7. Canllawiau i Fyfyrwyr ar Ddefnyddio Safleoedd Rhwydweithio Cymdeithasol

7.1 Cyflwyniad

7.1.1 Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod llawer o fyfyrwyr yn defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, fel Facebook a Twitter, ac mae’n deall bod defnyddio’r cyfryngau hyn yn gallu cyfoethogi bywyd myfyriwr ac annog cyfranogiad mewn rhwydweithiau cymdeithasol a phroffesiynol. Gellir defnyddio technoleg debyg i gefnogi addysgu a dysgu.

7.1.2 Fodd bynnag ceir rhai peryglon yn gysylltiedig â rhwydweithio cymdeithasol y dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol ohonynt. Yn benodol mae angen deall bod rhai gweithgareddau’n gallu golygu bod myfyrwyr yn gwrthdaro â rheoliadau’r Brifysgol. Mae’r materion a drafodir yma yn ymrannu'n dri chategori:

(i) diogelwch y rhyngrwyd

(ii) rhyngweithio cyffredinol

(iii) materion yn ymwneud ag enw da.

7.1.3 Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig, uwchraddedig ac eraill sy’n astudio yn y sefydliad ar sail amser llawn neu ran amser. Mae hefyd yn cynnwys myfyrwyr sy’n dod ar gyrsiau byr ac Ysgolion Haf.

7.1.4 Efallai y bydd yn rhaid i’r Brifysgol ymyrryd a chymryd camau dilynol mewn achosion lle mae myfyriwr wedi ymddwyn yn amhriodol at fyfyriwr arall, aelod o staff neu at unigolyn nad oes ganddo gyswllt â’r Brifysgol, yn enwedig mewn achosion lle mae’r myfyriwr yn camddefnyddio cyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol i’r perwyl hwn.

7.1.5 Dylid nodi hefyd y gellid dehongli bod camddefnydd eithafol o wefannau rhwydweithio cymdeithasol yn weithred droseddol a byddai canlyniad gweithgaredd o’r fath yn cynnwys cysylltu â’r heddlu neu awdurdodau eraill.

7.2 Diogelwch y rhyngrwyd

7.2.1 Mae’n bosibl defnyddio rhwydweithio cymdeithasol ac offerynnau cyffelyb yn ddiogel, ond mae hyn yn golygu bod rhaid cael ymwybyddiaeth o’r math o beryglon sy’n bodoli mewn amgylchedd ar-lein. Mae’n bosibl bod yn gwbl ddiogel cyhyd â bod unigolion yn parchu nifer o egwyddorion sylfaenol.

7.2.2 Yn bennaf oll, rhaid i unigolion warchod eu hunaniaeth a gwybodaeth y byddent yn ei hystyried yn bersonol. Gall pobl ddiegwyddor ddefnyddio nifer fawr o ddulliau i geisio caffael hunaniaeth rhywun a defnyddio’r data hwn i gyflawni gweithredoedd sy’n peri embaras, sy’n niweidiol ac o bosibl yn anghyfreithlon. Gallai hyn gynnwys:

(i) defnyddio cyfrif Facebook i sarhau rhywun yn ddienw

(ii) defnyddio gwybodaeth y cyfrif i lawrlwytho cynnwys anghyfreithlon neu amhriodol o’r rhyngrwyd

(iii) gweithgareddau anghyfreithlon, twyllodrus megis esgus bod yn rhywun arall er mwyn cael gwybodaeth bersonol bwysig gan deulu neu ffrindiau

(iv) cael arian yn anghyfreithlon o gyfrif banc neu Paypal yr unigolyn.

