AMSERLEN COFRESTRU ISRADDEDIGION AR GYFER MEDI 2025
COFRESTRU AR ADEGAU ERAILL O'R FLWYDDYN
Myfyrwyr sydd angen cofrestru ar adegau arall o'r flwyddyn (nid yn mis Medi) fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch adran(nau) am gyngor ar eich dewisiadau modiwl.
Bydd eich adran yn rhoi eich dewisiadau modiwlau ar eich cofnod, yna bydd angen i chi gwblhau’r ‘dasg cofrestru ar-lein’ drwy eich Cofnod Myfyriwr ar y we. Bydd y dasg ar gael ar eich cofnod o leiaf 5 diwrnod cyn eich dyddiad cychwyn a RHAID i chi gwblhau'r dasg gofrestru o fewn 5 diwrnod ar ôl eich dyddiad cychwyn swyddogol.
Cynghori a Rhag-Gofrestru
Rhag-gofrestru ar gyfer pob Myfyriwr Newydd (ac eithrio Cyrsiau Nyrsio BSC, Gwyddor Filfeddygol BVSC a Dysgu o Bell)
Mae cynghori ar Gynlluniau Astudio a Modiwlau yn digwydd ar-lein ar gyfer holl fyfyrwyr newydd drwy’r dasg Rhag-gofrestru ar y Cofnod Myfyriwr ar y we.
Bydd y dasg Rhag-gofrestru ar gael i holl fyfyrwyr newydd o ddydd Llun 15 Medi hyd at ddydd Llun 22 Medi. RHAID i fyfyrwyr gael cyngor wrth eu hadrannau CYN cwblhau'r dasg Rhag-gofrestru.
Cofrestru ar gyfer bob Myfyriwr
Blwyddyn Gyntaf (Rhan Un) sy’n dilyn Modiwlau Lefel 0 ac/neu Lefel 1
Myfyrwyr Nyrsio
Myfyrwyr Gwyddoniaeth Milfeddygol BVSC
Myfyriwr Rhan Dau sydd wedi cwblhau Rhag Cofrestru yn foddhaol
Myfyrwyr Rhan Dau sydd heb gwblhau Rhag-Gofrestru
Cyrsiau Dysgu o Bell
Dylai POB MYFYRIWR fod wedi cwblhau'r dasg Cofrestru Ar-lein erbyn 5pm ddydd Mercher 24 Medi (ac eithio myfyrwyr Nyrsio a Gwyddoniaeth Milfeddygol a ddylai wedi cwblhau cofrestru yn gynt).
Gall MYFYRWYR AG UNRHYW GWESTIYNAU neu unrhyw un sydd angen cymorth i gwblhau’r dasg Cofrestru Ar-lein ddod draw i’r Ddesg Gymorth Cofrestru yng nghyntedd Llyfyrgell Hugh Owen o 9am tan 5pm dydd Llun 22, dydd Mawrth 23 neu ddydd Mercher 24 Medi.
Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr gan ddefnyddio unrhyw un o’r manylion cyswllt canlynol:
Cyfleuster ‘Sgwrsio’ ar dudalen cartref eich Cofnod Myfyriwr neu hefyd ar gael ar dudalen we Materion Israddedigion
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk / Dysgu o bell dlrstaff@aber.ac.uk
Neu ffoniwch wrth ddefnyddio'r rhifau ffôn ar ein manylion cyswllt ar dudalen Materion Israddedigion
Cysylltion Defnyddiol
Cofnod Myfyriwr ar y we:
https://studentrecord.aber.ac.uk/cy/
Croeso Myfyrwir a’r Wythnos Ymgartrefu:
https://www.aber.ac.uk/cy/new-students/freshers/
Adrannau a Chyfleusterau:
https://www.aber.ac.uk/cy/departments/
Arian Myfyrwyr:
https://www.aber.ac.uk/cy/student-finance/
Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr:
https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/