4. Cosbau
4.1 Am dorri un o Reolau’r Brifysgol (ac eithrio 2.17 a 2.18), gall y gosb fod yn gerydd, dirwy (heb fod dros £200), atal yr hawl i ddefnyddio cyfleusterau’r Brifysgol, troi allan o Lety’r Brifysgol, gwaharddiad rhag defnyddio cyfleusterau Undeb y Myfyrwyr neu unrhyw fudiad arall ymhlith y myfyrwyr, neu wahardd y troseddwr am gyfnod heb fod yn fwy nag un sesiwn, neu ei ddiarddel o’r Brifysgol yn gyfan gwbl.
4.2 Pan dorrir rheolau ar ‘Hepgor neu Gamliwio Gwybodaeth o Bwys wrth Wneud Cais neu ar ôl Cofrestru’ gweithredir yn ôl y drefn a geir ym mhwynt 26.2 yn y ddogfen ‘Gwybodaeth i Fyfyrwyr’.
4.3 Y mae’r drefn i’w mabwysiadu mewn achos lle caiff rheolau ar ‘Ddedfrydau Troseddol’ eu torri wedi ei nodi ym mhwynt 28 yn y ddogfen ‘Gwybodaeth i Fyfyrwyr’.
4.4 Am dorri un o Reoliadau’r Brifysgol, a Rheoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth neu Reoliadau Chwaraeon neu Reoliadau Neuadd na chynhwysir yn Rheolau’r Brifysgol, gall y cosbau fod yn gerydd, dirwy (heb fod dros £100), gwaharddiad rhag defnyddio cyfleusterau’r Brifysgol neu ddiarddeliad o Neuadd Breswyl neu waharddiad rhag defnyddio cyfleusterau Undeb y Myfyrwyr neu unrhyw fudiad arall ymhlith y myfyrwyr. Rhaid i bob dirwy sy'n fwy na £50 neu swm sy’n cyfateb yn lleol, gael ei gadarnhau gan yr Uwch Diwtor.
4.5 Yn ogystal â’r cosbau a amlinellir uchod, efallai y bydd yn ofynnol i fyfyrwyr dalu iawndal i’r Brifysgol, i aelod unigol o’r staff neu fyfyriwr, i Undeb y Myfyrwyr neu unrhyw fudiad myfyrwyr arall am ddifrod neu golled a achoswyd, ar dderbyn anfoneb.
4.6 Mae’n bosibl y diddymir rhan neu’r cyfan o’r cosbau uchod os bydd y myfyriwr, mewn achos o drosedd a olygai ddifrod neu golled, yn ymrwymo i wneud iawn am y difrod neu’r golled. Os bydd myfyriwr yn ymrwymo i wneud iawn am y difrod neu’r golled, fe roddir iddo gyfnod rhesymol o amser i wneud hynny.
4.7 Bydd unrhyw dorri ar y rheolau a rheoliadau parcio yn golygu y bydd gyrrwr y cerbyd yn debygol o gael Rhybudd Tâl Parcio gan un o swyddogion diogelwch Gwasanaethau’r Campws. Bydd y rhybudd yn rhoi manylion i’r gyrrwr ynghylch y rheol a dorrwyd ac yn rhoi cyfle iddynt apelio yn erbyn y tâl neu i dalu’r ddyled drwy dalu’r cwmni a gontractiwyd gan y Brifysgol i reoli’r cynllun. Os telir y ddyled o fewn 14 diwrnod bydd gostyngiad o 50%.
4.8 Am dorri Rheoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth ynglŷn â benthyg llyfr, cyfnodolyn neu eiddo arall, gellir codi dirwyon ar gyfradd i’w phennu gan y Brifysgol.
4.9 Rhaid talu iawndal am golli llyfr, cyfnodolyn neu unrhyw beth arall o eiddo’r Gwasanaethau Gwybodaeth, neu unrhyw offer sydd ar fenthyciad tymor byr oddi wrth y Brifysgol, ar dderbyn anfoneb.
4.10 Cedwir manylion am unrhyw gosbau a roddwyd oherwydd torri Rheolau neu Reoliadau’r Brifysgol yn ffeil y myfyriwr am weddill cofrestriad y myfyriwr yn y Brifysgol.