9.3 Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau

Cyflwyniad

1. Ac eithrio lle nodir hynny, mae’r cynllun hwn yn berthnasol i raglenni sy’n dechrau o Fedi 2013. Bydd myfyrwyr a gofrestrwyd ar raglenni cyn y dyddiad hwnnw yn cael eu rheoli gan y cynllun a oedd mewn grym ar adeg eu mynediad.

Diffiniad o Gredyd

2. Mae’r Brifysgol yn cadarnhau barn Llywodraeth Cymru, fel y’i cyflwynwyd yn ei Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (Fframwaith Cymru), y gellir diffinio credyd fel dyfarniad a roddir i ddysgwr i gydnabod llwyddiant mewn canlyniadau dysgu dynodedig ar lefel gredyd benodedig. Mae’r Brifysgol yn gweithredu hefyd o fewn i Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (Fframwaith yr ASA).

3. Mae swm y credyd a briodolir yn seiliedig ar amcangyfrif o’r amser dysgu a gymerai dysgwr cyffredin i gyflawni’r canlyniadau dysgu penodedig.

Pwysiad Credydau ac Oriau Tybiannol

4. Mae un credyd yn cyfateb i 10 awr dybiannol o ddysgu gan fyfyriwr, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol, ac asesu.

5. Ar y sail hon byddai myfyriwr israddedig amser-llawn yn casglu 120 o gredydau o fewn blwyddyn academaidd o 1,200 awr a byddai myfyriwr Meistr trwy Gwrs amser-llawn yn casglu 180 o gredydau mewn blwyddyn academaidd o 1,800 awr.

Credydau Cyffredinol a Phenodol

6. Credydau cyffredinol yw’r cyfanswm credydau sydd gan fyfyriwr yn sgil eu dysgu blaenorol. Yn nhermau trosglwyddo credydau, mae’r holl gredydau cyffredinol sydd gan fyfyriwr yn gymwys i’w hystyried. Credydau penodol yw’r gyfran o gyfanswm credydau’r myfyriwr sy’n cael ei derbyn fel un sy’n uniongyrchol berthnasol i’r cynllun astudio y mae’r myfyriwr yn cael ei (d)derbyn ar ei gyfer.

Lefel yr Uned Astudio Fodiwlar

7. Yn unol â Fframwaith Cymru, gellir diffinio lefelau credyd fel dangosyddion o’r baich a’r cymhlethdod cymharol, dyfnder cymharol y dysgu ac ymreolaeth gymharol dysgwr ar sail disgrifyddion lefel generig y cytunwyd arnynt. Nid yw lefelau yn hanfodol berthnasol i flynyddoedd astudio amser-llawn nac i’r addysg a gyflawnwyd yn flaenorol nac i/neu i brofiad y dysgwr. Mae lefelau credyd yn ymwneud â modiwlau yn hytrach na dyfarniadau cyflawn.

8. Mae lefelau, fel y diffiniwyd uchod, yn ddangosol ac o’r herwydd yn wahanol i ganlyniadau dysgu penodol a’r meini prawf asesu cysylltiedig, sy’n nodi’r safonau trothwy sy’n angenrheidiol i ddyfarnu credyd ar gyfer unrhyw fodiwl neu uned benodol.

Dangosyddion Lefel

9. Mae dangosyddion lefel y Brifysgol, a nodir isod, yn adlewyrchu Fframwaith Cymru a Fframwaith yr ASA:

Lefel

Gofynion

AU0/Lefel 3 Fframwaith Cymru

Defnyddio gwybodaeth a sgiliau o fewn ystod o weithgareddau cymhleth gan arddangos dealltwriaeth o ddamcaniaethau perthnasol; cyrchu a dadansoddi gwybodaeth yn annibynnol a gwneud penderfyniadau rhesymegol, gan ddethol o blith dewis sylweddol o weithdrefnau, mewn cyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, a chyfeirio’ch gweithgareddau eich hun, gyda pheth cyfrifoldeb dros gynnyrch pobl eraill.

[Modiwlau a astudir yn y flwyddyn ragarweiniol/sylfaen sy’n arwain at fynediad i gynllun gradd cychwynnol.]

