Cwestiynau Cyffredin Clirio

Cliciwch ar y cwestiynau isod i ddatgelu’r atebion i’r cwestiynau mwyaf poblogaidd. Os nad oes ateb i’ch cwestiwn, cysylltwch gyda ni ar y Llinell Gymorth Clirio 0800 121 40 80.

Beth yw Clirio?

Gallai Clirio fod yn llwybr yr hoffech ei ddilyn os nad yw eich canlyniadau'r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, os ydych wedi newid eich meddwl am gwrs neu ble yr hoffech astudio, neu os mai dim ond nawr rydych wedi penderfynu gwneud cais i astudio mewn prifysgol. Gallwch hefyd wneud cais trwy Glirio os ydych wedi gwrthod pob cynnig a gawsoch, neu wedi gwneud cais ar ôl 30 Mehefin 2025. Bydd digon o ddewis ar gael i chi ond gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am lefydd gwag yn ddigon cynnar.

Dwi wedi derbyn fy nghanlyniadau yn barod. Alla i ymgeisio am le mewn prifysgol nawr?

Os ydych chi wedi derbyn eich canlyniadau arholiadau yn barod, gallwch ymgeisio am le i astudio gyda ni trwy’r broses Glirio o'r 5ed o Orffennaf. 

Pa gyrsiau sydd ar gael a sut ydw i’n ymgeisio?

Mae gennym amrywiaeth o gyrsiau ar gael i fyfyrwyr sy’n chwilio am le drwy’r broses Glirio.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd a sut i wneud cais, cysylltwch ag aelod o’n Tîm Clirio ar 0800 121 4080 (Llinell ffôn ddi-dâl).

Ar ôl i mi gael cynnig lle, beth nesaf?

Os ydych chi’n cael cynnig geiriol ar ôl siarad ag aelod o’r Tîm Clirio, byddwch yn cael neges e-bost yn egluro sut y gallwch dderbyn y cynnig. Gellir derbyn cynigion trwy ddefnyddio’r tab ‘Add Clearing Choice’ ar eich Cofnod UCAS Hub.

 

1. Cofiwch ychwanegu eich dewis Clirio drwy’r UCAS Hub byddwch angen:

  • Eich Rhif Personol UCAS
  • Cod UCAS Aberystwyth - ABWTH A40
  • Cod y Cwrs
  • Gofynnir i chi am God y Campws - gadewch hwn yn wag
  • Dyddiad dechrau 22-09-2025

*Os ydym ni wedi gofyn i chi am brawf o’ch cymwysterau a geirda, cofiwch anfon rhain atom*

 2. Ar ôl i chi gadarnhau eich lle gyda ni, mi fydd y tîm llety’n cysylltu â chi drwy e-bost yn eich gwahodd i wneud cais am lety'r Brifysgol.

3. Cysylltwch â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i drefnu eich cyllid. Gallwch hefyd gysylltu â’n Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr os oes gennych unrhyw ymholiadau.

4. Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybodaeth ichi am Wythnos y Glas.

 

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cadarnhau eich lle 0800 121 4080 (Llinell ffôn ddi-dâl) neu clirio@aber.ac.uk

Os ydw i’n cael cynnig lle, pryd mae angen penderfyniad?

Byddem yn argymell eich bod yn derbyn eich cynnig cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eich lle â ni. 

Pa gyllid sydd ar gael i gynorthwyo fy astudiaethau?

Mae gan ymgeiswyr y drefn Glirio hawl i gael eu hystyried am Gwobr Rhagoriaeth Academaidd, sydd werth hyd at £2,000 yn eich blwyddyn gyntaf.

Mae'r Wobr Rhagoriaeth Academaidd yn gwobrwyo rhagoriaeth academaidd cyn dechrau yn y Brifysgol. 

Sut mae gwneud cais?

Does dim rhaid i chi wneud cais – os ydych wedi nodi Aberystwyth fel dewis Cadarn drwy UCAS ac os cewch y canlyniadau isod byddwch yn derbyn y wobr yn awtomatig:

  • Graddau AAA yn yr arholiadau Safon Uwch*
  • DDD yn Niploma Estynedig Lefel 3 BTEC
  • 34 pwynt yn y Fagloriaeth Ryngwladol
  • Ystyrir cymwysterau eraill y DU/UE hefyd.

