Adolygiad Addysg Uwch: Cymru

Daeth tîm adolygu ASA i ymweld â’r Brifysgol fis Ebrill 2016 er mwyn cynnal Adolygiad Addysg Uwch: Cymru. Casgliad ASA oedd bod y Brifysgol yn cyflawni disgwyliadau’r DU ym mhob un o’r meysydd allweddol:

  • Gosod a chynnal safonau academaidd.
  • Ansawdd y cyfleoedd dysgu i’r myfyrwyr.
  • Ansawdd yr wybodaeth am y cyfleoedd dysgu.
  • Y gwelliant yn y cyfleoedd dysgu i’r myfyrwyr.

Canfu’r tîm adolygu y nodwedd ganlynol o arfer da yn y Brifysgol:

  • Y broses cyn cofrestru a chymorth personol a roddir i fyfyrwyr, gan gynnwys y rheiny ag anghenion penodol, sy’n hwyluso mynediad i’r Brifysgol (Disgwyliad B2).

Cyhoeddir adroddiad Adolygiad Addysg Uwch: Cymru gan ASA, ac mae Cynllun Gweithredu'r Brifysgol mewn ymateb i argymhellion a chadarnhad yr adroddiad hefyd ar gael.