AU1/Lefel 4 Fframwaith Cymru

Datblygu dull cadarn o gaffael sylfaen eang o wybodaeth; defnyddio ystod o sgiliau arbenigol; gwerthuso gwybodaeth a’i defnyddio i gynllunio a datblygu strategaethau ymchwiliol ac i benderfynu ar ddatrysiadau i amrywiaeth o broblemau anrhagweladwy; a gweithredu o fewn ystod o gyd-destunau amrywiol a phenodol, i sicrhau canlyniadau penodol.

[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod blwyddyn gyntaf cynllun gradd amser-llawn neu’r hyn sydd gyfwerth.]

AU2/Lefel 5 Fframwaith Cymru

Cynhyrchu syniadau drwy ddadansoddi cysyniadau ar lefel haniaethol, gyda meistrolaeth ar sgiliau arbenigol a chreu ymatebion i broblemau sydd wedi’u diffinio’n glir a phroblemau haniaethol; dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth; datblygu’r gallu i ddefnyddio crebwyll sylweddol ar draws ystod eang o weithgareddau; a derbyn cyfrifoldeb dros bennu canlyniadau personol a/neu ganlyniadau grŵp.

[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod ail flwyddyn cynllun gradd amser-llawn neu’r hyn sydd gyfwerth.]

AU3/Lefel 6 Fframwaith Cymru

Adolygu’n feirniadol, atgyfnerthu ac ymestyn corff systematig a chydlynol o wybodaeth, gan ddefnyddio sgiliau arbenigol ar draws maes astudio; gwerthuso’n feirniadol gysyniadau a thystiolaethau newydd o ystod o ffynonellau; trosglwyddo a defnyddio sgiliau diagnostig a chreadigol a defnyddio crebwyll sylweddol mewn ystod o sefyllfaoedd; a derbyn cyfrifoldeb dros bennu a chyflawni canlyniadau personol a/neu ganlyniadau grŵp.

[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod trydedd flwyddyn a/neu flwyddyn olaf cynllun gradd safonol amser-llawn neu’r hyn sydd gyfwerth.]

AUM/Lefel 7 Fframwaith Cymru

Arddangos meistrolaeth dros faes cymhleth ac arbenigol o wybodaeth a sgiliau; defnyddio sgiliau uwch i gynnal ymchwil, neu weithgaredd technegol neu broffesiynol uwch; derbyn atebolrwydd dros wneud penderfyniadau perthnasol gan gynnwys y defnydd o oruchwyliaeth a, dan amgylchiadau addas, cynghori eraill.

[Modiwlau a astudir fel arfer ym mlwyddyn olaf cynllun gradd Meistr integredig cychwynnol amser-llawn neu fel rhan o gynllun Meistr trwy Gwrs, gan gynnwys y traethawd estynedig neu’r hyn sydd gyfwerth.]

AUD/Lefel 8 Fframwaith Cymru

Gwneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol i faes ymchwil arbenigol gan arddangos meistrolaeth dros faterion methodolegol a chymryd rhan mewn deialog feirniadol â chymheiriaid; derbyn atebolrwydd llawn dros ganlyniadau.

[Mae hyn yn cynrychioli gwaith ymchwil ar lefel ddoethurol.]

Ceir tabl sy’n dangos y gydberthynas rhwng credydau’r Brifysgol a System Gasglu a Throsglwyddo Credydau Ewrop ym mharagraff 24 isod.

Fframwaith Dyfarniadau

10. Mae rheoliadau’r Brifysgol ar gyfer cynlluniau astudio modiwlar yn darparu ar gyfer dyfarnu’r cymwysterau a restrir isod trwy gasglu credydau. Gall cynlluniau astudio israddedig, graddedig ac uwchraddedig, gyda dilyniant cyfnodol o gymwysterau is i rai uwch, gael eu llunio ar y sail ganlynol:

(i) Lefel Israddedig

Tystysgrif Addysg Uwch
Diploma Addysg Uwch
Gradd Sylfaen
Gradd Gychwynnol

(ii) Lefel Raddedig

Tystysgrif i Raddedigion
Diploma i Raddedigion

(iii) Lefel Uwchraddedig

Tystysgrif i Uwchraddedigion
Diploma i Uwchraddedigion
Gradd Meistr Integredig
Gradd Meistr

11. Gall y credydau sy’n angenrheidiol ar gyfer dyfarnu’r cymwysterau hyn gael eu casglu drwy gwblhau’r cynlluniau astudio perthnasol yn foddhaol, neu ran ohonynt yn unol â’r hyn a bennir yn y Rheoliadau.