*Mae’n bosibl y derbynnir gradd A yn Niploma Uwch Bagloriaeth Cymru, a fydd yn cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch, yn lle un o’r graddau Safon Uwch.

Sut fyddaf i’n cael fy nhalu?

Cewch eich talu mewn dau randaliad cyfartal yn syth i’ch cyfrif banc yn ystod eich blwyddyn gyntaf – y cyntaf ddechrau mis Rhagfyr a’r ail ddechrau mis Mawrth.

Mae manylion am fenthyciadau ffioedd myfyrwyr a chymorth cynnal a chadw ar gael gan eich corff cyllid myfyrwyr:

Os ydw i’n cael cynnig - sut ydw i'n gwneud cais am lety?

Rydym yn sicrhau llety i ymgeiswyr clirio. I fod yn gymwys bydd angen i chi sicrhau bod eich cais am lety yn cael ei gyflwyno’n llwyddiannus erbyn 1af Medi 2025, eich bod yn derbyn y cynnig llety a wnaed i chi ac yn cwblhau’r Pecyn Trwydded Llety erbyn y dyddiad cau a nodwyd yn e-bost eich cynnig llety. Sylwer, er ein bod yn gwarantu lle yn llety’r Brifysgol, ni allwn warantu math penodol o ystafell neu leoliad. Mae telerau ac amodau yn berthnasol, cyfeiriwch at ein Polisi Blaenoriaethau am fanylion pellach.

Pa fath o lety sydd ar gael a beth yw'r gost?

Rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o lety, p’un a ydych awydd ystafell en-suite neu ystafell safonol, llety arlwyedig neu lety hunanarlwyo, mae gennym amrywiaeth o ddewisiadau sy’n addas ar gyfer eich cyllideb a’ch blaenoriaethau. Ar ben hynny, mae cynlluniau talu yn gallu cael eu trefnu i gyd-fynd â derbyn eich arian benthyciad myfyriwr er mwyn eich helpu i gadw trefn ar eich arian!

Am wybodaeth bellach, yn cynnwys teithiau rhithwir o’r gwahanol fathau o lety sydd ar gael, gweler ein tudalen Opsiynau Llety.

Yn ogystal â gwarantu lle mewn llety i fyfyrwyr newydd, pan fyddwch yn byw gyda ni, ni fydd angen poeni am filiau anwadal a dyddiadau dyledus ar hap. Mae Ffioedd Llety’r Brifysgol yn cynnwys gwasanaethau, y rhyngrwyd (a chyswllt diwifr) a lefel uchel o yswiriant cynnwys personol.

Hefyd ar gael ar gyfer myfyrwyr cychwyn mis Fedi 2025:

Os ydw i’n cael cynnig - sut ydw i'n gwneud cais am lety?

Yn fuan ar ôl cadarnhau lle i chi astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn cael e-bost gan y Swyddfa Llety yn eich gwahodd i wneud cais am lety prifysgol.

Bydd yr e-bost yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch sut i wneud cais trwy ein Porth Llety ar-lein. Byddwch angen eich rhif UCAS personol 10 digid, eich cyfenw a’ch dyddiad geni i fewngofnodi a gwneud cais am lety. 

Gallwch hefyd edrych ar ein canllaw cam-wrth-gam hwylus ar Sut i Wneud Cais am lety prifysgol.

Wrth wneud cais am lety, byddwch yn gallu dewis eich llety a'ch ystafell. Er ein bod yn gwarantu llety i bob myfyriwr blwyddyn gyntaf, sylwch fod dewis o lety ac ystafelloedd yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i'r felin.

A oes modd newid neuadd os nad wyf yn hapus gyda’r cynnig?

Os nad ydych yn hapus â’ch cynnig llety, cysylltwch â’r swyddfa llety fel bod modd i aelod o’r tîm edrych i weld a oes lleoedd ar gael yn un o’r neuaddau eraill.