13.5 Monitro Adolygiadau Terfynol

1. Mae’n bwysig monitro nifer, lefel ac ystod Adolygiadau Terfynol. Bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn monitro pob Adolygiad Terfynol ac yn adrodd yn flynyddol i’r Bwrdd Academaidd. Bydd manylion personol yn aros yn gyfrinachol. Cyfrifoldeb y Bwrdd Academaidd fydd monitro’r data a gwneud argymhellion priodol i gyrff neu staff perthnasol.

2. Cyfrifoldeb y Bwrdd Academaidd hefyd fydd adolygu’r Weithdrefn Adolygiad Terfynol a’i heffeithiolrwydd, ac argymell newidiadau, lle bo hynny’n briodol.

 

Pennod wedi'i hadolygu: Awst 2023