Cynllun Cymhelliant Llety Prifysgol Aberystwyth i Fyfyrwyr sy'n Dychwelyd (2027/28)
Telerau ac Amodau
- Y Cynnig a'r Cymhellion
1.1. O dan y cynllun hwn, gall pob myfyriwr cymwys sy'n dychwelyd ddewis Un o'r opsiynau cymhelliant canlynol:
- Opsiwn A: Taleb o £100 ar gyfer Credyd Golchi Dillad, y gellir ei defnyddio ar yr Ap Circuit Go Laundry ar gyfer holl olchdai’r Brifysgol.
- Opsiwn B: Gwerth £100 o gredyd wedi'i lwytho ar Gerdyn Aber y myfyriwr y gellir ei wario yn safleoedd y brifysgol sy'n cymryd rhan.
1.2. Rhaid dewis y cymhelliant ar adeg gwneud y cais am lety ac ni ellir ei ddiwygio ar ôl ei gadarnhau.
- Meini Prawf Cymhwysedd
2.1. Mae'r Cynllun yn agored i fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac sy'n gwneud cais llwyddiannus ac yn sicrhau lle i ddychwelyd i lety sy'n eiddo i'r brifysgol neu a reolir ganddi ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28
2.2. Eithriadau: Nid yw’r cynnig hwn ar gael i fyfyrwyr sy’n manteisio ar, neu’n ymgymryd â’r Wobr Llety Myfyrwyr Rhyngwladol. Yn ogystal, ni fydd unrhyw fyfyrwyr sydd â dyled Ffioedd Llety ar adeg defnyddio’r cynnig yn gymwys.
2.3. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cymhelliant, rhaid i fyfyrwyr fodloni'r holl ofynion canlynol:
- Derbyn a chwblhau'r holl gamau sydd eu hangen i gychwyn Contract Meddiannaeth dilys ar gyfer tymor 2027/28 erbyn 12:00 ddydd Llun 15 Chwefror 2027
- Cwblhau’r Cynefino Cyn Cyrraedd gorfodol drwy borth llety'r brifysgol cyn dyddiad dechrau eu contract.
- Trefnu cynllun talu cymeradwy yn llwyddiannus (e.e. trwy Cyllid Myfyrwyr neu amserlenni debyd uniongyrchol) ar gyfer eu ffioedd llety yn 2027/28 cyn dyddiad dechrau eu contract.
- Defnyddio a Dosbarthu
3.1. Mae’r cymhelliant a ddewiswyd ond yn gallu cael ei ddefnyddio ar ôl i’r myfyriwr symud yn ffurfiol i'w llety prifysgol ym mis Medi 2027. Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn symud i’r llety neu’n cwblhau’r cofrestru hawl i dderbyn y cymhelliant
3.1.1 Bydd Talebau Credyd Golchi Dillad yn cael eu hanfon drwy e-bost yn yr wythnos sy’n cychwyn ar 4 Hydref 2027 i'r rhai a ddewisodd Opsiwn A ar yr amod bod yr holl amodau yn Adran 2.3 wedi'u gwirio.
3.1.2 Bydd Credyd Cerdyn Aber yn cael ei lwytho ar Gerdyn Aber y myfyriwr yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 4 Hydref 2027 i'r rhai a ddewisodd Opsiwn B ar yr amod bod yr holl amodau yn Adran 2.3 wedi'u gwirio.
3.2. Nid yw’r cymhellion yn dal unrhyw werth o ran arian parod. Ni ellir eu had-dalu, ni ellir eu trosglwyddo i fyfyrwyr eraill, ac ni ellir eu defnyddio i’w gosod yn erbyn ffioedd dysgu neu rent llety yn uniongyrchol.
- Terfynu Contract
4.1. Dim dwyn ymlaen: Bydd unrhyw werth ariannol sy'n weddill ar y Cerdyn Aber ar ddyddiad gorffen ffurfiol Contract Meddiannaeth 2027/28 y myfyriwr yn cael ei fforffedu'n barhaol. Ni ellir ei ddwyn ymlaen i flynyddoedd academaidd yn y dyfodol, gosodiadau haf, neu gontractau dilynol. Nid oes rhwymedigaeth o ran amser ar gyfer y credyd golchi dillad trwy'r Ap Circuit Go Laundry, fodd bynnag, nodwch mai dim ond i breswylwyr llety a reolir gan y brifysgol y mae mynediad i ystafelloedd golchi dillad a reolir gan y brifysgol ar gael.
4.2. Terfynu'n gynnar: Os yw Contract Meddiannaeth yn cael ei derfynu'n gynnar, neu os yw myfyriwr yn tynnu'n ôl o Brifysgol Aberystwyth, neu'n cael eu gwahardd cyn diwedd y contract, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddadysgogi neu adennill unrhyw ran o'r credyd cymhelliant nas defnyddiwyd.
4.3 Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i atal, canslo neu adennill cymhelliant os cafodd ei ddyfarnu mewn camgymeriad neu ei sicrhau drwy gyfrwng gwybodaeth gamarweiniol, dwyllodrus neu anonest.
- Rheoliadau Cyffredinol
5.1. Mae Gwasanaethau Llety Prifysgol Aberystwyth yn cadw'r hawl i newid, diwygio neu dynnu'r cynllun hwn yn ôl ar unrhyw adeg o ganlyniad i ofynion gweithredol. Ni fydd unrhyw newidiadau yn effeithio ar fyfyrwyr sydd eisoes wedi bodloni'r holl ofynion cymhwysedd ac wedi cymhwyso ar gyfer y cymhelliant, oni bai bod newidiadau o'r fath yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu i atal twyll neu gam-drin
5.2. Gall camddefnyddio Cerdyn Aber neu dorri rheolau llety'r brifysgol arwain at fforffedu'r cymhelliant, ochr yn ochr â gweithdrefnau disgyblu safonol.
5.3 Bydd penderfyniad y Brifysgol ynghylch cymhwysedd a gweithredu'r Cynllun yn derfynol.