Dyfarniadau Gadael ac Ailfynediad

12. Gall myfyrwyr sy’n gadael cynllun astudio gyda neu heb gymhwyster ar adeg gadael, yn ôl disgresiwn y Brifysgol, gael caniatâd i ailymuno â’r cynllun yn y man addas, ar yr amod nad ydynt yn flaenorol wedi cynnig am a methu’r cymhwyster uwch ar ôl dihysbyddu pob hawl adfer ac yn amodol ar y terfynau amser ar gyfer cwblhau’r cynllun astudio.

Tystysgrif a Diploma

13. Gellir hefyd ddefnyddio’r Dystysgrif a’r Ddiploma, ar lefel israddedig ac uwchraddedig fel ei gilydd, fel amcanion cymwysterol eu hunain. Fel rheol, ni fyddai’r cymhwyster is (h.y. Tystysgrif neu Ddiploma) yn cael ei ddyfarnu’n awtomatig i fyfyrwyr sy’n cyflawni’r gofynion ar gyfer y cymhwyster hwnnw, pa un ai a ydynt yn symud ymlaen yn uniongyrchol i ran nesaf y cynllun ai peidio, h.y. fel ‘dyfarniad canolradd’, ond dim ond i’r myfyrwyr cymwysedig hynny sydd:

(i) yn gadael ran o’r ffordd drwy’r cynllun (dyfarniadau pwynt gadael)

neu

(ii) sydd wedi cwblhau’r cynllun ond wedi methu’r cymhwyster uwch (dyfarniadau canolradd).

14. Yn unol â Rheoliadau’r Brifysgol, mae’r Dystysgrif a’r Ddiploma i Uwchraddedigion yn gymwysterau gadael ar gyfer y sawl sy’n tynnu’n ôl o radd Meistr cyn y traethawd estynedig neu’r hyn a gymeradwywyd yn gyfwerth iddo, ond gellir eu dyfarnu’n ogystal ar ddiwedd y rhaglen i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus y nifer ofynnol o gredydau a nodwyd yn y confensiynau perthnasol.

Strwythur y Cynlluniau a Lefelau Credyd

15. Dangosir y gwerthoedd credyd isaf ac uchaf ar gyfer Cymwysterau Uwchraddedig, Graddedig ac Israddedig yn y tabl canlynol:

