9.6 Cynlluniau iaith pedair blynedd gyda blwyddyn dramor

1. Mae’r adran hon yn darparu fframwaith ar gyfer cynlluniau iaith pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn lle mae’r myfyriwr yn treulio cyfnod i ffwrdd o Aberystwyth er mwyn ennill medr a phrofiad ieithyddol. Nid yw’r adran yn ymdrin â rhaglenni cyfnewid fel rhan o gynlluniau tair blynedd, na threfniadau eraill ar gyfer astudio dramor.

2. Bydd y Flwyddyn Dramor yn cynnwys cyfnod yn gweithio neu’n astudio dramor. Pennir pwysedd rhaeadr farciau o 0.25 ar gyfer y Flwyddyn Dramor ac fe’i hystyrir wrth bennu dosbarth terfynol y radd yn unol â’r Confensiynau Arholiadau.

3. Mae’r Flwyddyn Dramor yn rhan annatod a gorfodol o bob cynllun iaith pedair blynedd. Caniateir eithriadau ar sail astudiaethau blaenorol neu brofiad mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, pan fydd argymhelliad wedi ei gyflwyno a’i gymeradwyo gan y Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran, Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

4. Ni chaniateir i fyfyrwyr ar gynlluniau iaith pedair blynedd fynd ar leoliadau cyfnewid yn ystod y flwyddyn sy’n rhagflaenu’r Flwyddyn Dramor. Bydd hyn yn sicrhau nad ydynt yn treulio mwy na blwyddyn i ffwrdd o Aberystwyth, a’u bod yn cael paratoad priodol ar gyfer y Flwyddyn Dramor.

5. Nid oes amod bod myfyrwyr yn llwyddo i basio isafswm gredydau ar ddiwedd y Flwyddyn Dramor.

6. Pan fydd myfyrwyr yn methu symud ymlaen ar ddiwedd Blwyddyn 2 (neu’r flwyddyn gyfatebol cyn y Flwyddyn Dramor), bydd yn rhaid iddynt gwblhau a llwyddo yn asesiadau ailsefyll mis Awst neu ailwneud y flwyddyn cyn dechrau’r Flwyddyn Dramor.

7. Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau isafswm o 30 wythnos dramor mewn gwaith cyflogedig neu wirfoddol, neu’n astudio. Mewn rhai achosion bydd myfyrwyr yn cwblhau cyfuniad o waith cyflogedig ac astudiaethau academaidd. Mewn achosion eithriadol gall Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran neu ddirprwy gymeradwyo cyfnodau byrrach. Mae’n rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â gofynion eu hadran academaidd wrth gadw mewn cysylltiad  â’u tiwtoriaid yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n bosibl hefyd y bydd gofynion ychwanegol yn achos cynlluniau sy’n cael eu hachredu gan Gyrff Proffesiynol, Statutol a Rheolaethol. Gall myfyrwyr sy’n methu gwneud cynnydd academaidd boddhaol  yn ystod y Flwyddyn Ryng-gwrs wynebu cael eu cyfeirio at Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran neu’r sawl a enwebwyd yn unol â’r Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd.

8. Bydd y Flwyddyn Dramor yn cynnwys 120 credyd. Gall asesiadau gynnwys llyfr log neu ddyddiadur, adroddiadau dros dro, ac adroddiad myfyriol ar y diwedd. I fyfyrwyr newydd sy’n dechrau o fis Medi 2018, bydd marciau’r Flwyddyn Dramor yn seiliedig ar asesiadau a osodwyd ac a aseswyd yn Aberystwyth. Gellir derbyn credydau a gwblawyd yn hytrach na thystiolaeth o waith cyflogedig neu wirfoddol, ond ni fyddant yn cyfrannu tuag at farc terfynol y Flwyddyn Dramor.

9. Bydd marc modiwl terfynol y Flwyddyn Dramor yn cael ei gadarnahu yn ystod y flwyddyn olaf, a hynny yng nghyfarfod Semester Un o Fwrdd Arholiadau’r Senedd.

10. Gellir ystyried Amgylchiadau Arbennig mewn achos o afiechyd neu amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr. Dylid eu hadrodd i’r adran cyn gynted â phosibl trwy gyflwyno ffurflen Amgylchiadau Arbennig ynghyd â thystiolaeth berthnasol, i’w hystyried gan y byrddau arholi. Os nad oes modd i fyfyrwyr barhau gyda’r Flwyddyn Dramor, dylent dynnu’n ôl o’u hastudiaethau am gyfnod dros dro.