11.3 Strwythur Mewnol

1. Mae’r Bwrdd Recriwtio a Marchnata, sy’n adrodd i’r Senedd, yn gyfrifol am oruchwylio a monitro datblygiad a gweithrediad strategaethau recriwtio a marchnata’r Brifysgol sy’n hybu’r gwaith o recriwtio myfyrwyr i’r Brifysgol. Mae’r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y Brifysgol yn bodloni disgwyliadau’r Adran Derbyn Myfyrwyr, Recriwtio ac Ehangu Mynediad yng Nghod Ansawdd y DU.