11.15 Cyrsiau drwy Bartneriaeth

1. Mae’r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o ddarparwyr addysg uwch allanol i gynnig cyrsiau uwchraddedig a rhaglenni ar y cyd drwy fasnachfraint.

2. Proses yw masnachfraint lle mae’r Brifysgol yn cytuno i roi awdurdod i ddarparwr allanol ddarparu (ac weithiau i asesu) rhan neu’r cyfan o un (neu ragor) o’i rhaglenni cymeradwy ei hun.

3. Mae gradd ar y cyd yn seiliedig ar bartneriaeth ffurfiol lle mae dau neu fwy o gyrff dyfarnu graddau yn darparu rhaglen astudio ar y cyd sy’n arwain at ddyfarnu dwy radd gyda dwy dystysgrif.

4. Fel arfer, bydd ceisiadau am raglenni drwy fasnachfraint a graddau ar y cyd yn cael eu prosesu’n unol ag Adran 11.5.

5. Dylid cyfeirio ymholiadau sy’n ymwneud â threfniadau masnachfraint cyfredol neu raddau ar y cyd y Brifysgol at collaboration@aber.ac.uk