5.7 Swyddogaeth Arholwyr Allanol mewn Byrddau Arholi

1. Bydd pob adran academaidd yn sefydlu Bwrdd neu Fyrddau Arholi terfynol er mwyn ystyried canlyniadau a gwneud argymhellion ynglŷn ag ymgeiswyr sy’n dilyn cynlluniau sy’n arwain at ddyfarnu cymwysterau israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs. Caiff holl Fyrddau Arholi’r Senedd a’r Byrddau Arholi Adrannol eu cynnal yn rhithiol (ar-lein) gan ddefnyddio MS Teams. Mae hyn yn cynnwys yr holl fyrddau trwy gwrs, gan gynnwys y bwrdd hyfforddiant ymchwil. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydnabod y bydd rhai achosion lle bydd angen i’r Arholwyr Allanol deithio i Aberystwyth o hyd, e.e. i adolygu samplau o waith nad oes modd cael mynediad iddynt yn hawdd ar-lein, arsylwi ar berfformiadau byw neu arddangosfeydd celf, neu oherwydd amser marcio a chymedroli cyfyngedig sy’n atal i samplau o sgriptiau arholiad gael eu hanfon at Arholwr Allanol cyn cyfarfod Bwrdd Arholi. Mewn achosion o’r fath, os oes rheswm da, bydd modd mynychu’r Byrddau Arholi’n bersonol, ar yr amod y ceir caniatâd cyn y Bwrdd Arholi gan y Gofrestrfa Academaidd fel y nodir yn 5.6.2 uchod.

2. Ar gyfer pob Bwrdd Arholi adrannol, bydd:

(i) Cadeirydd a fydd yn aelod o staff hŷn yr Adran berthnasol, a enwebwyd gan Bennaeth yr Adran

(ii) Arholwr (neu Arholwyr) Allanol a benodwyd yn unol â’r trefniadau penodi

(iii) Arholwyr Mewnol a/neu gynrychiolydd/wyr modiwlau perthnasol

(iv) Unigolion priodol a fydd yn bresennol, trwy wahoddiad y Cadeirydd, ar gyfer rhoi cyngor. Ni fydd gan y cyfryw unigolion yr hawl i bleidleisio.

3. Bydd holl ganlyniadau’r cynlluniau trwy gwrs yn cael eu cadarnhau gan Fwrdd Arholi perthnasol y Senedd yn cynnwys:

(i) Cadeirydd, sef y Dirprwy Is-Ganghellor sy’n gyfrifol am safonau academaidd (neu enwebai)

(ii) Adolygwr Allanol y Senedd a fydd yn uwch-weinyddwr o brifysgol arall â phrofiad sylweddol o weithredu arferion a threfniadau arholi ac asesu. Eu gwaith yw cadarnhau bod PA wedi gweithredu ei gweithdrefnau cymeradwy yn gywir a nodi gwelliannau posibl ar sail arferion da mewn mannau eraill. Byddai gofyn i’r sawl a benodir fynychu Byrddau Arholi’r Senedd i oruchwylio’r trafodion

(iii) Arholwyr Mewnol a fydd yn cynrychioli holl fodiwlau dysgu’r adrannau y mae eu canlyniadau yn cael eu hystyried

(iv) Unigolion priodol a fydd yn bresennol, trwy wahoddiad y Cadeirydd, ar gyfer rhoi cyngor. Ni fydd gan y cyfryw unigolion yr hawl i bleidleisio.

4. Ystyrir Arholwyr Allanol yn aelodau o Fyrddau Arholi, i roi barn allanol a chynnig cyngor ac arweiniad. Ni fydd ganddynt yr hawl i roi feto ar benderfyniadau’r Bwrdd. Wrth gwblhau cylch arholi, bydd Arholwr Allanol yn cael eu gwahodd i gadarnhau bod y penderfyniadau a nodwyd wedi’u cymryd gan y Bwrdd Arholi; ni ddylid ei ddehongli o reidrwydd fel awgrym o gymeradwyo safonau’r arholiad neu drefniadau’r asesu; materion i’w hystyried yn adroddiadau’r Arholwyr Allanol i’r Brifysgol yw’r rhain.

