11.12 Gwneud Cynnig

1. Bydd y penderfyniad i wneud cynnig/cynigion ar gyfer unrhyw gwrs yn dibynnu ar y meini prawf derbyn a ddiffinnir ar gyfer y cwrs/cyrsiau yr ymgeisiwyd amdano/amdanynt.

2. Mae’r Swyddfa Derbyn Graddedigion yn ceisio prosesu’r ceisiadau fel a ganlyn*:

  • ceisiadau uwchraddedig safonol a addysgir o fewn pythefnos waith i dderbyn y cais cyfan a chyflawn
  • gall ceisiadau uwchraddedig ymchwil ac ansafonol sydd angen cael eu hanfon at yr adrannau academaidd gymryd mwy o amser i’w prosesu
  • pan fo angen cronfa o ymgeiswyr cymwys ar gyfer ysgoloriaeth prosiect neu gystadleuaeth ysgoloriaeth, efallai yr effeithir ar yr amseroedd prosesu hefyd
  • gall prosesu ceisiadau Rhyngwladol sy'n anghyflawn neu sydd â thystiolaeth ar goll gymryd mwy o amser na’r amser prosesu arferol
  • mae'n ofynnol gwneud penderfyniadau ar geisiadau TAR o fewn 40 diwrnod gwaith. Rhaid i ymgeiswyr ar y rhestr fer fynychu cyfweliad yn rhan o'r broses ddethol sydd wedi'i chynnwys o fewn y cyfnod hwn o 40 diwrnod gwaith.

* yn amodol ar nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ar anterth yr amseroedd prosesu.

3. Bydd yr holl benderfyniadau ar gyfer ymgeiswyr uwchraddedig yn cael eu prosesu gan y Swyddfa Derbyn Graddedigion. Rhoddir gwybod i’r ymgeiswyr yn ysgrifenedig drwy atodiad e-bost. Yn ogystal, bydd ymgeiswyr TAR yn gallu gweld canlyniad eu cais drwy wefan UCAS.

4. Bydd ymgeiswyr sy'n cael cynnig lle i astudio yn cael llythyr cynnig a fydd yn amlinellu unrhyw amodau academaidd sy'n ofynnol ar gyfer derbyn yr ymgeiswyr (gan gynnwys gofynion iaith Saesneg), unrhyw ddogfennau sydd angen eu cyflwyno, ynghyd â'r camau sydd eu hangen er mwyn cwblhau'r broses dderbyn.