Cymhwyster

Isafswm y credydau a astudiwyd yn gyffredinol

Nifer y credydau ar y lefel uchaf

Uchafswm y credydau ar y lefel isaf

Uwchraddedig

Gradd Meistr

180 credyd

Lefel M

180 credyd ar Lefel M

Ni chaniateir dim

Gradd Meistr Integredig

480 credyd

Levelau (0),1,2,3 ac M

Isafswm o 120 credyd  ar Lefel M

Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0

Diploma i Uwchraddedigion

120 credyd

Lefelau M

120 credyd ar  Lefel M

Ni chaniateir dim

Tystysgrif i Uwchraddedigion

60 credyd

Lefelau M

Isafswm o 60 credyd ar Lefel M

Ni chaniateir dim

Graddedig

Diploma i Raddedigion

120 credyd

Lefelau (0,1,2),3
Isafswm o 90 credyd ar Lefel 3

Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0

Tystysgrif i Raddedigion

60 credyd

Lefelau (0,1,2,),3
Isafswm o 90 credyd ar Lefel 3

Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0

Israddedig

Gradd Anrhydedd

360 credyd

Lefelau (0),1,2,3
Isafswm o 120 credyd ar Lefel 3

Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0

Gradd Gyffredin

300 credyd

Lefelau (0),1,2,3
Isafswm o 60 credyd ar Lefel 3

Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0

Gradd Sylfaen

240 credyd

Lefelau (0),1,2
Isafswm o 100 credyd ar Lefel 2

Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0

Diploma AU

240 credyd

Lefelau (0),1,2
Isafswm o 100 credyd ar Lefel 2

Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0

Tystysgrif AU

120 credyd

Lefelau (0),1
Isafswm o 100 credyd ar Lefel 1

Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0

Asesu

16. Bydd y cymwysterau yn cael eu hasesu a’u dyfarnu yn unol â’r darpariaethau yn:

(i) y rheoliadau PA perthnasol

(ii) confensiynau PA; a’r

(iii) rheoliadau ar gyfer y cynllun astudio penodol.

Dosbarthiadau Graddau Israddedig

17. Er mwyn sicrhau cymaroldeb o ran mesur llwyddiant cymharol myfyrwyr wrth gyflawni eu credydau ac i hwyluso achredu dysgu blaenorol oddi mewn ac oddi allan i’r Brifysgol, defnyddir y tabl canlynol fel graddfa drosi gyffredinol ar gyfer dyfarniadau israddedig:

Canran

Canlyniad Gradd

70 ac uwch

Anrhydedd Dosbarth Cyntaf

60 - 69

Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch

50 - 59

Anrhydedd Ail Ddosbarth Is

40 - 49

Anrhydedd Trydydd Dosbarth

35 - 39

Gradd Pasio

34 ac is

Methu

Graddau Uwchraddedig

18. Defnyddir y term ‘Rhagoriaeth’ i ddynodi perfformiad ardderchog gan ymgeiswyr ar gyfer graddau Meistr trwy gwrs ac fe’i gosodir ar 70% ar Lefel M neu’n uwch. Er mwyn ennill Gradd Meistr gyda Rhagoriaeth bydd angen i ymgeiswyr sicrhau marc cyfartalog wedi’i dalgrynnu o 70% neu’n uwch. Defnyddir y term ‘Teilyngdod’ i ddynodi perfformiad sy’n deilwng o’i gydnabod lle ceir marc cyfartalog wedi’i dalgrynnu rhwng 60% a 69%.

19. Mae’r termau ‘Rhagoriaeth’ a ‘Teilyngdod’ hefyd yn berthnasol ar gyfer tystysgrifau a diplomâu uwchraddedig sy’n cyrraedd 70% neu’n uwch, neu 60% i 69%, ar ôl cofrestru ar gyfer y dyfarniadau hyn fel cymwysterau annibynnol neu wrth adael gradd Meistr heb gwblhau’r traethawd estynedig. Os bydd ymgeisydd yn cwblhau’r radd Meistr, ond yn ei methu, lefel Pasio yn unig y gellir ei dyfarnu ar gyfer y Dystysgrif neu’r Ddiploma.

Amodau Achredu

20. Mae’r rheolau isod yn berthnasol wrth asesu dysgu blaenorol ar gyfer credyd:

(i) gellir asesu credydau ar sail dysgu blaenorol, dysgu blaenorol trwy brofiad a dysgu ar sail gwaith

(ii) dim ond y modiwlau rheiny sydd wedi eu pasio (neu rai sy’n cael eu cydnabod gan RPEL) all gael eu derbyn ar gyfer trosglwyddo credydau

(iii) caiff y lefel y derbynnir y credydau arni ei phenderfynu cyn derbyn i’r Brifysgol

(iv) gellir derbyn lefel perfformiad y myfyriwr (yn nhermau gradd/marciau) yn y credydau a drosglwyddwyd i mewn a, lle bo’n briodol, gall gyfrif fel cyfraniad tuag at y dyfarniad

(v) mae’r cwestiwn pa un ai a yw’r credydau a gasglwyd ar gyfer dysgu blaenorol yn parhau yn ddilys mewn perthynas â’r cynllun astudio y caiff y myfyriwr ei (d)derbyn ar ei gyfer ai peidio yn fater i’w benderfynu cyn derbyn i’r Brifysgol, yn amodol ar y terfynau amser cyffredinol ar gyfer cwblhau cynlluniau astudio

(vi) ni all ymgeiswyr sydd â gradd gychwynnol ac sy’n dychwelyd i astudio pwnc cytras gyfrif y credydau sydd ganddynt eisoes (ar Lefelau 1 a 2) am yr eilwaith tuag at radd gychwynnol ddilynol. Mewn achosion o’r fath, caiff ymgeiswyr sy’n dychwelyd astudio ar Lefel 3 eu dyfarnu â Thystysgrif i Raddedigion neu Ddiploma i Raddedigion, fel y bo’n addas.

