5.4 Trefn Benodi

1. Dylid anfon pob enwebiad ar gyfer Arholwyr Allanol newydd neu estyniadau i benodiadau cyfredol i’r Gofrestrfa Academaidd i’w hystyried gan y pwyllgor perthnasol erbyn diwedd Chwefror fan hwyraf yn y sesiwn cyn dechrau’r penodiad. Dylai pob ffurflen enwebu gynnwys dogfennaeth bellach fel y nodir yn y ffurflen enwebu (e.e. CV academaidd yr enwebai). Dylai Adrannau gysylltu â’r Arholwyr arfaethedig yn anffurfiol i holi a ydynt yn barod i dderbyn y penodiad cyn cyflwyno enwebiadau ffurfiol. Gofynnir i adrannau roi manylion am unrhyw orgyffwrdd o ran maes gwaith ag Arholwyr Allanol eraill yn rhan o’r ffurflen enwebu.

2. Ar ôl i’r Gofrestrfa Academaidd gymeradwyo’r penodiad, bydd llythyr cynnig ffurfiol yn cael ei anfon at yr Arholwr ynghyd â manylion y ffi a Rheoliadau a gweithdrefnau priodol y Brifysgol.