15.2 Dyfarniadau Troseddol, Ymchwiliadau Heddlu, a Gweithredu dros dro

1. Rhaid i unrhyw fyfyriwr hysbysu'r Brifysgol os caiff ei ddyfarnu'n euog o drosedd (ac eithrio troseddau moduro lle rhoddwyd cosb o ddirwy a/neu dri phwynt cosb yn unig) cyn dechrau yn y Brifysgol neu yn ystod y cyfnod y mae wedi cofrestru'n fyfyriwr yn y Brifysgol. Dylid anfon manylion am y drosedd a'r gosb (cyn mynediad ac ar ôl mynediad) at y Cofrestrydd Academaidd trwy e-bost at arconf@aber.ac.ukneu trwy’r post at: Y Cofrestrydd Academaidd, Y Gofrestrfa Academaidd, 1.02 Adeilad Cledwyn, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth SY23 3DD. 

2. Rhaid i unrhyw fyfyriwr a ddyfernir yn euog o drosedd yn ystod y cyfnod y mae wedi cofrestru’n fyfyriwr yn y Brifysgol roi gwybod i’r Cofrestrydd Academaidd ar unwaith (gweler Rheol 28.2). Nid oes angen i fyfyrwyr roi gwybod am droseddau moduro lle rhoddwyd cosb o ddirwy a/neu dri phwynt cosb yn unig.

3. Bydd y Cofrestrydd Academaidd, mewn ymgynghoriad â’r Dirprwy Is-Ganghellor fel sy’n briodol, yn penderfynu ar sail yr wybodaeth a dderbyniwyd (neu yn cysylltu â’r myfyriwr i gael rhagor o wybodaeth a/neu ganiatâd, yn ôl yr angen, i ofyn i eraill am ragor o fanylion), a ddylid argymell i’r Brifysgol weithredu ymhellach er budd ei myfyrwyr a’i staff.

4. Bydd asesiad risg yn cynnwys y canlynol:

(i) a oes gan y drosedd oblygiadau ynglŷn ag addasrwydd y myfyriwr i fod yn aelod o’r Brifysgol (e.e. troseddau treisiol, rhywiol neu hiliol, gwerthu cyffuriau);

(ii) a yw’r myfyriwr wedi aildroseddu, ac, os ydyw, a oes patrwm i’r troseddau dilynol;

(iii) a oes gan yr ymddygiad troseddol unrhyw oblygiadau i ddiogelwch, hawliau a rhyddid myfyrwyr eraill a staff y Brifysgol.

5. Ar sail yr asesiad risg, gellir cyfeirio’r mater at y Panel Gweithredu Dros Dro.

6. Bydd gofyn i'r Panel Gweithredu Dros Dro sefydlu lefel tebygol y risg i gymuned y Brifysgol (cyn belled ag y bo modd canfod hynny).

7. Lle bydd y Panel Gweithredu Dros Dro yn penderfynu, yng ngeiriau’r Ddeddf Hawliau Dynol, ei bod yn 'angenrheidiol er lles ... diogelwch y cyhoedd ... er mwyn osgoi anhrefn neu drosedd, er mwyn gwarchod iechyd a moesau, neu er mwyn gwarchod hawliau a rhyddid eraill ...‘ y dylid argymell gosod amodau (e.e. na chaiff fyw mewn neuadd breswyl nac ymweld â neuaddau preswyl nac eiddo trwyddedig y Brifysgol), yna caiff yr amodau hyn eu gwneud yn glir yn ysgrifenedig. Rhaid i’r llythyr hwnnw hefyd nodi y bydd ymddygiad y myfyriwr yn cael ei fonitro i weld a yw’n cydymffurfio â’r amodau, ac y bydd penderfyniad y Panel yn cael ei hysbysu i aelodau penodol o staff y Brifysgol (e.e. Rheolwyr Bywyd Campws neu Undeb y Myfyrwyr fel sy’n briodol) ar y sail bod arnynt ‘angen gwybod’. Bydd gan y myfyriwr hawl i gyflwyno apêl i’r Dirprwy Is-Ganghellor yn erbyn penderfyniad y Panel.