Terfynau Trosglwyddo

21. Yn unol â Rheoliadau PA, dangosir y terfynau trosglwyddo credydau yn y tabl isod:

Cymhwyster

Terfyn Trosglwyddo Credydau

Uwchraddedig

 

Gradd Meistr

120 credyd

Gradd Meistr Integredig

320 credyd

Diploma i Uwchraddedigion

60 credyd

Tystysgrif i Uwchraddedigion

30 credyd

Graddedig

 

Diploma i Raddedigion

60 credyd

Tystysgrif i Raddedigion

30 credyd

Israddedig

 

Gradd Anrhydedd

240 credyd*

Cynlluniau Nyrsio Cyn-Gofrestru

Caniateir uchafswm o 50% fel Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (Trwy Brofiad) (RP(E)L)

Gradd Sylfaen

120 credyd

Diploma AU

160 credyd

Tystysgrif AU

80 credyd

* Lle bo uchafswm y credyd y gellir ei drosglwyddo wedi ei dderbyn, dylai’r credydau sy’n weddill ac sydd i’w hastudio fel arfer fod ar Lefel 6 neu’n uwch.

Derbyn

22. Dylai mynediad gyda chredyd academaidd fod yn amodol ar yr un egwyddorion â mynediad ar gyfer dechrau cynllun astudio, a chaiff ei reoli gan ofynion derbyn cynlluniau’r Brifysgol, fel y bo’n addas.

23. Lle bo ymgeiswyr gyda chymhwyster arbennig i’w derbyn yn rheolaidd gyda chyfanswm safonol o gredydau, dylai’r fath drefniadau gael eu ffurfioli yn y rheoliadau ar gyfer y cynllun dan sylw.

Casglu a Throsglwyddo Credydau PA ac Ewrop

24. Mae’r tabl isod yn dangos y gydberthynas rhwng credydau PA a chredydau System Gasglu a Throsglwyddo Credydau Ewrop (ECTS):

Cymhwyster

Credydau PA

Credydau ECTS

Uwchraddedig

Gradd Meistr

180 credyd

90 credyd

Gradd Meistr Integredig

480 credyd

240 credyd

Diploma i Uwchraddedigion

120 credyd

60 credyd

Tystysgrif i Uwchraddedigion

60 credyd

30 credyd

Graddedig

Diploma i Raddedigion

120 credyd

60 credyd

Tystysgrif i Raddedigion

60 credyd

30 credyd

Israddedig

Gradd Anrhydedd

360 credyd

180 credyd

Gradd Gyffredin

300 credyd

150 credyd

Gradd Sylfaen

240 credyd

120 credyd

Diploma AU

240 credyd

120 credyd

Tystysgrif AU

120 credyd

60 credyd

Tystysgrif Sylfaen

120 credyd

60 credyd

Fframwaith Cymru a’r Lefelau AB ac AU

25. Mae’r tabl isod yn dangos y gydberthynas rhwng lefelau credyd argymelledig Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (Fframwaith Cymru) a’r lefelau AB ac AU a ddefnyddir yn gyffredin:

Lefelau Credyd Fframwaith Cymru

Lefelau AB/AU

Lefelau Cymhwyster

Lefel 8
Lefel 7

Lefel M

Lefel Doethur
Lefel Meistr
Lefel 6
Lefel 5
Lefel 4
Lefel AU 3
Lefel AU 2
Lefel AU 1
Lefel Anrhydedd
Lefel Ganolradd
Lefel Tystysgrif
Lefel 3
Lefel 2
Lefel 1
Lefel AB 3
Lefel AB 2
Lefel AB 1
Lefel 3 Uwch
Lefel 2 Canolradd
Lefel 1 Sylfaen

Diweddarwyd: Medi 2021