwyd yn ystod cyfnod asesu ailsefyll yr haf yn Awst 2021, ni fydd cyfle awtomatig i ailsefyll heb gapio’r marc.

2. Ni fydd cyfle i ailgymryd modiwlau a basiwyd yn ystod cyfnod asesu ailsefyll yr haf yn Awst 2021 i wella marc.

3. Dylai myfyrwyr sydd am ddwyn amgylchiadau arbennig i sylw’r bwrdd arholi gyflwyno Ffurflen Amgylchiadau Arbennig i’w hadran, gweler 3.8 Amgylchiadau Arbennig ac Addasiadau Rhesymol a gweler y Rhestr Staff am fanylion cyflwyno’r ffurflen.

4. Dylid darparu tystiolaeth annibynnol gyda’r Ffurflen Amgylchiadau Arbennig. Fodd bynnag, os nad oes tystiolaeth ar gael, dylai myfyrwyr egluro’r amgylchiadau yn y Ffurflen Amgylchiadau Arbennig.

5. Nid yw Llawlyfr Ansawdd Academaidd 4.20 yn berthnasol i draethodau estynedig uwchraddedigion a ddysgir a gyflwynir ddiwedd Medi 2021, a cheir canllawiau yn Llawlyfr Ansawdd Academaidd 4.19.3 Ychwanegiad Covid-19 at Gonfensiynau Arholiadau 2021.