8. Os yw’r Panel Cyfweld yn penderfynu bod y myfyriwr yn fygythiad parhaus i eraill yng nghymuned y Brifysgol, a bod yna achos clir dros waharddiad dros-dro neu eithrio, caiff y mater ei gyfeirio at Bwyllgor Disgyblu'r Brifysgol (gweler 5.3.57, 5.4 a 5.5 yn y Rheolau a’r Rheoliadau).

Ymddygiad troseddol a honiadau camymddwyn

9. Gall ymddygiad troseddol olygu bod Rheolau a Rheoliadau'r Brifysgol i fyfyrwyr wedi'u torri hefyd. Os bydd myfyrwyr yn cael eu rhyddfarnu ar ôl cael eu cyhuddo o droseddu, caiff y Brifysgol serch hynny weithredu o dan ei threfn ddisgyblu.

10. Os bydd yr heddlu neu'r llysoedd yn ymdrin â'r mater dan sylw, fel rheol fe fydd y Brifysgol yn aros am ganlyniad y gweithdrefnau hynny cyn iddi gynnal ei harchwiliad mewnol, gan gadw cyswllt â'r heddlu ac â'r myfyrwyr dan sylw yn ystod y cyfnod hwn.

11. Efallai y bydd angen cymryd camau dros dro wrth i archwiliad troseddol gael ei gynnal, ac efallai y bydd hynny'n golygu atal myfyrwyr dros dro o'r Brifysgol.

12. Fel rheol mae gweithredu dros dro gan y Brifysgol yn gysylltiedig ag ymchwiliadau Disgyblu Myfyrwyr neu Addasrwydd i Ymarfer, neu lle mae ymchwiliad gan yr heddlu yn parhau. Nid yw'n gosb, nid yw'n awgrymu torri Rheolau a Rheoliadau, ac nid yw'n awgrymu bod myfyriwr yn anaddas i ymarfer.

13. Dim ond lle mae'r Brifysgol o'r farn bod angen diogelu myfyrwyr, staff, neu'r gymuned ehangach y mae Camau Gweithredu Dros Dro yn cael eu cymryd. Mae hyn yn cynnwys diogelu myfyrwyr sy'n destun ymchwiliad.

14. Lle mynegir pryder gan fyfyrwyr, staff y brifysgol neu aelodau'r cyhoedd, gall aelod o Weithrediaeth y Brifysgol:

(i) Osod Camau Gweithredu Dros Dro ar unwaith am gyfnod o hyd at 10 diwrnod gwaith, i'w adolygu gan banel gweithredu dros dro;

(ii) Cyfeirio'r achos at banel Gweithredu Dros Dro, lle na ystyrir bod angen gweithredu ar unwaith.

15. Gall y Cofrestrydd Academaidd neu’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr gyfeirio achos at y Panel Gweithredu Dros Dro ar sail asesiad risg.

16. Gall Gweithredu Dros Dro gynnwys un neu fwy o'r canlynol. Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr a gellir gorfodi dulliau eraill o weithredu dros dro

(i) Gwaharddiad dros dro i gofrestriad y myfyriwr;

(ii) Gwaharddiad dros dro o fynychu gweithgareddau dysgu ac asesu ar y campws;

(iii) tynnu o leoliadau astudio penodol neu weithgareddau academaidd eraill;

(iv) Gwaharddiad o weithgareddau ymchwil penodol;

(v) Gwaharddiad o’r campws, ardaloedd penodol o’r campws, neu adeiladau’r Brifysgol;

(vi) gofyniad i adael Llety’r Brifysgol (gan ddarparu llety arall yn unol â’r cytundeb trwydded llety);

 (vii) Gwaharddiad o ddigwyddiadau’r Brifysgol, yn cynnwys seremonïau Graddio;

(viii) Gwaharddiad o weithgareddau an-academaidd penodol i fyfyrwyr;

(ix) Gwaharddiad o weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, yn cynnwys cyflogaeth;

(x) Cyswllt cyfyngedig ag unigolion a enwir (er y dylid nodi bod angen i fyfyrwyr dan gyhuddiad osgoi cyswllt fel rhagofal safonol drwy gydol ymchwiliadau disgyblaeth y myfyriwr).