5. Yn ystod Semester 1, bydd Arholwyr Allanol yn cyflawni’r holl dasgau sydd fel arfer yn gysylltiedig ag arholi megis cymeradwyo asesiadau a rhoi adborth ar gynlluniau/modiwlau y maent yn gyfrifol amdanynt ym Myrddau Arholi Semester 1. Cynhelir ymgynghoriad drwy ohebiaeth neu ddulliau priodol eraill; rhaid i adrannau academaidd sicrhau bod pob Arholwr Allanol yn ymgysylltu â'r tasgau a/neu'r gweithdrefnau angenrheidiol cyn Byrddau Arholi Semester 1. Dylai unrhyw bryderon am fodiwlau Semester 1 gael eu dwyn i sylw'r adran academaidd berthnasol cyn Bwrdd Arholi Semester 1. Ni ofynnir yn ffurfiol i Arholwyr Allanol fynychu cyfarfodydd Byrddau Arholi Semester 1 ond gallant wneud hynny os ydynt yn dymuno. Nid oes angen cyflwyno adroddiad ffurfiol ar ôl Byrddau Arholi Semester 1, ond dylai Arholwyr Allanol gynnwys eu sylwadau ynghylch modiwlau Semester 1 yn yr adroddiad blynyddol y maent yn ei gyflwyno ar ôl Byrddau Arholi Semester 2. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir gofyn i Arholwr Allanol am adroddiad interim ar ôl Semester 1.

6. Mae’n ddisgwyliad ffurfiol gan y Brifysgol i Arholwyr Allanol cynlluniau israddedig fod yn bresennol ym mhrif gyfarfod, Semester 2 y Byrddau Arholi ym Mehefin pan benderfynir ar ganlyniadau arholiadau’r pynciau y buont yn ymwneud â hwy.

7. Mae’r Brifysgol yn disgwyl yn ffurfiol i Arholwyr Allanol cynlluniau uwchraddedig trwy gwrs fod yn bresennol ym myrddau arholi Semester 2; er y gall adrannau wahodd Arholwyr Allanol i fynychu’r Bwrdd Arholi dyfarnu graddau terfynol ym mis Tachwedd/Rhagfyr, yn ychwanegol at Fwrdd Arholi semester dau. Dylai o leiaf un arholwr allanol fod yn bresennol yn ystod y bwrdd dyfarnu graddau terfynol ym mis Tachwedd/Rhagfyr; penderfynir hyn gan yr Adran yn ôl yr un gyfradd.

8. Mae'n ofynnol yn ffurfiol i Arholwr Allanol ARCHE fynychu dau banel blynyddol lle dyfernir cymrodoriaeth yr AAU i ymgeiswyr (fel arfer tua mis Tachwedd a mis Mai). Diben y panel yw cadarnhau dyfarnu statws Cymrawd Cyswllt, Cymrawd, ac Uwch Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch drwy gais uniongyrchol drwy ARCHE a chydnabod dyfarnu statws Cymrawd Cyswllt a Chymrawd drwy gymryd rhan yn y cynlluniau TUAAU.

9. Mae'n ofynnol yn ffurfiol i Arholwr Allanol TUAAU fynychu’r prif Fwrdd Arholi TUAAU ym mis Chwefror, ac i gyflwyno adroddiad blynyddol ymhen 4 wythnos i’r bwrdd hwnnw, oni bai bod Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gofyn iddo wneud yn wahanol.

10. Mae'n ofynnol yn ffurfiol i'r Arholwyr Allanol Addysg Iechyd fynychu prif Fwrdd Arholi Semester 3, oni bai y gofynnir iddynt wneud fel arall gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi.

11. Mae’n ofynnol yn ffurfiol i’r Arholwyr Allanol Dysgu Gydol Oes fynychu prif Fwrdd Arholi Dysgu Gydol Oes (a gynhelir fel rheol ddiwedd Awst/dechrau Medi) a chyflwyno un adroddiad ar y cyd.

12. Mae’n ofynnol yn ffurfiol i’r Arholwyr Allanol Aber Ar-lein gyflwyno adroddiad blynyddol ar ôl Byrddau Arholi Semester 2 ac adroddiad ar elfen traethawd hir y cynllun gradd ar ôl y cyfarfod bwrdd traethodau hir

13. Os bydd Arholwyr Allanol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, yn methu bod yn bresennol mewn cyfarfod lle mae eu presenoldeb yn ddisgwyliedig yn ffurfiol, dylent fod ar gael i ymgynghori â Chadeirydd y Bwrdd trwy gyfrwng ffôn, rhwydwaith fideo neu ddull priodol arall ac anfon yr holl ddogfennau angenrheidiol ar gyfer trafodaethau’r cyfarfod.