7.2.3  Felly dylai myfyrwyr ddilyn y canllawiau hyn:

(i) Peidio byth â datgelu eu henw defnyddiwr na’u cyfrinair i neb

(ii) Peidio byth â rhannu llyfr cyfeiriadau neu fanylion cyswllt â neb ar-lein

(iii) Meddwl yn ofalus cyn datgelu eu cyfeiriad ebost Prifysgol neu bersonol ar-lein

(iv) Gofalu bob amser i gadw gwybodaeth mewngofnodi a chysylltiadau’n breifat wrth eu defnyddio mewn gofod cyhoeddus neu ar gyfrifiadur a ddefnyddir gan bobl eraill

(v) Peidio byth ag ymateb i negeseuon ebost neu negeseuon gan unigolion anhysbys a pheidio byth â datgelu gwybodaeth mewngofnodi mewn ebost, waeth pwy sy’n holi ac am ba reswm

(vi) Peidio byth â derbyn gwahoddiadau i ddefnyddio unrhyw safle neu wasanaeth ar-lein gan ddefnyddio manylion sydd wedi’u creu at ddiben arall.

7.2.4 Yn ogystal â hyn mae’n bwysig gwarchod mathau eraill o wybodaeth bersonol. Dylai myfyrwyr fod yn ofalus iawn wrth roi ffotograffau, clipiau fideo neu destun ar safleoedd a fyddai’n caniatáu iddyn nhw gael eu hadnabod neu gysylltu â nhw yn y gymdeithas ehangach. Hyd yn oed os oes angen defnyddio safle i hyrwyddo band, cymdeithas neu fenter arall, mae’n saffach i beidio â datgelu cyfeiriadau cartref neu gyfeiriadau cyd-fyfyrwyr a ffrindiau. Mae hefyd yn synhwyrol i ymatal rhag hysbysebu dulliau eraill o gysylltu fel rhifau ffôn symudol.

7.3 Rhyngweithio cyffredinol

7.3.1 Dylai myfyrwyr fod yn gwbl ymwybodol o’r ffordd y maen nhw’n rhyngweithio â defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol a safleoedd rhwydweithio eraill. Dylid cofio bod angen sicrhau parch a chwrteisi. Gall defnyddio iaith ddifrïol neu sarhaus arwain yn hawdd at gyhuddiadau o fwlio ac aflonyddu, os oedd hynny’n fwriadol ai peidio. Yr effaith ar y sawl sy’n ei dderbyn sy’n bwysig, nid bwriad yr anfonwr.

7.3.2 Mae bwlio’n cynnwys unrhyw ymddygiad sydd wedi’i fwriadu i sarhau, dieithrio neu frawychu unigolyn arall a bydd cyhuddiadau o fwlio’n cael eu hymchwilio bob amser a gallent arwain at gamau disgyblu.

7.3.3 Ystyrir mai aflonyddu yw ymddygiad dieisiau a pharhaus sydd wedi’i fwriadu, neu sydd â’r effaith naill ai o darfu ar urddas unigolyn neu o greu amgylchedd bygythiol neu elyniaethus i unigolyn. Mewn perthynas â hyn, a chategorïau eraill o gamwahaniaethu, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cydnabod 9 nodwedd a warchodir: oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; priodas/partneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw (rhywedd); tueddfryd rhywiol. Yn yr un modd, bydd camau o’r fath yn cael eu hymchwilio a gallent arwain at gamau disgyblu.

7.3.4 Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol fod bwlio neu aflonyddu yn gallu codi nid yn unig o bostio iaith ymosodol ond hefyd drwy ddefnyddio delweddau neu amlgyfryngau.

7.3.5 Dylai myfyrwyr hefyd nodi’r pwyntiau ehangach canlynol:

7.3.5.1 Diolch i’r cyfle i gael aros yn ddi-enw, gall y rhyngrwyd arwain at safonau ymddygiad sy’n aml yn is na’r hyn a ddisgwylir mewn amgylchedd academaidd. Nid yw’n anarferol i ddod ar draws iaith sy’n ddiystyriol ac ambell waith sy’n hynod o ymosodol ar y rhyngrwyd neu iaith o natur hynod bersonol neu sy’n deillio o stereoteipiau homoffobig, rhywiaethol neu hiliol. Mae defnydd sy’n fwriadol bryfoclyd, esgeulus a hyd yn oed achlysurol o’r math hwn o iaith yn debygol o dramgwyddo ac nid oes lle i hyn mewn unrhyw weithgaredd yn ymwneud â chyrsiau addysgol nac mewn amgylchiadau a allai achosi i fyfyriwr gael ei gysylltu â’r Brifysgol. Caiff unrhyw wyro o’r egwyddor hwn ei drin fel ymddygiad sy’n niweidiol i lesiant myfyrwyr eraill a staff.