(xi) Mynediad cyfyngedig i adnoddau electronig.

17. Bydd gan y myfyrwyr dan gyhuddiad yr hawl i gael cyngor a chynrychiolaeth gan Undeb y Myfyrwyr yn ystod y broses Gweithredu Dros Dro. Byddant hefyd yn gallu cael cyngor a chymorth gan Wasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol.

18. Bydd y Cofrestrydd Academaidd a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Myfyrwyr yn cael gwybod am bob Gweithred Dros Dro sy'n cael ei rhoi ar waith gan aelodau o Weithrediaeth y Brifysgol.

Panel Gweithredu Dros Dro

19. Bydd y panel Gweithredu Dros Dro yn cael ei alw gan y Gofrestrfa Academaidd at y dibenion canlynol:

(i) Adolygu Camau Gweithredu Dros Dro a osodir gan aelodau o Weithrediaeth y Brifysgol;

(ii) Ystyried argymhellion ar gyfer gweithredu dros dro newydd ar sail risg;

(iii) Adolygu'r achosion presennol yn sgil datblygiadau newydd neu dystiolaeth ychwanegol.

(iv) Ystyried gweithredu pellach o ganlyniad i ddyfarniad troseddol.

20. Bydd aelodau'r panel yn cynnwys:

(i) Cofrestrydd Academaidd neu enwebai;

(ii) Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Myfyrwyr neu enwebai.

21. Gwahoddir myfyrwyr i fynychu cyfarfodydd y panel Gweithredu Dros Dro, a darperir tystiolaeth ddogfennol lle bydd ar gael.

22. Gall myfyrwyr gael eu cynrychioli gan gynghorydd o Undeb y Myfyrwyr. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu cynrychiolaeth gan unigolion eraill, ac fe ddylai unrhyw geisiadau am gynrychiolaeth o'r fath gael eu gwneud yn ysgrifenedig i'r Cadeirydd cyn i'r panel gyfarfod. Fel arfer ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol yn y cyfarfod.

23. Os nad yw myfyriwr yn bresennol mewn cyfarfod o'r panel heb fod ganddo/ganddi reswm da, gall y cyfarfod fynd yn ei flaen hebddo/hebddi.

24. Bydd gan fyfyrwyr yr hawl i glywed gwybodaeth yn ymwneud â'r Gweithredu Dros Dro ac i ymateb wyneb yn wyneb i’r Panel.

25. Yn dilyn ymateb y myfyriwr, bydd pob unigolyn, ac eithrio aelodau'r Panel, a'r ysgrifennydd os yw'n bresennol, yn tynnu'n ôl.

26. Gall y panel gadarnhau un o'r canlynol:

(i) Rhoi diwedd ar weithredu dros dro;

(ii) Gweithredu dros dro newydd;

(iii) Diwygio'r gweithredu dros dro presennol;

(iv) Cadarnhau'r gweithredu dros dro presennol.

(v) Cyfeirio achosion sy’n cynnwys dyfarniadau troseddol i’w hystyried ymhellach gan y Panel Disgyblu Myfyrwyr.

Ym mhob achos ac eithrio (v) bydd dyddiad adolygu yn cael ei gadarnhau a rhoddir gwybod i’r myfyriwr am benderfyniadau'r panel. Bydd ysgrifennydd y panel yn hysbysu'r myfyriwr o’r penderfyniadau.

 

Diweddarwyd y bennod: Medi 2023