6.2 Siarter y Myfyrwyr

Mae’r Brifysgol yn cydweithio’n agos ag Undeb y Myfyrwyr i lunio Siarter y Myfyrwyr sy’n cael ei diweddaru bob blwyddyn. Mae’r Siarter yn mynegi, yn glir ac yn gryno, yr hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl o’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, a hefyd gyfrifoldebau’r myfyrwyr yn gyfnewid am hynny. Mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i feithrin cymuned ddysgu gadarnhaol, ddiogel a byrlymus, lle caiff pob myfyriwr y cyfle i wireddu’i holl addewid, a lle caiff pawb eu trin yn broffesiynol a chyda pharch, urddas a chwrteisi mewn amgylchedd cynhwysol.