5.8 Adroddiadau

1. Mae PA yn gofyn i Arholwyr Allanol gyflwyno adroddiadau ysgrifenedig yn flynyddol.  Gwahoddir sylwadau Arholwyr Allanol ar y broses arholi, yn cynnwys sylwadau ar strwythur a chynnwys y cynllun astudio a’r modd y caiff ei ddysgu.

(i) Disgwylir i Arholwyr Allanol cynlluniau israddedig gwblhau adroddiad blynyddol i’w anfon ymhen 4 wythnos ar ôl cyfarfod y Bwrdd Arholi terfynol ym Mehefin.

(ii) Disgwylir i Arholwyr Allanol cyrsiau uwchraddedig trwy gwrs gwblhau dau adroddiad; adroddiad blynyddol i’w anfon ymhen 4 wythnos ar ôl cyfarfod Bwrdd Arholi Semester 2 ym mis Mehefin, ac adroddiad byr i’w gyflwyno ar ddiwedd rhan traethawd hir y cynllun astudio (Tachwedd/Rhagfyr).

(iii) Mae’n bosibl y gofynnir i Arholwyr Allanol sy’n gyfrifol am ddarpariaeth gydweithredol gyflwyno adroddiad darpariaeth gydweithredol ar wahân yn ogystal â’r adroddiad blynyddol.

(iv) Os caiff Arholwr Allanol ei b/phenodi ar gyfer cynlluniau israddedig ac uwchraddedig, bydd y Brifysgol yn gofyn iddynt baratoi adroddiadau ar wahân ar ôl y Byrddau Arholi perthnasol. Ni all y Brifysgol dderbyn adroddiadau Israddedig ac Uwchraddedig a Addysgir ar y cyd.

(v) disgwylir i Arholwr Allanol ARCHE baratoi adroddiad ar ôl pob panel ARCHE. Dylid cyflwyno’r adroddiad trwy e-bost o fewn 4 wythnos i gyfarfod panel ARCHE.

(vi) Rhaid i Arholwr Allanol y TUAAU gyflwyno adroddiad blynyddol ar ôl prif Fwrdd Arholi'r TUAAU ym mis Chwefror, oni bai bod Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gofyn iddo wneud fel arall.

(vii) Rhaid i arholwyr Dysgu Gydol Oes gyflwyno adroddiad ar y cyd.

(viii) Rhaid i Arholwr Allanol y Senedd ysgrifennu adroddiad blynyddol a gyflwynir fel rheol drwy e-bost o fewn 4 wythnos i Fwrdd Arholi’r Senedd ym mis Mehefin.

2. Dylai’r adroddiad blynyddol gynnwys sylwadau llawn ac adeiladol a fydd o gymorth wrth gynnal a chyfoethogi’r ddarpariaeth. Os yw’r adran yn ystyried bod y cynnwys yn anghyflawn neu’n annigonol, gallant ofyn i’r Arholwr Allanol am sylwebaeth bellach. Noder bod gofyn i Arholwyr Allanol sy'n gyfrifol am ddarpariaeth gydweithredol yn y DU neu dramor gwblhau adroddiad ar ddarpariaeth gydweithredol ar wahân yn ogystal â'r adroddiad blynyddol safonol sy'n ymwneud â rhaglenni PA.

3. Dylid cwblhau Adroddiadau Blynyddol gan ddefnyddio'r ffurflen adrodd ar-lein, ac eithrio pan nad yw'r ffurflen ar-lein yn addas (e.e. Adolygydd Allanol y Senedd, ARCHE).Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn darparu'r dolenni i'r ffurflenni perthnasol, ynghyd â chwestiynau dangosol, trwy e-bost at bob Arholwr Allanol. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn rhannu’r adroddiadau a dderbyniwyd â'r adrannau perthnasol. Mae’r Brifysgol yn rhoi pwys sylweddol ar adroddiad yr Arholwr Allanol ac ni fydd y ffi a’r treuliau yn cael eu talu oni dderbynnir yr adroddiad. Os ceir achos o Arholwr yn gwrthod cyflwyno adroddiad, bydd gan y Dirprwy Is-Ganghellor (neu eu henwebai) y grym i gymryd camau priodol i’w sicrhau, a/neu gall ddewis anfon llythyr i ddod â’i gytundeb i ben o ganlyniad.

4. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn trefnu talu’r ffioedd a’r treuliau oni bai fod yr adroddiad heb gael ei gwblhau’n foddhaol; mewn achos o’r fath gwahoddir yr Arholwr Allanol i anfon fersiwn diwygiedig. Gofynnir i Adrannau ymateb yn uniongyrchol i’r Arholwyr ar ôl iddynt ystyried yr adroddiad a thrafod pryderon ynghylch trefniadau a phrosesau’r adran.

5. Cyhoeddir adroddiadau blynyddol, ac ymatebion adrannau, ar safle AberLearn Blackboard y Brifysgol a fydd ar gael i fyfyrwyr cofrestredig y Brifysgol. Mae’n bwysig felly na chyfeirir at ymgeiswyr unigol ac aelodau unigol o staff wrth eu henwau.

6. Bydd Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran yn sicrhau bod adrannau wedi ymateb yn briodol i bob Arholwr ac yn darparu trosolwg yn rhan o ymarfer adolygu blynyddol, gan nodi materion adrannol a chyfadrannol i'w hystyried gan y gyfadran a materion lefel prifysgol i'w hystyried gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn ysgrifennu at yr holl Arholwyr ar ddiwedd y cylch adrodd ac mae’n bosibl y byddant yn ymateb yn uniongyrchol i Arholwyr unigol am bryderon penodol y gallent fod wedi'u codi.

7. Bydd y Brifysgol yn rhoi sylw dyledus i’r pynciau a godwyd gan yr Arholwyr Allanol ac yn hysbysu’r Arholwyr o’r camau a gymerwyd wrth ymateb i’r sylwadau, neu’n egluro paham na weithredwyd yn ôl yr argymhellion. Efallai na fydd hi bob tro yn bosibl nac yn rhesymol i’r Brifysgol gyflawni’r hyn a argymhellir gan Arholwyr unigol oherwydd y bydd yn rhaid i sylwadau unigol gael eu hystyried ochr yn ochr â sylwadau’r holl Arholwyr eraill a dangosyddion perfformiad perthnasol eraill.

8. Gall Arholwr Allanol sy’n ystyried hynny’n angenrheidiol anfon adroddiad cyfrinachol, ar wahân at yr Is-Ganghellor yn uniongyrchol er mwyn tynnu sylw at faterion sy’n achosi cryn bryder. Os byddant wedi dilyn yr holl weithdrefnau mewnol a pharhau yn bryderus, dylai Arholwyr Allanol nodi bod modd iddynt gysylltu â’r ASA. Ceir rhagor o wybodaeth ar: https://www.qaa.ac.uk/cy/hafan

9. Cyhoeddir y broses a'r amserlen ar gyfer derbyn ac ymateb i adroddiadau Arholwr Allanol (israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs) yn Ffurflenni Templed Pennod 5.14.