4.12.2 Blwyddyn Dau – Gofynion i ymgymryd â'r lleoliad integredig

1. Ar gyfer FdSc Nyrsio Milfeddygol, rhaid i fyfyrwyr basio pob elfen o'r 60 credyd yn semester un o flwyddyn dau er mwyn cael mynd ymlaen i'r lleoliad.

2. Fel arfer dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd yn yr ail a’r drydedd flwyddyn (gweler hefyd 4.12.3). Os bydd myfyrwyr yn methu modiwl neu asesiad, byddant yn cael cyfle i ailsefyll yng nghyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst a gallant barhau â'u lleoliad tan y pwynt hwn. Os ydynt yn methu’r arholiad ailsefyll, ni fydd modd iddynt barhau â'u lleoliad mwyach a rhaid iddynt ailadrodd unrhyw fodiwlau a fethwyd o flwyddyn 2 fel myfyriwr sy’n ailsefyll blwyddyn (dyma'r ail ymgais ailsefyll).