7.3.5.2 Yn ogystal â hyn, mae technolegau modern yn caniatáu i bobl gynhyrchu ffotograffau, recordiadau sain a chlipiau fideo y gellir eu rhoi ar y rhyngrwyd yn hawdd iawn. Mae hyn yn caniatáu i wybodaeth gael ei gwneud yn gyhoeddus, a gall yr unigolyn a’i creodd golli rheolaeth ar eu dosbarthiad yn gyflym iawn. Mewn achosion lle mae’r recordiadau hyn yn dal unigolion mewn sefyllfaoedd amharchus neu a allai beri embaras, neu mewn achosion lle caiff recordiad ei ddefnyddio sy’n gwneud yr unigolyn yn destun hwyl, dirmyg neu gywilydd, gellid dal yr awdur yn gyfrifol am fwlio.

7.4 Materion yn ymwneud ag Enw Da

7.4.1 Yn ogystal â bwlio mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ystyried eu hunaniaeth ar-lein yn ofalus ynghyd â’r effaith y gallai hyn ei gael ar eu delwedd bersonol a phroffesiynol. Un rhyddid mawr a ddaw yn sgil y rhyngrwyd yw’r gallu i ‘ail-greu’r hunan’ ac archwilio gwahanol agweddau o’ch cymeriad wrth greu hunaniaeth ar-lein. Ond, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o ganlyniadau unrhyw benderfyniadau annoeth yn hyn o beth. Gallai hyd yn oed rhywbeth mor syml â ‘hoffi’ tudalen benodol ar Facebook gael effaith anrhagweladwy ar enw da.

7.4.2 Erbyn hyn mae’n gyffredin i ddarpar gyflogwyr chwilio drwy safleoedd rhwydweithio cymdeithasol am dystiolaeth o gymeriad neu gymhwysedd ymgeisydd am swydd a gallai darpar gleientiaid weld yr un wybodaeth. Mae’n bosibl hefyd y gall cydweithwyr neu gleientiaid weld yr wybodaeth hon a ffurfio barn negyddol neu anffafriol am rywun o ganlyniad.

7.4.3 Dylai myfyrwyr sy’n dymuno mynd i’r proffesiynau cyfreithiol neu addysg neu i swyddi eraill sydd â chyfrifoldebau sylweddol fod yn arbennig o sensitif i’r modd y cânt eu portreadu ar y rhyngrwyd.

7.4.4 Rhaid i’r myfyrwyr hynny sy’n ymgymryd â lleoliadau gwaith yn rhan o’u gradd, neu sy’n cysylltu ag unigolion o sefydliadau allanol yn ystod eu hastudiaethau, fod yn arbennig o ymwybodol o beryglon eu trafod mewn unrhyw fodd a allai beri iddynt gael eu hadnabod neu a allai beri embaras neu ofid iddynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â hyfforddiant athrawon ac mae hefyd yn hanfodol nad yw ffotograffau o blant yn cael eu rhoi ar y rhyngrwyd heb ganiatâd penodol athrawon a rhieni.

