4.13.3 I fod yn gymwys ar gyfer FdSc Milfeddygaeth

1. Rhaid i fyfyrwyr gael marc pasio o 40% o leiaf ym mhob elfen o’r 240 credyd a addysgir ac mae'n rhaid iddynt fod wedi cwblhau'r lleoliad blwyddyn rhyng-gwrs yn foddhaol.

2. Fel arfer, dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd yn y flwyddyn olaf (gydag arwydd ailsefyll F), a hynny i gael marc pasio o 40%. Dylid cymryd y cyfleoedd ailsefyll hyn ar y cyfle nesaf sydd ar gael (h.y. yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y bydd y modiwl ar gael nesaf yn y sesiwn ganlynol. Mae’n bosibl y bydd cyfleoedd ailsefyll heb eu capio (arwydd ail-sefyll H) ar gael gan Fyrddau Arholi os derbynnir bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar y perfformiad.