11.11 Dedfrydau Troseddol

1. Mae’r Brifysgol yn ceisio darparu cyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr a all elwa ar gynllun gradd neu gynllun arall, a’i gwblhau’n llwyddiannus, waeth beth fo’u cefndir. Mae’r Brifysgol hefyd yn cydnabod bod ganddi ddyletswydd i ofalu am ei myfyrwyr, ei staff a’i hymwelwyr.

2. Cyfrifoldeb myfyrwyr unigol yw datgan unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol a allai effeithio ar eu hastudiaethau eu hunain a/neu beri risg i ddiogelwch staff a myfyrwyr y Brifysgol. Mae gan fyfyrwyr gyfrifoldeb i ddatgelu unrhyw resymau cyfreithiol a allai gyfyngu ar, neu’u hatal rhag cael mynediad i eiddo’r brifysgol, a/neu weithio ag unigolion, a/neu weithio â grwpiau, a/neu gael mynediad i’r rhyngrwyd drwy systemau ac adnoddau’r Brifysgol. Cysylltwch â’r Gofrestrfa Academaidd i gael rhagor o wybodaeth drwy’r cyfeiriad e-bost cyfrinachol: arconf@aber.ac.uk. Gall peidio â datgan yr wybodaeth hon i’r Brifysgol gael ei ystyried fel torri Gweithdrefnau Disgyblaethol y Brifysgol a gellir pennu cosbau yn unol â hynny.

3. Os datgelir dedfryd troseddol perthnasol, cynhelir asesiad risg i benderfynu a yw'n briodol bwrw ymlaen â'r broses dderbyn ai peidio. Bydd pob ymgeisydd ar gyfer cyrsiau TAR yn destun gwiriad DBS (neu gymhwyster cyfatebol rhyngwladol) yn rhan o'r broses dderbyn arferol. Gweinyddir hyn gan yr Ysgol Addysg.

4. Ceir hyd i Bolisi a Gweithdrefn y Brifysgol ar gyfer Derbyn Myfyrwyr gyda Dedfrydau Troseddol yn llawn yn Atodiad 3.