7.5 Gosodiadau preifatrwydd, telerau ac amodau a materion rheoleiddiol eraill

7.5.1 Mae llawer o gyfleusterau rhwydweithio cymdeithasol neu gyfryngau ar-lein yn caniatáu i ddefnyddwyr osod lefelau preifatrwydd. Mae’n bwysig i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r ffordd y mae’r rhain yn gweithio a chydnabod pwysigrwydd rhoi’r gosodiadau priodol ar waith. Fodd bynnag, nid yw defnyddio’r gosodiadau hyn yn gwarantu na chaiff cyfrif ei ‘hacio’ neu na fydd ffrind yn copïo deunydd sydd wedi’i uwchlwytho a’i bostio mewn fforwm mwy cyhoeddus.

7.5.2 Dylai myfyrwyr sicrhau eu bod yn gwybod pwy yw’r bobl y maent yn eu hychwanegu at eu rhwydweithiau fel ffrindiau, gan gofio y gall unrhyw un chwilio am enwau ar Facebook a safleoedd tebyg a gweld lluniau proffil. Mae hefyd yn bosibl i bobl ‘bysgota’ llawer o safleoedd am enwau a manylion personol eraill.

7.5.3 Os yw myfyrwyr mewn sefyllfa o ymddiriedaeth neu gyfrifoldeb dylent gymryd gofal arbennig i beidio â thorri’r ymddiriedaeth honno trwy osod unrhyw wybodaeth ar-lein a allai fod yn gyfrinachol neu a allai gyfaddawdu eu sefyllfa. Mae hyn yn arbennig o bwysig i unrhyw un sy’n gweithredu yn fentor neu gynghorwr.

7.5.4 Yn yr un modd, dylai myfyrwyr hefyd ystyried doethineb derbyn gwahoddiadau i ymuno â rhwydweithiau unigolion eraill, yn enwedig os yw’r rhain yn blant neu’n unigolion y mae ganddyn nhw ddyletswydd gofal neu gyfrinachedd drostynt. Gall hyn hefyd fod â chanlyniadau na ellir eu rhagweld a gallai gyfaddawdu cysylltiadau proffesiynol gyda’r unigolyn hwnnw neu achosi i eraill amau doethineb a hyd yn oed gymhellion.

7.5.5 Os yw myfyrwyr yn gweithio mewn, neu gyda, chyrff allanol megis ysgolion neu gwmnïau dylent ymgyfarwyddo a pharchu unrhyw reoliadau sydd gan y sefydliad hwnnw o ran rheoli’r defnydd o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.

7.5.6 Mae’n bwysig hefyd fod myfyrwyr yn gyfarwydd â thelerau ac amodau’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol eu hunain ac unrhyw ddiweddariad neu addasiad i’r telerau ac amodau hynny. Dylent nodi’n benodol unrhyw drydydd partïon sy’n derbyn eu data personol (h.y. unrhyw un y gallai’r wefan basio eu manylion personol atyn nhw) a manylion am berchnogaeth unrhyw ddeunydd a gaiff ei bostio ar y wefan (e.e. pwy sy’n berchen ar y geiriau, seiniau, ffotograffau a delweddau eraill unwaith iddyn nhw gael eu postio).

7.5.7 Dylid bod yn ofalus wrth ailddefnyddio unrhyw sylwadau neu ddelweddau a gaiff eu postio ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Dylai myfyrwyr barchu hawliau perchnogaeth deiliaid hawlfraint a dylent geisio caniatâd priodol i gopïo ac ailddefnyddio deunydd.

7.5.8 Ni ddylai myfyrwyr fyth geisio ffugio mai eu gwaith nhw yw gwaith rhywun arall, boed hynny o fewn neu y tu allan i leoliad addysgol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw beth, o fân sylwadau i weithiau celfyddydol. Mae unrhyw ymgais i ffugio mai eu gwaith hwy yw gwaith rhywun arall mewn cyd-destun academaidd yn debygol o arwain at gamau disgyblu.

7.5.9 Yn ogystal â chymalau 17.5.7 a 17.5.8, dylai myfyrwyr gyfeirio at Bolisi Llên-ladrad ac Ymddygiad Academaidd Annerbyniol y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/#rheoliadau-academaidd