Clirio Myfyrwyr
(1).png)
Llety i Fyfyrwyr Clirio
Os ydych chi'n fyfyriwr newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2025 drwy’r broses Glirio, dilynwch y camau isod i wneud cais am lety.
Rydym yn gwarantu llety i bob myfyriwr, ac er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar sail eich dewisiadau, efallai ond opsiynau cyfyngedig fydd ar gael ar yr amser hyn.
Os oes angen, bydd cyfle i wneud cais am drosglwyddiad i opsiwn llety arall ym mis Hydref. Caiff trosglwyddiadau eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, a chewch fwy o wybodaeth drwy e-bost yn agosach at yr amser.